Rheoli Cynnyrch Organig
FdSc Rheoli Garddio Organig
Mae diwydiant garddio’r DU yn werth dros £5 biliwn y flwyddyn.
Mae’r diwydiant garddwriaeth yn helaeth ac yn cwmpasu popeth o ddylunio ac adeiladu tirlun i gynhyrchu cnydau ar gyfer adwerthu yn y byd garddio. Rydym hefyd yn cynnig cwrs arbenigol ym maes rheoli chwaraeon yn yr awyr agored. Mae'r diwydiant wedi moderneiddio’n helaeth yn y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad mae galw mawr am unigolion gwybodus sydd wedi’u hyfforddi'n dda i reoli a mwynhau her y maes hwn ac i fynd â’r diwydiant yn ei flaen.
Mae pob un o'r cyrsiau hyn yn cynnig cyfle i chi ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy. Byddwch yn datblygu sgiliau arwain a rheoli rhagorol, wedi’u cefnogi gan wybodaeth sy’n benodol i’r sector. Byddwch yn datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol ac i wneud penderfyniadau busnes yn seiliedig ar sgiliau technegol a rheoli cadarn.
Ffeithiau allweddol
- Mae tîm y staff yn arbenigol ac yn brofiadol, ac maent yn cynnwys ymarferwyr sydd â phrofiad cymhwysol da ar dir yn ogystal ag enw da am ennill gwobrau
- Caiff profiad ymarferol ei gynnwys yn y modiwlau sy’n seiliedig ar y campws gwledig yn Llaneurgain, Sir y Fflint
- Mae modd i fyfyrwyr ddefnyddio campws Wrecsam a’r cyfleusterau dysgu diweddaraf sydd ar y ddau safle
- Mae’r amgylchedd a chynaliadwyedd yn elfennau cryf yn amcanion y rhaglen, ac maent yn uniongyrchol gysylltiedig â gofynion sgiliau proffesiynol a gofynion y sector
- Bydd myfyrwyr yn cael profiad o ystod eang o ddisgyblaethau sy'n seiliedig ar y tir trwy gydol eu hastudiaethau a hynny drwy rannu modiwlau â chyrsiau eraill sydd â’r tir yn ganolog iddynt, ac, ar ôl ei gwblhau, gellir symud ymlaen i raglen ychwanegu at y radd
- Mae systemau a safonau cynhyrchu organig heb stoc yn elfen gref o'r rhaglen Organig ac mae wedi’i chysylltu â’r uned gynhyrchu garddwriaethol, heb stoc, sydd ar gampws Llaneurgain
Dewisiadau nodweddiadol ar y cwrs:
Mae'r rhaglenni hyn i gyd yn rhannu cnewyllyn cyffredin â chyrsiau eraill sy'n seiliedig ar y tir, gan gwmpasu Garddwriaeth Fyd-eang, Ffurfiau Planhigion, Gwreiddio, yr Amgylchedd, Cyflwyniad i Reoli, Rheoli Prosiect a Chontract, Entrepreneuriaeth, Ymchwilio a Sgiliau Astudio Arbenigol. Byddwch yn astudio modiwlau arbenigol ychwanegol yn dibynnu ar ba radd yr ydych wedi dewis ei hastudio.
Cyfleoedd gyrfa
- Rheolwr Parciau a Gerddi
- Rheolwr Cyfleusterau Chwaraeon
- Garddwr
- Arbenigwr a thyfwr planhigion organig
- Rheolwr Canolfan Arddio
- Ymgynghorydd Garddwriaeth gyda chyfleoedd datblygu a thramor
