Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ymarfer Clinigol a Chymunedol

Tystysgrif / Diploma Graddedig mewn Ymarfer Cymunedol

Tystysgrif / Diploma Graddedig Ymarfer Clinigol

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau ar gyfer ymarferwyr cofrestredig sydd eisoes wedi graddio.

Mae’r Tystysgrifau i Raddedigion yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd am ehangu eu gwybodaeth gyffredinol, neu wybodaeth benodol, glinigol, a pharatoi eu hunain ar gyfer astudio pellach ar lefel Meistr. Yn y cwrs ymarfer cymunedol, mae Rheoli Cyflyrau Cronig yn ddelfrydol os oes gennych y Cymhwyster Nyrsio Ardal cofnodadwy.

Mae’r arbenigedd Gofal Cymdeithasol yn ddelfrydol os ydych eisoes wedi cymhwyso fel gofalwr cymdeithasol, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol. Yn y cwrs ymarfer clinigol, bwriad y Dystysgrif Graddedig Presgripsiynu Anfeddygol yw bod yn gymhwyster ar gyfer fferyllwyr, podiatryddion a ffisiotherapyddion.

Ffeithiau allweddol

  • Yn y Dystysgrif Graddedig mae modd i chi astudio modiwlau mewn presgripsiynu a gymeradwywyd gan eich Corff Rheoleiddio Proffesiynol
  • Mae’r modiwlau a gynigir yn y Dystysgrif a’r Diploma wedi eu datblygu ar gais cyflogwyr gofal iechyd lleol
  • Caiff y ffioedd ar gyfer y rhan fwyaf o ymgeiswyr eu talu gan naill ai eu cyflogwr neu gan Lywodraeth y Cynulliad
  • Cewch drafod gwneud astudiaethau sy’n benodol i’ch maes ymarfer chi i’w ychwanegu at eich rhaglen
  • Mae Tystysgrif / Diploma Graddedig arall mewn Arwain a Rheoli Gofal Iechyd wrthi’n cael ei ychwanegu at y portffolio hwn, yn amodol ar gael ei ddilysu

Cynnwys cyffredinol y cwrs:

Ar gyfer yr opsiwn cyffredinol cewch ddewis modiwlau o’r holl lwybrau arbenigol. Er mwyn astudio llwybr arbenigol rhaid i chi ddewis o leiaf 2 fodiwl ar gyfer y Dystysgrif neu 3 modiwl ar gyfer y Diploma o’r modiwlau arbenigol ar gyfer y llwybr penodol hwnnw.

Cyfleoedd gyrfa

Bydd Tystysgrif Graddedig neu Ddiploma Graddedig sydd â llwybr penodol yn eich galluogi i ddangos fod gennych wybodaeth drylwyr ychwanegol mewn maes ymarfer proffesiynol sy’n eich galluogi i ymgymryd â rolau nyrsio arbenigol.

Cynnwys y cwrs

Tystysgrif / Diploma Graddedig mewn Ymarfer Cymunedol

Ar gyfer yr opsiwn cyffredinol cewch ddewis modiwlau o’r holl lwybrau arbenigol. Er mwyn astudio llwybr arbenigol rhaid i chi ddewis o leiaf 2 fodiwl ar gyfer y Dystysgrif neu 3 modiwl ar gyfer y Diploma o’r modiwlau arbenigol ar gyfer y llwybr penodol hwnnw.

Mae pynciau astudio ar gyfer y llwybr Rheoli Cyflyrau Cronig yn cynnwys:

  • Rheoli Cyflyrau Cronig ar gyfer Nyrsys Cymunedol
  • Rheoli Clefydau Cronig
  • Gofal Lliniarol
  • Hyfywedd Meinwe
  • Gofal Dementia
  • Gofalu am berson â Diabetes
  • Presgripsiynu Nyrs Staff (V150)

Mae meysydd astudio ar gyfer y llwybr Nyrsio mewn Meddygfa yn cynnwys:

  • Hanfodion Ymarfer yn y Gymuned, sy’n orfodol os nad yw cymhwyster ymarfer arbenigol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gennych
  • Hybu Iechyd ac Addysg
  • Mân Salwch
  • Archwiliad Clinigol
  • Rheoli Clefydau Cronig
  • Rheoli Clefyd Coronaidd y Galon
  • Gofalu am Berson â Diabetes

Ar gyfer yr opsiwn Nyrsio Plant, mae’r dewis o fodiwlau yn cynnwys:

  • Hanfodion Ymarfer yn y Gymuned, sy’n orfodol os nad yw cymhwyster ymarfer arbenigol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gennych
  • Hybu Iechyd ac Addysg
  • Gofal Iechyd Pobl Fregus
  • Gweithio Gyda Theuluoedd

