Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cwnsela a seicotherapi

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Cwnsela

Diploma Addysg Uwch mewn Cwnsela a Seicotherapi Person-Ganolog a Phrofiadol

Mewn menter newydd gyffrous, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi strategaeth genedlaethol i ddod â chwnselwyr i bob ysgol yng Nghymru.
Gan ymateb i’r her yma – ac i’r galw am broffesiynoli mwy ar gwnsela a seicotherapi ym Mhrydain – mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig nifer o gyrsiau newydd.

Bydd y rhain yn rhoi cyfle i chi:

  • gael Diploma Addysg Uwch mewn cwnsela a seicotherapi person-ganolog a phrofiadol
  • symud ymlaen at radd lefel Meistr
  • cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Cwnsela ar ôl blwyddyn

Bydd y flwyddyn gyntaf o astudio ei hun yn darparu cyflwyniad i gwnsela ac i wrando o ddifrif. Mae gan unrhyw un nad ydynt yn ceisio hyfforddiant proffesiynol llawn mewn cwnsela a seicotherapi gyfle i gael Tystysgrif Addysg Uwch a fydd yn gaffaeliad yn unrhyw le ym maes ehangach gwasanaethau dynol. Mae yna lwybrau i symud ymlaen yn bodoli ac wrthi’n cael eu datblygu er mwyn eich galluogi i gael gradd lefel Meistr.

Os ydych yn dymuno hyfforddi fel cwnselydd person-ganolog – os ydych yn dymuno cynnig y posibilrwydd o berthynas empathig, ddiledryw a darparu perthynas therapiwtig effeithiol yn y pen draw – mae angen i chi brofi gwirionedd honiadau person-ganolog drosoch eich hun. Mae hynny’n golygu fod arnoch angen rhaglen hyfforddi wedi’i seilio mewn perthynas sydd yn gwbl gyson â’r agwedd berson-ganolog.

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae cyflenwi a chynnwys yn seiliedig ar ddealltwriaeth gyfredol o theori ac ymarfer Carl Rogers a’i gydweithiwr—yr athronydd, y clinigydd a’r damcaniaethwr—Eugene T. Gendlin. Gan gyfuno eu mewnwelediadau, rydym yn datgan: 

  • mai derbyniad empathig, absenoldeb beirniadaeth, a pherthynas onest, ddiledryw sy’n hwyluso potensial dynol orau. Yn ogystal, gall y rhain ar eu pennau eu hunain fod yn ddigonol ar gyfer newid, gwella a symud therapiwtig dwys
  • mae symud therapiwtig yn fwy tebygol a bydd yn dueddol o fod yn gynt pan fydd sylw gofalus, cyfeillgar yn gael ei roi gan unigolyn i’w profi eiliad-wrth-eiliad a’r modd y mae’n cael ei brosesu

Yn unigryw ym Mhrydain, rydym yn rhoi’r un pwyslais ar y ddwy agwedd yma o’r traddodiad person-ganolog.  Mae “canolbwyntio ar brofiadau” Gendlin yn cael ei addysgu a’i annog yn groyw. Bydd o fudd i’ch ymwyddiaeth ddatblygol eich hun ac yn rhywbeth y gallech ei gyflwyno i’ch ymarfer clinigol.

Yn ogystal, profir therapi chwarae a mynegiannol yng ngoleuni theori ac ymarfer person-ganolog, ystyrir beirniadaethau, a rhoddir sylw i ddatblygiadu cyfredol megis:

  • y berthynas rhwng cwnsela ac ysbrydolrwydd;
  • cysyniadau o broses a’r modd y mae’r rhain yn gysylltiedig â’r model meddygol;
  • a phwysigrwydd therapiwtig tynerwch.

Mae canolbwyntio ar brofiadau yn cael ei addysgu a’i annog fel cymorth i’ch ymwybyddiaeth ddatblygol eich hun ac yn rhywbeth y gallech ei gyflwyno i’ch ymarfer clinigol.

Yn gyffredinol, mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol a chyflogaeth derfynol yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion, naill ai mewn asiantaethau neu sefydliadau neu addysg neu mewn lleoliadau mwy entrepreneuraidd.

Prif ffeithiau

  • Ar gael yn rhan-amser

Hyd y Cwrs

Tystysgrif Addysg Uwch - blwyddyn

Diploma Addysg Uwch - 2 flynedd

MA - 3 blynedd

MA – yn amrywio yn dibynnu ar y llwybr a ddewisir

Asesu

  • Cyn belled ag y bo modd, mae asesu yn dilyn model person-ganolog o gyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol
  • Mae aseiniadau academaidd trylwyr yn cael eu monitro ar gyfer ansawdd academaidd a sylwebir arnynt fel rhan o’r ymgom hyfforddi gyfredol. Maent yn cynnwys traethodau, trawsgrifau, prosiect a chyflwyniadau ymchwil
  • Mae cwblhau lleoliadau clinigol yn llwyddiannus yn rhan hanfodol o’r cwrs

Gofynion mynediad

Ceir mynediad i’r cwrs trwy gyfweliad a datganiad cais cryno. Rydym yn edrych am fyfyrwyr sy’n meddu ar yr ymroddiad, yr aeddfedrwydd, y profiad bywyd, a’r gallu academaidd sydd yn angenrheidiol i elwa o’r hyfforddiant yma.

Cyfleoedd gyrfa

Mae cwnsela a seicotherapi yn her bersonol a phroffesiynol. Fodd bynnag, bydd y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cwnsela mewn Ysgolion yng Nghymru yn cynyddu’r galw am gwnselwyr wedi’u hyfforddi yn briodol, a mae yna bob amser gyfleoedd i therapyddion effeithiol wedi’u hyfforddi’n dda sy’n benderfynol o ymsefydlu mewn meddygfa preifat. Ble bynnag yr ydych yn gweld eich hunain ymhen pum mlynedd, os yw’n ymwneud â gweithio fel cwnselydd neu seicotherapydd, mae angen hyfforddiant cadarn arnoch, ac mae’n fwyfwy tebygol y bydd angen cymhwyster cydnabyddedig o Brifysgol arnoch hefyd. 

Cynnwys cwrs nodweddiadol

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys archwiliad cynyddol fanwl o theori ac ymarfer cwnsela a seicotherapi person-ganolog a phrofiadol.

Maent yn cynnwys: 

  • lleoliadau clinigol
  • goruchwyliaeth glinigol
  • traethodau myfyriol a thrawsgrifau sesiwn
  • therapi chwarae a mynegiannol
  • gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion
  • canolbwyntio ar brofiadau
  • safbwyntiau beirniadol
  • ochr fusnes cwnsela a seicotherapi

Darllen pellach

    Cyrsiau israddedig

    Am fwy o wybodaeth
    am ein cyrsiau
    ffoniwch
    01978 293439
    neu ebostiwch
    SID@glyndwr.ac.uk