Therapi Galwedigaethol
BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol
Therapi Galwedigaethol yw asesu a thrin cyflyrau corfforol a meddyliol drwy weithgarwch penodol, ystyrlon er mwyn atal anabledd a hyrwyddo annibyniaeth ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.
Prif nod Therapi Galwedigaethol yw cynnal neu adfer gallu’r person a gofynion eu swyddi. Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda phobl o bob oed sydd ag anableddau corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac anawsterau dysgu. Maent yn gweithio gyda phobl sydd â phroblemau cymhleth, pobl â mân anawsterau ymdopi a’r rhai sy’n gweithredu’n iawn ond yn dymuno cynnal a hyrwyddo eu lles eu hunain.
Bydd Therapydd Galwedigaethol yn asesu anghenion y person ac yna yn llunio rhaglen driniaeth a fydd yn galluogi’r person hwnnw i fyw mor annibynnol â phosibl. Caiff y triniaethau hyn eu hadolygu yn rheolaidd er mwyn gwerthuso cynnydd y person ac addasu’r driniaeth fel y bo angen.
Ffeithiau allweddol
- Dyma’r unig radd therapi galwedigaethol ran-amser yng Ngogledd Cymru
- Mae’r lleoliadau ymarfer yn ffurfio tua un traean o’r rhaglen ac fe gânt eu trefnu o fewn pellter teithio o’ch cartref lle bo hynny’n bosib. Mae un gweithdy preswyl penwythnos sydd wedi’i leoli’n ganolog
- Mae’r cwricwlwm yn rhoi ystyriaeth gyfannol i ofal cleient gan integreiddio theori ag ymarfer
- Gallwch fanteisio ar y bartneriaeth rhwng y cyrsiau Therapi Galwedigaethol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor, gan roi modd i chi gael mynediad at staff ac adnoddau corfforol ledled Cymru
- Mae mynediad i’r cwrs radd yn dod ag aelodaeth myfyriwr awtomatig o’r Coleg Therapyddion Galwedigaethol (COT) yn ei sgil. Ar ôl cwblhau’r radd byddwch yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd ac aelodaeth lawn o’r COT
- Mae’r cwrs wedi ei gymeradwyo ar y gwerth uchel y mae’n ei roi ar gefnogi myfyrwyr yn eu hastudiaethau
- Mae cyllid ar gael drwy Lywodraeth Cynulliad i dalu am ffioedd cwrs nifer o leoedd ar y rhaglen
Cyfleoedd gyrfa
Bydd graddedigion yn gallu cofrestru fel Therapydd Galwedigaethol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd, gan roi hawl iddynt weithio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU a thramor.
