Technoleg Cerddoriaeth
BSc (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth
Mae defnydd ymarferol o stiwdios sain rhagorol y Brifysgol wrth wraidd y cwrs hwn.
Bwriad y cwrs hwn yw addysgu a datblygu sgiliau yn y byd cynhyrchu cerddoriaeth. Mae’n ymdrin ag ystod o dechnolegau ac mae’n cynnwys datblygu eich portffolio eich hun o ddarnau cynhyrchu a chael mynediad i lawer o’r lleoliadau cerdd yn y cyffiniau.
Mae’r cwrs yma wedi’i greu ar sail defnydd ymarferol o stiwdios sain y Brifysgol, sy’n stiwdios o’r radd flaenaf. Bydd astudio ar y cwrs hefyd yn golygu defnyddio’r cyfleusterau sydd ein hadeilad newydd i’r Diwydiannau Creadigol.
Ffeithiau allweddol
- Stiwdio recordio o’r radd flaenaf sydd â mynediad 24-awr i fyfyrwyr. Mae’r stiwdio yn defnyddio’r diweddaraf mewn technoleg ddigidol
- Mae gorsaf radio gymunedol FM ar y safle a gellir defnyddio’r orsaf hon ar gyfer gwaith ar y cyd. Y Brifysgol yw un o ddim ond dau sefydliad addysg uwch sydd â chyfleuster o’r fath ar y campws.
- Hefyd ar y campws, mae stiwdio recordio sydd ar gael bob awr o’r dydd, a gellir defnyddio hon ar gyfer cydweithredu ar brosiectau cerddoriaeth. Yn ogystal â gwaith yn y stiwdios sain a’r ystafelloedd ôl-gynhyrchu, cewch y cyfle i gydweithio â myfyrwyr eraill yn ein gorsaf radio ar sawl prosiect ar y cyd.
Cyfleoedd gyrfa
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r hyfforddiant a’r arbenigedd i chi weithio mewn un o sawl maes cyffrous yn y diwydiannau darlledu. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau fydd yn gwella eich cyflogadwyedd, gan gynnwys sgiliau:
- ymchwilio
- cyfathrebu
- defnyddio technoleg
- y gallu i gydweithio
- cynllunio a rheoli prosiectau
Mae cyfleoedd o ran gyrfaoedd yn cynnwys:
- darlledu
- peirianneg cerddoriaeth
- cynhyrchu cerddoriaeth
- ôl-gynhyrchu
- golygu a rheoli stiwdio
