Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Saesneg

BA (Anrh) Saesneg

BA (Anrh) Saesneg a Hanes

BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Ydych chi’n mwynhau darllen, ysgrifennu a thrafod llyfrau a syniadau? Astudiwch hanesion hynod ac amrywiol llenyddiaeth o Brydain ac o bedwar ban y byd.

Mae gweithiau llenyddol Saesneg bob amser wedi adlewyrchu diwylliant cyfoethog y cyfnod yr ysgrifennwyd hwy ynddynt. Yn y cwrs hwn cewch y cyfle i werthfawrogi pam. Mae ein gradd Saesneg yn eich helpu chi i ddatblygu i fod yn feirniad caboledig ar farddoniaeth, rhyddiaith a drama – yn ogystal ag yn awdur aeddfed eich hun.

Ffeithiau allweddol

  • Ymdrinnir â thestunau o Brydain, Ewrop ac America
  • Dysgu annibynnol – canolbwyntiwch ar arddull lenyddol neu gyfnod penodol o’ch dewis chi ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf
  • Trafodaethau bywiog – cewch rannu eich hoffter o lenyddiaeth â myfyrwyr o’r un anian â chi

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

  • theori feirniadol
  • cyflwyniad i ddrama a ffilm
  • cyflwyniad i naratif
  • cyflwyniad i farddoniaeth
  • addasu Shakespeare
  • ysgrifennu ym Mhrydain wedi’r rhyfel
  • ysgrifennu rhamantaidd a Fictoraidd
  • llenyddiaeth y byd
  • moderniaeth a diwylliant
  • ysgrifennu ôl-fodern ac ôl-drefedigaethol
  • rhywedd, rhywioldeb ac ysgrifennu
  • traethawd hir: ymchwil bersonol

Cyfleoedd gyrfa

Bydd sgiliau o’ch gradd Saesneg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o rolau ac amgylcheddau, gan gynnwys: llywodraeth leol, rheoli, cyhoeddi neu farchnata. Gallai astudiaeth bellach ar lefel ôl-raddedig arwain at yrfa mewn newyddiaduraeth, dysgu, y gyfraith neu amgueddfeydd.

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Saesneg

Os ydych wrth eich bodd yn darllen, yn ysgrifennu ac yn mynegi eich syniadau a’ch barn am lyfrau a syniadau, dyma’r cwrs i chi. Cewch ddatblygu gwerthfawrogiad eang o lenyddiaeth Saesneg mynd i’r afael â damcaniaethwyr a damcaniaethau beirniadol a dod i ddeall yn llawn gyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ysgrifennu.

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar y cwrs yma gan gynnwys: aseiniadau gwaith cwrs, arholiadau heb eu gweld, porffolios, cyflwyniadau dosbarth ac ymchwiliadau/adroddiadau llenyddol a thraethawd estynedig.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yw 240 pwynt yn lefel A level neu gyfwerth. Yn ddelfrydol, byddwch wedi astudio lefel A Saesneg.

Côd UCAS

Llawn amser: Q300

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser 6 blynedd


BA (Anrh) Saesneg a Hanes

Astudiwch themâu o hanes Cymru, Prydain ac Ewrop yn yr Oesoedd Canol hyd at gyfnod y Dadeni a hanes Modern, a hynny ochr yn ochr â’r Saesneg. Mae hwn yn ategiad academaidd perffaith at astudio Saesneg; gallwch gyfuno eich rhuglder fel darllenydd ac awdur â sgiliau ymchwilio a beirniadol yr hanesydd.

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar y cwrs yma gan gynnwys: aseiniadau gwaith cwrs, arholiadau heb eu gweld, porffolios, cyflwyniadau dosbarth ac ymchwiliadau/adroddiadau llenyddol a thraethawd estynedig.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yw 240 pwynt yn lefel A level neu gyfwerth. Yn ddelfrydol, byddwch wedi astudio lefel A Saesneg.

Côd UCAS

Llawn amser: QV31

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser 6 blynedd


BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Os yw eich hoffter o’r Saesneg yn gwyro yn fwy tuag at ysgrifennu yn hytrach na darllen, yna dyma’r llwybr i chi. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu yn greadigol ar gyfer oedolion a phlant mewn barddoniaeth a rhyddiaith ac ar gyfer y radio a’r sgrîn.

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar y cwrs yma gan gynnwys: aseiniadau gwaith cwrs, arholiadau heb eu gweld, porffolios, cyflwyniadau dosbarth ac ymchwiliadau/adroddiadau llenyddol a thraethawd estynedig.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yw 240 pwynt yn lefel A level neu gyfwerth. Yn ddelfrydol, byddwch wedi astudio lefel A Saesneg.

Côd UCAS

Llawn amser: WQ83

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser 6 blynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk