Rheolaeth Tirlun
FdSc Rheoli Tirlun
Mae’r glesni toreithiog a’r golygfeydd ysblennydd sydd yn y Deyrnas Unedig yn bennaf yn deillio o ddylunio a rheoli llwyddiannus ac arloesol ar y tirlun.
Mae cymeriad y tirlun wedi digwydd o ganlyniad i weithredu a rhyngweithio gan ffactorau naturiol ac/neu ddynol. Mae ein tirwedd naturiol, y trefi a’r ardaloedd trefol wedi datblygu o ganlyniad i gynllunio da, sylw gofalus i fanylion, arbenigedd tirwedd, a dylunio a chynllunio arloesol. Bydd Dylunio a Rheoli Tirlun yn eich cyflwyno i’r technegau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i reoli adnoddau ar y tir ac i greu tirwedd a mannau trefol sydd ag ymdeimlad o le.
Cewch eich tywys drwy bynciau allweddol adnewyddu trefol, rheoli adnoddau yng nghefn gwlad a dylunio’r tirlun ar gyfer planhigion ac adeiladau. Mae cadwraeth a chynaliadwyedd hefyd yn ffocws canolog yn ein graddau dylunio a rheoli’r tirlun, wrth inni archwilio pynciau megis ynni adnewyddadwy.
Ffeithiau allweddol
- Staff sydd wedi ennill llawer o wobrau. Caiff ein cwrs ei ddysgu gan ddarlithwyr sydd â phrofiad cyfoes o’r diwydiant ac sydd â chasgliad o wobrau gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) a'r Sefydliad Tirwedd
- Gradd ymarferol. Cewch weithio ar dasgau go-iawn yn ein campws gwledig yn Sir y Fflint ac mae hyn yn rhan allweddol o'r cwrs
- Amgylcheddau astudio trefol a gwledig. Cewch astudio yng nghefn gwlad Sir y Fflint ac ar gyrsiau cysylltiedig ar ein campws yn Wrecsam, sydd ar gyrion y dref fwyaf yng Ngogledd Cymru
- Ffocws cryf ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gofynion sgiliau proffesiynol a rhai’r sector
- Gwnaed cais i gael achrediad y Sefydliad Tirwedd ar gyfer y BSc (Anrh) Dylunio a Rheoli Tirlun
- Cyfleoedd i gymryd rhan yng nghystadlaethau’r RHS e.e. Sioe Flodau Tatton
- Cyfleusterau rhagorol. Gweithdai pwrpasol a lleoliad cefn gwlad delfrydol ar gyfer astudio tirlunio yn Sir y Fflint
- Cewch eich asesu drwy dasgau ymarferol, aseiniadau a phrofiad gwaith
- Dyfarnwyd Gwobr Arian Tatton 2010 i waith gan fyfyrwyr Dylunio a Rheoli Tirlun
Cyfleoedd gyrfa
Mae dylunio a rheoli effeithiol a chynaliadwy ar dir yn hanfodol i ddyfodol ardaloedd gwledig yn ogystal ag ystadau trefol a mannau cyhoeddus. Mae gyrfaoedd i’w cael mewn pensaernïaeth, rheoli eiddo a’r diwydiant adeiladu, yn ogystal â’r meysydd gwaith traddodiadol mewn amgylcheddau gwledig, treftadaeth, parciau a gerddi. Mae'r rhain i gyd bellach yn mynd i’r afael ag ynni adnewyddadwy a rheoli dŵr.
Mae galw ledled Ewrop am raddedigion dylunio a rheoli’r tirlun sy'n gallu gweithio ar lefelau rheolwyr canol ac uwch reolwyr mewn amrywiaeth o alwedigaethau sy’n seiliedig ar y tir.
Dewisiadau nodweddiadol ar y cwrs:
- rheoli adnoddau tir gwledig
- cadwraeth
- tirluniau mewnol
- dylunio tirlun
- cynllunio ar gyfer adeiladau
- cynaliadwyedd
- systemau ynni adnewyddadwy
- rheoli prosiectau tirlunio
