Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Technoleg Dylunio Pensaernïol

BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Pensaernïol

Ydych chi’n arloesol, yn broffesiynol ac yn greadigol? Ydych chi'n dechnolegydd dylunio pensaernïol ar gyfer y dyfodol?

Mae’r radd hon wedi’i chynllunio i gefnogi eich datblygiad chi i fod yn ased amhrisiadwy i gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu. Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i ysgogi eich dealltwriaeth a’ch ymwybyddiaeth feirniadol o sut y gall Technoleg Dylunio Pensaernïol ddylanwadu ar yr amgylchedd adeiledig ac ar gymdeithas.

Daw’r myfyrwyr sydd ar y cwrs hwn o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys y rheiny sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd mewn Technoleg Dylunio Pensaernïol neu alwedigaethau cysylltiedig a phobl broffesiynol sydd wrthi’n cryfhau eu gyrfaoedd.

Ffeithiau allweddol

  • Amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol
  • Mae grwpiau tiwtorial bychan eu maint yn golygu fod myfyrwyr yn cael lefel uchel o gefnogaeth a sylw gan diwtoriaid a threfniadau dilyniant hyblyg wrth astudio
  • Enw da rhagorol o ran cyflogadwyedd
  • Mae’r cwrs wedi’i achredu’n llawn gan Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol (CIAT), Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) a Chymdeithas y Peirianwyr Adeiladu (ABE). Mae’n darparu mynediad i gymwysterau trosglwyddadwy yn Ewrop a Statws Siartredig yn y Deyrnas Unedig
  • Mynediad uwch i’r rheiny sydd â chymwysterau proffesiynol neu academaidd perthnasol
  • Ceir pwyslais ar dasgau ymarferol wrth asesu, gyda dilyniant hyblyg, a modd addasu ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a phrofiad gwaith

Cyfleoedd gyrfa

Daw’r rhan fwyaf o’n graddedigion o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu a datblygu, sef un o sectorau mwyaf yr economi. Mae cyrchfannau graddedigion yn gallu cynnwys practis pensaernïol, cyrff contractio adeiladu sydd â gwasanaethau dylunio mewnol, adrannau datblygu ac eiddo awdurdodau lleol, ac adrannau rheoli cyfleusterau ystadau presennol.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs wedi ei drefnu ar sail modiwlau dylunio sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth: o raddfa cartref i faint tref, a’r gwaith yn cael ei wneud yn unigol ac mewn grwpiau. Cewch eich annog i feddwl yn annibynnol, yn feirniadol ac yn rhesymegol er mwyn cyfathrebu atebion dylunio priodol yn llwyddiannus. Nod y cwrs yw ysbrydoli proffesiynoldeb, dawn dylunio a gwreiddioldeb.

Byddwch yn astudio:

  • materion hanfodol yn ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd
  • rôl gwasanaethau mecanyddol a thrydanol mewn adeiladau cymhleth
  • dylunio pensaernïol, a meithrin sgiliau ymarferol o ran cyflwyno – o gwneud modelau i ddylunio gyda chymorth cyfrifiadur
  • cadwraeth adeiladau, a gwleidyddiaeth pensaernïaeth
  • rheoliadau a rheoli adeiladu, cyfraith iechyd a diogelwch, gwerthuso adeiladau a dulliau adeiladu modern

Asesu

Mae dulliau asesu amrywiol yn cynnwys aseiniadau ar ffurf traethodau ac adroddiadau, ac arholiadau llyfr agored seiliedig ar senario ar ffurf ‘asesu o fewn y cwrs’ rheoledig. Mae’r modd o asesu’r modiwlau dylunio yn galw am gynhyrchu brasluniau datblygiadol a lluniadau gorffenedig ar ffurfiau CAD traddodiadol a chyfredol, cyflwyniadau mewn seminarau a thiwtorialau, gwneud modelau a fideos. 

Gofynion mynediad

240 pwynt UCAS neu gyfwerth. Croesewir ceisiadau gan bobl gydag ystod eang o brofiad a chymwysterau eraill. Gall y rheiny gyda lefel addysg uwch briodol neu gymwysterau proffesiynol gael mynediad uwch i’r ail neu’r drydedd flwyddyn.

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 5/6 mlynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk