Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Nyrsio Ymarfer Arbenigol Cymunedol

Pam dewis Nyrsio Ymarfer Arbenigol Cymunedol?

Mae hwn yn gwrs nyrsio cyn-cofrestru: cwrs atodol sy’n ychwanegu at gymhwyster lefel-diploma er mwyn ei godi i lefel cwrs gradd. Y mae’n gwrs ymarferol a seiliedig-ar-theori ac yn cynnig cyfrwng o ddatblygiad proffesiynol parhaus sy’n briodol i anghenion gwaith amlddisgyblaethol. Gallwch arbenigo mewn amrywiaeth o lwybrau megis nyrsio ardal, nyrsio mewn meddygfa deuluol neu nyrsio plant cymunedol. Mae’r radd yn anelu i’ch darparu gyda’r sgiliau graddedig o ddadansoddi beirniadol, arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn lleoliad gofal iechyd.

Nodweddion arbennig

  • Treulir 50% o’r cwrs mewn lleoliad ymarfer sy’n cynorthwyo dysgu ac yn datblygu eich sgiliau mewn sefyllfaoedd go-iawn.
  • Fe’ch addysgir gan ddarlithwyr ymarferwyr gofal iechyd profiadol gyda chymwysterau uwch arbenigol ychwanegol.
  • Os ydych wedi’ch cyflogi yng Nghymru fe allech, trwy wneud cais i’r Brifysgol ac i gyflogwr GIG, gael lle wedi’i ariannu gan y Llywodraeth ble telir am ffioedd a chyflog am 38 wythnos y rhaglen.
  • Cymeradwyir y cyrsiau gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i gofnodi cymhwyster Rhagnodydd Nyrs Cymunedol gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.  

Cyfleoedd gyrfaol

Byddwch yn dilyn llwybrau proffesiynol sy’n arwain at waith fel Nyrs Ardal, Nyrs mewn Meddygfa Deuluol, neu Nyrs Plant Cymunedol. Mae swyddi ar gyfer y nyrsys proffesiynol hyn i gyd ar gael o fewn y GIG ar hyn o bryd.

Gwybodaeth am y cwrs

BSc (Anrh) Ymarfer Arbenigol Cymunedol (Nyrsio Plant Cymunedol)
BSc (Anrh) Ymarfer Arbenigol Cymunedol (Nyrsio Ardal)
BSc (Anrh) Ymarfer Arbenigol Cymunedol (Nyrsio Meddygfa Deuluol)

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn astudio’r meysydd craidd o ragnodi nyrs cymunedol a hybu iechyd ac addysg tra’n datblygu eich arweinyddiaeth a’ch proffesiynoldeb at lefel radd. Yna byddwch yn arbenigo eich astudiaethau yn eich dewis faes. Ar gyfer nyrsio ardal byddwch yn canolbwyntio ar Reolaeth Afiechydon Cronig a Gofal Lliniarol, ar gyfer y nyrsio mewn meddygfa deuluol byddwch yn astudio mân anhwylderau, rheoli afiechydon cronig a rheoli clefyd y galon yn y gymuned, ac ar gyfer y nyrsio plant cymunedol byddwch yn canolbwyntio ar astudio gweithio gyda theuluoedd ar faterion iechyd a rheoli plant sâl yn y gymuned. 

Mae’r cwrs yn 38 wythnos o hyd ac mae’r wythnosau astudio yn cynnwys deuddydd o fynychu Prifysgol Glyndŵr, deuddydd mewn ymarfer ac un diwrnod astudio. Mae yna ddau gyfnod o ymarfer ‘bloc’ – un 3 wythnos o hyd ym mis Ionawr ac un 6 wythnos o hyd yn ystod yr haf.

Asesu

Ceir amrywiaeth o dasgau asesu: arholiadau, aseiniadau ysgrifenedig, myfyrdodau, astudiaethau achos, cyflwyniadau a phrosiectau. Yn ogystal, yn ystod y modiwl Dablygiad Proffesiynol Parhaus, asesir eich gallu mewn ymarfer. Yr Astudiaeth Achos Estynedig sy’n asesu’r modiwlau arfer arbenigol yw’r traethawd estynedig.  

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i chi fod: yn nyrs sydd wedi cofrestru gyda ac yn cwrdd â’r gofynion a nodwyd ar gyfer eich llwybr dewisol gan y CNB; meddu ar ddiploma addysg uwch mewn nyrsio neu gyfwerth a bod yn gyflogedig mewn swydd gofal iechyd sy’n berthnasol i’r llwybr yr ydych yn dymuno ei ddilyn.

Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cwrs yma, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen BSc (Hons) Community Specialist Practice modules a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed. 

Côd UCAS

Llawn amser: cais uniongyrchol
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 38 wythnos
Rhan amser: 76 wythnos

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk