Technolegau Ceir Rasio
BEng (Anrh) Technoleg Ceir Rasio
Nid drwy hap y mae ceir pwerus yn gallu mynd yn anhygoel o gyflym, maent yn dibynnu ar arbenigedd peirianneg yr 21ain ganrif.
Un prif elfen yn ein cyrsiau peirianneg cerbydau modur yw’r ceir rasio pwerus: eu cynllun, y ffordd y maent wedi’u hadeiladu a’r electroneg sy’n gwneud iddynt weithio mor llyfn.
Ffeithiau allweddol
- Cysylltiadau rhagorol â diwydiant. Ymysg y cwmnïau yr ydym yn cydweithio â nhw mae Jaguar, Toyota, System ST, a Thrac Rasio Môn
- Mynediad at gyfleusterau gan gynnwys modelau corff cadarn ProEngineer a swît FEA, swît Abaqus FEA, AutoCad, meddalwedd Fluent CFD, labordai electroneg, cell profi peiriannau a chyfleusterau twnnel gwynt
- Cewch ddysgu defnyddio pecynnau meddalwedd sydd o safon diwydiant, gan gynnwys MATLAB a Simulink, Texas Instruments Code Composer Studio, Analog Devices VisualDSP, Altium Designer, Xilinx ISE, Altera MAX+PLUS II, Microchip MPLAB, a Vector CANanalyser
- Cewch y cyfle i ddatblygu modelau trwy ddefnyddio offer a meddalwedd Rapid Prototyping yn ein gweithdy prosiect
- Defnyddiwch Westfield Megabird fel car datblygu prosiect, sef car rasio all fynd ar y ffordd a’r trac ac un o’r ceir ffordd sy’n cyflymu gyflymaf yn y byd. Mae cerbydau rasio eraill y mae’r tîm yn eu rhedeg yn cynnwys y Van Dieman RF79 a cherbyd solar sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal â rasiwr disgyrchiant
- Cewch wneud gwaith electroneg ymarferol ar gar Jaguar math-X yn ein gweithdy cerbyd moduron arbenigol
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r amrywiaeth gyffrous o ddewisiadau gyrfa sydd ar gael i chi pan fyddwch yn graddio yn cynnwys gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ceir a’u rhwydwaith gyflenwi, ymchwilio a datblygu cerbydau modur, ymgynghori, rheoli peirianneg, dylunio moduron, yn ogystal ag yn y diwydiant chwaraeon modur.
Mae prinder cenedlaethol o beirianwyr electronig sydd â chymwysterau llawn yn y diwydiant peirianneg moduron; drwy fod â gradd mewn technoleg electroneg cerbydau byddwch yn rhagori ar y rhelyw pan ddaw hi i chwilio am waith.
Mae cyfleoedd yn cynnwys:
- dynameg car rasio
- electroneg chwaraeon modur
- peirianneg y ffrâm
- strwythurau ceir rasio
- rhwydweithiau cerbyd
- systemau adloniant ac amlgyfrwng
- technolegau electronig
- injan rasio a systemau microbrosesydd
