Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol

BEng (Anrh) Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol

BEng (Anrh) Gweithgynhyrchu Awyrennol a Mecanyddol

FdEng Peirianneg Awryennol (Gweithgynhyrchu)

FdEng Cynnal a Chadw Awyrennau

HND Technoleg Fecanyddol

HNC Technoleg Fecanyddol

Yn sgil lansio’r Airbus A380 gwelwyd dechrau cyfnod newydd yn hanes teithio ar gyflymder. Ar drothwy degawd arall, ni fu amser mwy cyffrous i astudio peirianneg awyrennol a mecanyddol.

Boed drwy eich paratoi â gwybodaeth peirianneg awyrennau neu ymarfer eich sgiliau yn ein hystafell flaengar sy’n dynwared hedfan – sef dim ond un o lond llaw ohonynt yn y DU – byddwch yn graddio gyda’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant awyrennau.

Mae peirianneg fecanyddol yn ganolog i bob agwedd ar beirianneg, o weithgynhyrchu i ddylunio a chynllunio. Byddwch yn ennill gwybodaeth gadarn o gysyniad a phroses dylunio peirianyddol i ychwanegu at eich arbenigedd mewn peirianneg awyrennau.

Ffeithiau allweddol

  • Cyrsiau sydd wedi’u hachredu’n llawn. Mae’r cyrsiau BEng (Anrh) a FdEng wedi’u hachredu’n llawn gyda Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (ImechE) a’r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS)
  • Dynwaredwr hedfan Merlin sydd o’r radd flaenaf. Cewch gynllunio eich awyren eich hun a’i phrofi drwy ddefnyddio theori peirianneg a gweld sut mae addasiadau i awyrennau yn effeithio ar y profiad hedfan
  • Cewch hefyd fynediad i becynnau efelychu hedfan fel FLITE, hyfforddwr cymorth llywio RANT a Boeing 747
  • Mae modd i chi ddefnyddio meddalwedd arloesol i gynllunio, dadansoddi ac efelychu - Fluent ar gyfer deinameg hylif cyfrifiannu, Abaqus ar gyfer dadansoddi elfennau penodol, MATLAB a Simulink ar gyfer modelu/ dadansoddi/efelychu system deinameg, ProEngineer ac Edge-Cam
  • Cysylltiadau rhagorol â diwydiant. Cyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol mewn cwmnïau fel Airbus UK, Light Aero, Garmin, MyTravel a Hawker Beechcraft (cyrsiau FdEng)
  • Cyfleusterau twnnel gwynt is-sonig ac uwchsonig a chell profi tyrbin nwy sy’n gweithredu’n llawn ar ein campws yn Wrecsam
  • Cewch weithio ar awyrennau injan jet a phiston yn y sied awyrennau
  • Cewch wneud cais am statws Aelod gyda’r IMechE pan fyddwch yn graddio, ac ar ôl cyfnod o brofiad gwaith priodol (graddedigion gradd anrhydedd yn unig). Byddwch yn gymwys i gael eich ystyried ar gyfer aelodaeth o’r RAeS (graddedigion BEng (Anrh) yn unig)
  • Cyfle i ymuno â’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ar lefel Technegydd Peirianneg (myfyrwyr HND/HNC). Cewch eich gwahodd am gyfweliad a bydd eich aelodaeth yn unol â’ch graddfa a chyfrifoldebau (ffi yn daladwy)
  • Cyfleuster prototeipio cyflym (dull dyddodi ymdoddedig) a meddalwedd efelychu systemau gweithgynhyrchu arbenigol

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

  • erodynameg
  • mecaneg hylifol
  • CAD
  • strwythurau awyrennau
  • cynllun awyrennau
  • prosesau gweithgynhyrchu
  • rheoli busnes
  • thermodynameg
  • gweithgynhyrchu yn seiliedig ar gyfrifiadur
  • rheoli cadwyn gyflenwi
  • sefydlogrwydd a rheoli awyrennau
  • systemau afionig
  • gwyddor tyrbin nwy

Cyfleoedd gyrfa

Gan fod prinder yn y wlad ar hyn o bryd am raddedigion peirianneg cymwys, bydd gennych ddigon o opsiynau gyrfa pan fyddwch yn graddio. Gallwch ddod o hyd i waith yn y meysydd peirianneg awyrennol, mecanyddol a gweithgynhyrchu, ymgynghori, ymchwil a datblygu, neu yn y lluoedd arfog. Mae’r HND a HNC yn arbennig o berthnasol ar gyfer gyrfa yn y lluoedd arfog.