Mae’r modiwlau ar gyfer y llwybr Iechyd Meddwl yn cynnwys:

  • Hanfodion Ymarfer yn y Gymuned, sy’n orfodol os nad yw cymhwyster ymarfer arbenigol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gennych
  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol
  • Egwyddorion ac Ymarfer
  • Rheoli risg mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Gofal Dementia
  • Mynd ati’n aml-ddisgyblaethol i Asesu’r Anhwylder Meddwl Fforensig

Mae pynciau ar gyfer yr arbenigedd Nyrsio Iechyd Teulu yn cynnwys:

  • Hanfodion Ymarfer yn y Gymuned
  • Hybu Iechyd ac Addysg
  • Gweithio gyda Theuluoedd
  • Gofal Iechyd Pobl Fregus
  • Prosesau Asesu a Rheoli Risg gyda Phobl Fregus
  • Gweithio mewn Partneriaeth

Ar gyfer y llwybr Gofal Cymdeithasol, mae’r modiwlau yn cynnwys:

  • Prosesau Asesu a Rheoli Risg gyda Phobl Fregus
  • Gweithio mewn Partneriaeth
  • Mynd ati’n aml-ddisgyblaethol i Asesu’r Anhwylder Meddwl Fforensig
  • Gofal Dementia

Gofynion mynediad

Mae gofyn i chi fod â gradd anrhydedd mewn nyrsio, bydwreigiaeth, fferylliaeth, radiograffeg, ffisiotherapi, podiatreg/trin traed, neu wedi’ch cofrestru’n broffesiynol a bod yn berchen ar radd mewn disgyblaeth gytras. Ar gyfer modiwlau sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol, mae gofynion ychwanegol yn berthnasol, gan gynnwys gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Gweler y gofynion cyffredinol.

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Tystysgrif Graddedig: 3 blynedd
Diploma Graddedig: 6 blynedd


Tystysgrif / Diploma Graddedig Ymarfer Clinigol

Ar gyfer yr opsiwn cyffredinol cewch ddewis modiwlau o’r holl lwybrau arbenigol. Er mwyn astudio llwybr arbenigol rhaid i chi ddewis o leiaf 2 fodiwl ar gyfer y Dystysgrif neu 3 modiwl ar gyfer y Diploma o’r modiwlau arbenigol ar gyfer y llwybr penodol hwnnw.

Mae’r opsiynau astudio yn y llwybr Gofal Acíwt a Chritigol yn cynnwys:

  • Nyrsio’r Pen a’r Gwddf
  • Egwyddorion, Integreiddio Theori ac Ymarfer, a Hyrwyddo Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal Amdriniaethol
  • Sylfaen mewn Gofalu am Berson sydd â Chyflwr Critigol, a Sylfaen mewn Gofalu am Berson sydd ag Anghenion Dibynnol Uwch

Mae’r arbenigedd Rheoli Cyflyrau Tymor Hir yn cynnwys:

  • Gofalu am Berson sydd â Diabetes
  • Rheoli Clefyd Coronaidd y Galon
  • Hyfywedd Meinwe
  • Trin Person ar ôl Strôc
  • Gofal Lliniarol a Rheoli Clefydau Cronig

Mae’r dewisiadau Iechyd Meddwl yn cynnwys:

  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol: Egwyddorion ac Ymarfer
  • Rheoli Risg mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl
  • Mynd ati’n aml-ddisgyblaethol i Asesu’r Anhwylder Meddwl Fforensig
  • Gofal Dementia

Mae meysydd astudio’r llwybr Gofalu am yr Henoed yn cynnwys:

  • Gofalu am Berson sydd â Diabetes
  • Hyfywedd Meinwe
  • Trin Person ar ôl Strôc
  • Gofal Lliniarol
  • Rheoli Clefydau Cronig
  • Gofal Dementia

Mae’r arbenigedd Nyrsio Offthalmig yn cynnwys Cyflyrau tu allan y Llygad, tu fewn y Llygad, ac Agweddau Ehangach Gofal.

Mae’r opsiwn Presgripsiynu Anfeddygol yn cynnwys Presgripsiynu Annibynnol i Nyrsys a Fferyllwyr a Presgripsiynu Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Gofynion mynediad

Mae gofyn i chi fod â gradd anrhydedd mewn nyrsio, bydwreigiaeth, fferylliaeth, radiograffeg, ffisiotherapi, podiatreg/trin traed, neu wedi’ch cofrestru’n broffesiynol a bod yn berchen ar radd mewn disgyblaeth gytras. Ar gyfer modiwlau sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol, mae gofynion ychwanegol yn berthnasol, gan gynnwys gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Gweler y gofynion cyffredinol.

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Tystysgrif Graddedig: 3 blynedd
Diploma Graddedig: 6 blynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk