
Seicoleg Marchogaeth
BSc (Anrh) Seicoleg Marchogaeth
Mae’r Radd Sylfaen a’r BSc (Anrhydedd) Seicoleg Marchogaeth yn archwilio’r bartneriaeth unigryw rhwng y ceffyl a’r marchog. Er mwyn gwneud hyn, mae myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o ymddygiad ceffylau, seicoleg marchogion a’r gyd-ddibyniaeth rhwng ceffylau a phobl.
Mae’r cwrs hefyd yn sôn am les ceffylau, ymddygiad ceffylau, dysgu a hyfforddi ceffylau, yn ogystal â galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau hyfforddi. Caiff y dysgu sy’n seiliedig ar waith ei wneud yn ystod y radd Sylfaen, gan roi’r cyfle i fyfyrwyr ennill pecyn cytbwys o sgiliau a gwybodaeth sydd yn delfrydol ar gyfer mynd i weithio yn y diwydiant ceffylau.
Ffeithiau allweddol
-
Defnydd o’r cyfleusterau ar gampws Wrecsam ym Mhrifysgol Glyndŵr a’i champws gwledig yn Llaneurgain, Sir Fflint sydd â chyfleusterau marchogol ymarferol rhagorol
-
Mynediad i gyrsiau byrion ychwanegol a digwyddiadau marchogol a gynhelir ar gampws Llaneurgain, Sir Fflint
-
Mae yna gyfle i astudio ymddygiad ceffylau a seicoleg chwaraeon dynol o fewn y cwrs
-
Amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol er mwyn galluogi dysg o fewn y cyd-destun gwaith
-
Defnydd o bortffolio datblygiad personol (PDP) trwy gydol y flwyddyn a fydd yn galluogi dysgwyr i fyfyrio ynghylch datblygiad y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth
-
Yr unig gwrs o’i fath yng Nghymru, ac yn un o ddim ond dau yn y DU
Cynnwys y cwrs
BSc (Anrh) Seicoleg Marchogaeth
Rhaglen atodol yw’r cwrs yma sy’n eich galluogi i gael gradd anrhydedd. Byddwch yn astudio lles ceffylau, gwyddor marchogaeth a seicoleg chwaraeon ar lefel uwch. Byddwch yn cwblhau modiwl sgiliau ymchwil ac yn defnyddio’r sgiliau hyn mewn prosiect ymchwil ar faes pwnc o’ch dewis chi i’w wneud yn ystod haf y rhaglen 12 mis. Bydd gradd anrhydedd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant ceffylau neu i fynd ymlaen i astudiaeth ôl-radd.
Cyfleoedd gyrfa
Bydd y cyrsiau hyn yn eich paratoi ar gyfer sawl gyrfa wahanol sy’n gysylltiedig â seicoleg marchogaeth, e.e. gwaith lles ceffylau, hyfforddi marchogion neu geffylau gan ddefnyddio dulliau cyfoes neu reoli buarthau marchogaeth masnachol. Byddwch hefyd yn barod ar gyfer cyflogaeth mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant ceffylau, er enghraifft, gwaith ymchwil ac ymgynghori. Os byddwch yn cwblhau’r radd BSc (Anrh) yn llwyddiannus gallwch ddewis symud ymlaen i astudio ar lefel ôl-radd.
Cyflogadwyedd
Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i sicrhau fod ein graddedigion i gyd wedi eu paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Cliciwch yma i ddarllen mwy am lwyddiant ein cymorth cyflogadwyedd.
Asesu
Mae hyn yn gwrs a asesir yn barhaus. Bydd y dulliau asesu yn cynnwys gwaith prosiect, arfer ymchwil-drwythedig, trin a thrafod, cyflwyniadau, vivas a thrafodaethau seminarau. Asesir grwpiau yn ogystal ag unigolion. Nid oes arholiadau o fewn y rhaglen yma.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 year (atodol)
Rhan amser: 2 flynedd (atodol)
Gofynion mynediad ac ymgeisio
Diploma Cenedlaethol Uwch neu Radd Sylfaen.
Côd UCAS: C866Rhan amser: cais uniongyrchol




