Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rheolaeth Busnes

BA (Anrh) Rheolaeth Busnes

FdA Rheolaeth Busnes

HNC Rheolaeth Busnes

Datblygwch y wybodaeth a’r sgiliau i fod ar flaen y gad yn y byd busnes.

Bydd y cyrsiau hyn yn rhoi gwybodaeth eang o ddamcaniaethau busnes a rheoli i chi, yn ogystal â sicrhau eich bod yn deall materion busnes modern. Drwy astudio ar unrhyw un o’r cyrsiau hyn, byddwch yn treiddio i fyd busnes ac yn datblygu’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen er mwyn bod yn llwyddiannus mewn amgylchedd busnes modern.

Ffeithiau allweddol

  • Mae gan y Brifysgol gysylltiadau rhagorol â chyrff proffesiynol a busnesau lleol
  • Amrywiaeth eang o bynciau a meysydd gan gynnwys cyfraith busnes, marchnata, cyfrifeg a rheoli adnoddau dynol
  • Mae blwyddyn gyntaf gyffredin ar y cwrs llawn-amser yn golygu y caiff myfyrwyr ddewis teitl arbenigol terfynol eu gradd ar ddiwedd y flwyddyn honno
  • Mae’r cwrs gradd anrhydedd rhan-amser wedi’i gynllunio’n arbennig i’r ymgeiswyr hynny sydd eisoes mewn cyflogaeth lawn-amser, gan roi’r cyfle iddynt hybu eu gyrfa gyda rhaglen gymhwyster sydd mewn dwy ran. Mae hyn yn golygu astudio’r cwrs HNC Busnes a Rheolaeth am ddwy flynedd ac yna astudio am ddwy flynedd arall i gael Gradd Gyffredin neu dair blynedd i gael Gradd Anrhydedd mewn Rheolaeth Busnes.
  • Mae darpariaeth hyblyg yn ei gwneud yn bosibl i fynychu rhywfaint gyda’r nos ar gyfer myfyrwyr sydd ag amserlenni prysur neu ymrwymiadau teuluol
  • Mae cynllunio datblygiad personol wedi’i integreiddio trwy’r cwrs cyfan. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn datblygu’r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheolaeth effeithiol – yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa.
  • Cyfle i astudio dramor am semester ym mlwyddyn 2 o’r rhaglen gradd anrhydedd. Mae modiwlau sy’n seiliedig ar waith ar gael.
  • Mae cymhwyster Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) wedi’i ymgorffori yn y rhaglen gradd anrhydedd (yn amodol ar gael ei hachredu)

Cyfleoedd gyrfa

  • rheoli cyffredinol
  • galwedigaethau busnes fel marchnata, cyfrifeg a rheoli adnoddau dynol

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

BA (Anhr) Rheolaeth Busnes

Yn gynnar yn y cwrs byddwch yn astudio ystod o bynciau sydd yn sylfaenol i arferion busnes da gan gynnwys marchnata, cynllunio busnes, rheoli adnoddau dynol a chyfrifeg. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG a chyfathrebu yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes a’r gyfraith a gloywi eich sgiliau astudio. Yn ddiweddarach yn y cwrs cewch ddigonedd o gyfle i ddewis modiwlau sydd o ddiddordeb penodol i chi boed gennych ddiddordeb mewn modiwlau marchnata arbenigol, cyfraith cyflogaeth, arweinyddiaeth, cyllid, rheolaeth strategol neu fusnes rhyngwladol.

FdA Rheolaeth Busnes

Ar y cwrs yma byddwch yn trin egwyddorion hanfodol busnes. Byddwch yn astudio pynciau megis rheolaeth mewn sefydliadau a chwmnïoedd, rheoli adnoddau dynol, yr amgylchedd busnes a’r gyfraith ynghyd â chynllunio busnes a marchnata. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau astudio a’ch sgiliau seiliedig-ar-waith. Yn nes ymlaen yn y cwrs byddwch yn dysgu am reoli gwybodaeth ariannol a sicrhau gwerth cwsmeriaid, yn ogystal â chwblhau prosiect sy’n seiliedig ar waith.