Mae graddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i weithio i sefydliadau megis Airbus UK, Rolls Royce Engines, y Gwasanaeth Traffig Awyr Cenedlaethol, British Airways – ymhlith nifer o rai eraill.

Engineering council logo welsh

Cynnwys y cwrs

BEng (Anrh) Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddylunio a chynllunio. Cewch archwilio cysyniadau awyrenneg ac awyrofod newydd a radical ac ategu hyn ag arbenigedd mewn peirianneg fecanyddol er mwyn llunio dyluniadau. Mae pynciau arbenigol yn cynnwys erodynameg, mecaneg hylif, strwythurau awyrennau, cynllunio awyrennau, sefydlogrwydd a rheoli awyrennau, prosesau cynhyrchu, rheoli busnes a thermodynameg. Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a gewch hefyd yn gymwys mewn llawer o ddiwydiannau eraill megis ynni adnewyddadwy, ynni niwclear a'r diwydiant ceir.

Asesu

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Gallai cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yma yw 240 pwynt UCAS neu gyfwerth. (I gynnwys lefel A mewn Mathemateg neu bwnc gwyddonol perthnasol neu gyfatebol)

Côd UCAS

Llawn amser: HH34
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd


BEng (Anrh) Gweithgynhyrchu Awyrennol a Mecanyddol

Cewch ddatblygu dealltwriaeth lawn o gysyniadau dylunio peirianyddol yn ogystal â’r broses ddylunio. Bydd rhan gyntaf y cwrs yn eich cyflwyno i egwyddorion sylfaenol gwyddoniaeth fecanyddol a thrydanol, mecanwaith solidau a pheiriannau a dylunio â chymorth cyfrifiadur. Yna byddwch yn datblygu gwybodaeth uwch, gan edrych ar erodynameg, dynameg beirianyddol, dylunio a gweithgynhyrchu sy’n seiliedig ar gyfrifiadur. Mae hogi eich sgiliau busnes yn ffocws allweddol drwy gydol y cwrs.

Asesu

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Gallai cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Mae arholiadau hefyd yn ffurfio rhan o’ch asesiad.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yma yw 240 pwynt UCAS yn lefel A2 neu uwch, neu gyfwerth  (I gynnwys lefel A mewn Mathemateg neu bwnc gwyddonol perthnasol neu gyfatebol). Gweler y general entry requirements.

Côd UCAS

Llawn amser: HH4H
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd


FdEng Peirianneg Awyrennol (Gweithgynhyrchu)

Prif ffocws y cwrs hwn yw egwyddorion a sgiliau rheoli peirianyddiaeth a rheoli busnes.

Asesu

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Bydd cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Gallai arholiadau ffurfio rhan o’ch asesiad yn ogystal. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd sylfaen yw 120 pwynt, neu gyfwerth. (I gynnwys lefel A mewn Mathemateg neu bwnc gwyddonol perthnasol neu gyfatebol). Gweler y general entry requirements.

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd


FdEng Cynnal a Chadw Awyrennau

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio a’i ddatblygu ar gyfer prentisiaid neu fyfyrwyr dan hyfforddiant sydd eisoes yn gweithio yn y maes Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau. Byddwch yn ymchwilio i egwyddorion sylfaenol deunyddiau peirianneg a systemau awyrennau, yn ogystal â rhoi hwb i’ch sgiliau gweithdy. Cewch ddysgu am ddeddfwriaeth hedfan, systemau afionig, peiriannau tyrbin nwy a gwyddoniaeth tyrbin nwy ac ychwanegu at hyn gyda dysgu sy’n seiliedig ar waith mewn cwmnïau megis MyTravel, Thomas Cook a Hawker Beechcraft.

Asesu

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Bydd cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Gallai arholiadau ffurfio rhan o’ch asesad yn ogystal. 

Gofynion mynediad

120 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfwerth. (I gynnwys lefel A mewn Mathemateg neu bwnc gwyddonol perthnasol neu gyfatebol). Dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol. Cysylltwch â ni i drafod eich profiad neu gymwysterau cyfatebol.

Darperir y radd sylfaen yma mewn cydweithrediad â Choleg Glannau Dyfrdwy. Cyflenwir y cwrs ar sail 50/50 rhwng Prifysgol Glyndŵr a Choleg Glannau Dyfrdwy.

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk