Rheolaeth a Diogelwch Rhwydwaith Cyfrifiadurol
BSc (Anrh) Rheolaeth a Diogelwch
Mae systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol yn cysylltu pobl a busnesau ar raddfa fyd-eang. Mae busnes a diwydiant yn dibynnu ar dechnolegau rhwydwaith amrywiol, ac mae galw mawr am weithwyr proffesiynol i gynllunio a rheoli systemau rhwydwaith effeithlon.
Mae hwn yn gwrs sy’n llawn dop o dechnoleg ac mae’n cynnwys cymysgedd o fodiwlau technoleg, rhwydweithio a diogelwch a llwythi o gyfleoedd ymarferol. Mae pwyslais ar osod, gweithredu, diogelwch, a chynnal systemau cyfrifiadurol a rhwydweithiau sy’n cael eu defnyddio mewn busnes a diwydiant. Bydd
y cwrs yn eich arfogi â’r sgiliau hanfodol nid yn unig er mwyn gallu cynllunio a gweithredu systemau, ond hefyd i’w rheoli yn effeithiol a sicrhau fod y bobl sy’n eu defnyddio yn elwa ar eu potensial llawn. Byddwch yn dysgu sut i reoli, dylunio, gweithredu, ffurfweddu, a gweithredu rhwydweithiau diogel yn broffesiynol.
Cewch ddysgu hefyd sut i adnabod ystod o fygythiadau i ddiogelwch rhwydwaith yn ogystal â llunio a gweithredu strategaethau a mecanweithiau amddiffyn.
Ffeithiau allweddol
- Cyfleusterau helaeth o ran cyfrifiaduron sydd â mynediad i’r rhyngrwydLabordy cyfrifiaduron arbenigol sy’n bwrpasol ar gyfer rhwydweithio cyfrifiadurol
- Mae’r maes pwnc cyfrifiadura wedi’i gydnabod gan Academi Cisco. Cewch y cyfle i gwblhau cymhwyster Partner Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA) wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd
- Defnyddir offer diweddaraf Systemau Cisco yn ein sesiynau ymarferolCeisir achrediad ar gyfer y radd anrhydedd gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) a fyddai’n golygu y byddech yn cael eich eithrio o ran 1 a rhan 2 o Arholiadau Proffesiynol y Gymdeithas
- Mae’r cwrs hwn yn ymateb i fylchau sgiliau cydnabyddedig a byddwch yn datblygu’r ddealltwriaeth feirniadol, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael gwaith cyflogedig llwyddiannus
- Mae’r Brifysgol yn gartref i CAIR – sef canolfan ymchwil adnabyddus am ymchwil gymwysedig yn ymwneud â’r rhyngrwyd
- Caiff y Brifysgol ei chydnabod am ei hymchwil blaenllaw yn y maes Rhwydweithiau
Cynnwys nodweddiadol y cwrs
Byddwch yn gweithio ar gynllunio, gosod a chefnogi LANs (rhwydweithiau ardal-leol), WANs (rhwydweithiau ardal-eang), systemau rhyngrwyd a mewnrwyd. Byddwch yn dysgu sut i ddarparu cymorth gweinyddol ar y safle o ddydd i ddydd i ddefnyddwyr meddalwedd mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwaith, gan gynnal a chadw rhwydwaith caledwedd a meddalwedd, dadansoddi problemau, monitro rhwydweithiau, casglu data er mwyn gweld beth yw anghenion cwsmeriaid ac yna nodi, dehongli a gwerthuso gofynion system a rhwydwaith.