HNC Rheolaeth Busnes

Mae’r cwrs rhan-amser HNC wedi’i fwriadu ar gyfer pobl sy’n gweithio ac sy’n dymuno gwella eu sgiliau busnes allweddol a gwella eu rhagolygon gyrfa drwy ddatblygu dealltwriaeth gadarn o egwyddorion sylfaenol busnes modern. Mae’n bosib symud ymlaen o’r HNC i’r radd sylfaen neu’r radd anrhydedd.

Cynnwys y cwrs

BA (Anhr) Rheolaeth Busnes

Mae’r cwrs gradd anrhydedd rheolaeth busnes hwn yn eich galluogi i ddatblygu ystod eang o sgiliau personol a phroffesiynol allweddol a fydd yn eich helpu i lunio, gwerthuso ac argymell atebion i broblemau busnes, cymryd cyfrifoldeb a mentro mewn prosiectau, datblygu sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol. Byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r galluoedd angenrheidiol i fod yn rheolwr busnes llwyddiannus. Byddwch yn astudio rheoli, marchnata, adnoddau dynol, cyllid a chynllunio busnes a chael y cyfle i astudio dramor am semester ym mlwyddyn 2 neu wneud rhai modiwlau sy’n seiliedig ar waith. Byddwch yn gwneud prosiect ymchwil yn y pwnc o’ch dewis ym mlwyddyn olaf y radd.

Asesu

Mae asesu yn gyfuniad o aseinaidau ac arholiadau. Mae aseiniadau yn cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau, trafodaethau ar-lein, prosiectau ymchwil, dadansoddi ac adroddiadau cwmni. 

Gofynion mynediad

240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth. Mae’r llwybr rhan amser ar gael i’r rheiny sy’n symud ymlaen o’r cwrs HNC Busnes a Rheolaeth neu gymwysterau cyfatebol. Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs FdA Rheolaeth Busnes symud ymlaen i’r cwrs BA (Anrh) gyda blwyddyn o astudiaeth bellach.

Côd UCAS

Llawn amser: N100
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 3 blynedd (ar ôl cwblhau’r HNC Rheolaeth Busnes)

Ar y radd sylfaen hon byddwch yn astudio prif feysydd busnes a rheoli ac yn cael cyfleoedd i arbenigo mewn pynciau sy’n adlewyrchu eich dyheadau gyrfa. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau personol allweddol fydd yn eich helpu i lunio, gwerthuso ac argymell atebion i broblemau busnes, cymryd cyfrifoldeb a mentro mewn prosiectau, datblygu sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol.

Asesu

Mae asesu yn gyfuniad o aseinaidau ac arholiadau. Mae aseiniadau yn cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, dadansoddi ac adroddiadau cwmni. 

Gofynion mynediad

120 pwynt o leiafswm o 1 lefel A. Gellid ystyried profiad seiliedig ar waith perthnasol yn ogystal.

Côd UCAS

Llawn amser: NN12

Hyd

Llawn amser: 2 flynedd

Rhan amser: 1 flynedd atodol ar ôl cwblhau'r HNC 

1 flynedd atodol ar ôl cwblhau'r HNC


FdA Rheolaeth Busnes

HNC Rheolaeth Busnes

Byddwch yn datblygu sgiliau busnes, yn ael eich cyflwyno i faterion rheolaeth a rheoli adnoddau dynol yn ogystal â dysgu sut i reoli adnoddau ariannol sefydliad neu gwmni. Yn ddiweddarach yn y cwrs byddwch yn astudio marchnata a chynllunio busnes, yn dysgu am amgylchedd sefydliad ac yn gwneud prosiect sy’n seiliedig ar waith.

Asesu

Mae asesu yn gyfuniad o brosiectau ac aseinaidau seiliedig ar waith. Mae aseiniadau yn cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau, dadansoddi cwmni a chofnodi myfyriol. 

Gofynion mynediad

120 pwynt o leiafswm o 1 lefel A. Hwyrach na fydd angen cymwysterau academaidd ffurfiol os gallwch arddangos profiad seiliedig ar waith addas.

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cysylltwch â ni

Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).

Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk