Technoleg Recordio Stiwdio a Pherfformio
BSc (Anrh) Technoleg Recordio Stiwdio a Pherfformio
Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i ac sy’n ofynnol gan y diwydiannau sain a’r technolegau cyfryngau cysylltiedig. Mae’r cwrs yn eich paratoi i fod yn beiriannydd sain proffesiynol, neu i gael eich cyflogi yn un o’r agweddau niferus o’r diwydiannau cyfryngau clywedol modern.
Yn ystod eich astudiaethau bydd gennych fynediad 24/7 i stiwdio recordio The Wall.
Ffeithiau allweddol
- Mae gan y Brifysgol gyfleuster stiwdio recordio (ac ystafell MIDI), sydd â mynediad 24 awr y dydd i fyfyrwyr. Mae gan y brif stiwdio arwynebedd llawr o 1000 troedfedd sgwâr. Mae yna hefyd ystafell ôl-gynhyrchu sain sy’n rhedeg meddalwedd o safon diwydiannol megis ProTools, Native Instruments, Komplete a Logic Pro
- Caiff myfyrwyr ddefnyddio’r orsaf radio gymunedol, Calon FM, sydd wedi’i lleoli yn adeilad y stiwdio. Sefydlwyd yr orsaf gan staff yn y maes hwn. Mae Prifysgol Glyndŵr yn un o ddim ond dau sefydliad addysg uwch yn y DU sydd â chyfleuster o’r fath ar y campws
- Mae gan Brifysgol Glyndŵr theatr 900 sedd sydd wedi’i chyfarparu â system PA pwrpasol 18 mil wat a reolir yn ddigidol, ac yn ddiweddar cwblhawyd theatr ychwanegol gyda lle i 320
- Canolfan Diwydiannau Creadigol newydd gyda stiwdio deledu
- Mae gan y maes pwnc hwn gysylltiad proffesiynol â llawer o leoliadau a chwmnïau lleol, gan roi perthnasedd diwydiannol i’r pwnc
- Byddwch yn elwa o ddarlithoedd gan arbenigwyr o’r diwydiannau cerddoriaeth a darlledu sain sy’n cyflwyno darlithoedd gwadd ar bynciau cyfoes
