Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Teledu

TV welsh intro with pic

BA (Anrh) Cynhyrchu Teledu a Thechnoleg

Cewch ddysgu a gweithio mewn amgylchedd cynhyrchu go iawn. Datblygwyd y radd yma i gydweithio’n agos gyda’r BBC, Skillset ac arbenigwyr diwydiannol blaenllaw.

Mae’r DU yn gyffredinol adnabyddus fel y drydedd farchnad adloniant ffilm fwyaf yn y byd; cynhyrchydd mwyaf diwydiannau creadigol yn Ewrop a chynyrchydd mwyaf cynnwys radio a theledu.

Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r sgiliau technegol allweddol a’r cysyniadau dylunio ac artistig sydd eu hangen er mwyn llwyddo yn y diwydiannau creadigol.

Mae ein Canolfan Diwydiannau Creadigol yn adeilad-i-bwrpas gyda’r safon cynhyrchu uchaf, ac yn gartref i BBC Cymru yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnig mantais bendant i raddedigion, sy’n gallu elwa o rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, seminarau gwadd o’r BBC a chwmnïau darlledu a chynhyrchu blaenllaw eraill ayb.   

Mae’r cwrs yma yn wahanol i’r helyw – gall myfyrwyr gyfranogi yng ngweithrediad y sianeli teledu a’r cyfleuster cynhyrchu o ddydd i ddydd, gan ymestyn cyfranogiad myfyrwyr tu hwnt i’r ddarlithfa. 

Prif ffeithiau  

  • Stiwdio deledu newydd sbon, uwch-fanylder ar y safle
  • Ôl-gynhyrchu, gweithdy 3D, cyfleusterau golygu cyfrifiadurol a hyfforddiant cyfryngol, gan ddefnyddio’r diweddaraf mewn technoleg clirlun a golygu anllinellol  
  • Ystafell amlgyfryngol â chyfarpar da
  • Canolfan theatr a chynadledda newydd ar y campws
  • Gorsaf radio gymunedol FM newydd ar y safle y gellir ei defnyddio ar gyfer gwaith ar y cyd mewn amgylchedd darlledu cwbl broffesiynol. Mae’r Brifysgol yn ddim ond dau sefydliad addysg uwch yn y DU sydd â chyfleuster o’r fath ar y campws
  • Ceir stiwdio recordio mynediad 24-awr ar y campws hefyd, a ddefnyddir ar gyfer prosiectau teledu
  • Mae gan y Brifysgol nifer o lefydd datblygu cyfryngau sy’n darparu cyfleoedd cynhyrchu proffesiynol cyfredol i fyfyrwyr – gan gynnwys Glyndwr.tv corfforaethol a GTV dan arweiniad y myfyrwyr
  • Mae’r tîm addysgu yn ymarferwyr ymchwil-weithredol
  • Hyfforddiant meddalwedd a ardystiwyd gan Apple
  • Teithiau astudio tramor i wyliau, orielau, arddangosfeydd a seminarau o fri i gynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd posib
  • Ymweliadau diwydiannol â chwmnïau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu
  • Y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol o bwys megis Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA)
  • Cyfleoedd astudio tramor trwy’r cynllun Erasmus. Mae gennym gysylltiadau gyda Ffrainc, y Ffindir, Prifysgol Mataro yn Sbaen, Academi Gelf Gwlad Pwyl yn Katowice a Phrifysgol Renmin yn Tsieina.

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Cynhyrchu Teledu a Thechnoleg

Cynnwys Cwrs Nodweddiadol

Byddwch yn dysgu ystod o dechnegau a gwybodaeth, gan gynnwys:

  • Dweud straeon
  • Storifyrddio
  • Sgriptio
  • Delweddu digidol
  • Technegau camera
  • Goleuo
  • Gwaith ar leoliad
  • Recordio sain
  • Golygu
  • Ôl-Gynhyrchu

Byddwch hefyd yn dod i werthfawrogi:

  • Cyd-destun y diwydiannau clyweledol
  • Sgiliau hanfodol rheolaeth menter
  • Entrepreneuriaeth
  • Gweithio mewn tîm

Mae modiwlau astudio’r cwrs wedi’u cynllunio i ddarparu sylfaen eang o wybodaeth sy’n pontio ystyriaethau artistig a dylunio cynhyrchu. Byddwch yn dysgu gallu ac arbenigedd technegol i gyflenwi cyfryngau ar draws aml-lwyfannau. Mae hyn yn hanfodol yn yr amgylchedd cynhyrchu gan fod rolau a chyfrifoldebau yn aneglur yn sgil datblygiad cyfredol technoleg.

Hyd y Cwrs

Llawn amser

3 blynedd

Rhan-amser

5 mlynedd

Lleoliad

Campws Wrecsam

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion academaidd ar gyfer y radd am o leiaf 200 pwynt yn lefel A neu gyfatebol.

Côd UCAS: HW66

Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais uniongyrchol.

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs yma gan gynnwys cynyrchiadau teledu, traethodau, dysgu seiliedig ar waith, portffolios, adroddiadau, a chyflwyniadau. Bydd yr asesiadau i gyd yn seiliedig ar y cwrs, ac felly nid oes arholiadau. 

Cyfleoedd gyrfa

Mae’r rhestr o gyfleoedd y gallech ddymuno mynd ar eu trywydd yn un hir a chyffrous…cyfarwyddo, cynhyrchu, ysgrifennu sgriptiau, goleuo stiwdio a lleoliad a gwaith camera, recordio sain, golygu, ôl-gynhyrchu, effeithiau arbennig, cymysgu llun, gwaith celf cysyniadol, dylunio rhyngweithiol, gwaith celf golygfaol, cynllunio setiau, rheolaeth llawr, ffotograffiaeth ar leoliad, gwneud ffilmiau annibynnol a rolau technegol teledu.

Mae’r cyfleoedd gyrfaol mewn gwahanol fformatiau: drama, dogfen, hysbysebion, cyfryngau cerddorol, adloniant, ffordd o fyw, newyddion a mwy.

Mae graddedigion o’n cyrsiau diwydiannau creadigol wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel y BBC, Channel 4, S4C, Disney ac EA Games, fel cyfarwyddwr, cynhyrchwyr, artistiaid VFX, dylunwyr; yn gweithio ar deitlau megis A Bug’s Life, The Corpse Bride, Fantastic Mr. Fox a chyfres gêmau Harry Potter.

Mae gan raddedigion yr arbenigedd busnes i lwyddo mewn diwydiant sy’n dibynnu llawer ar ymarferwyr llawrydd aml-fedrus.

Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau ymarferol cynhyrchu teledu megis goleuadau stiwdio, golygu aflinol, recordio sain ar leoliad a datblygu fideos cerddorol. Byddwch yn astudio technoleg HD, defnyddio sain oddi-amgylch a datblygu eich sgiliau cymysgu lluniau ac ôl-gynhyrchu. Byddwch hefyd yn cwblhau cynhyrchiad proffesiynol eich hun. Yn ogystal â gweithio yn y stiwdio teledu ac yn yr ystafelloedd ôl-gynhyrchu, cewch y cyfle i gydweithio â myfyrwyr eraill yn ein stiwdio recordio a gorsaf radio ar brosiectau ar y cyd.

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk