Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Nyrsio Cyn-cofrestru

BN (Anhr) Nyrsio (cyn-gofrestru) – arbenigedd Nyrsio Oedolion

BN (Anhr) Nyrsio (cyn-gofrestru) – arbenigedd Nyrsio Iechyd Meddwl

Mae galw mawr ymysg darparwyr gofal iechyd am nyrsys sydd wedi graddio o Brifysgol Glyndŵr.

Cewch ddyfarniad proffesiynol Nyrs Gofrestredig (Oedolion) neu Nyrs Gofrestredig (Iechyd Meddwl), yn ogystal â gradd baglor ag anrhydedd mewn Nyrsio. Bydd y cwrs yn eich paratoi i fod yn ymarferydd adfyfyriol sy’n gallu defnyddio sylfaen dystiolaeth i ddarparu gofal diogel, effeithiol a thrugarog.

Ffeithiau allweddol

  • Byddwch yn astudio cyrsiau Cymru gyfan Trin â Llaw a Chynnal Bywyd Sylfaenol, sydd o werth mawr
  • Mae lleoliadau ar gael mewn ystod eang o leoliadau ac amgylchiadau gofal er mwyn cynnig profiad ehangach
  • Caiff y cyrsiau eu cefnogi gan y defnydd o efelychu clinigol gan ddefnyddio ystafell efelychu arbennig sydd â’r holl offer a thechnoleg diweddaraf a modelau eithaf cywir
  • Byddwch yn gwneud eich astudiaethau ar y prif gampws, felly byddwch yn gallu cymdeithasu â myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill a mwynhau holl gyfleusterau’r brifysgol
  • Cewch eich addysgu gan athrawon profiadol sy’n nyrsys cofrestredig sydd â chymwysterau uwch arbenigol
  • Cymeradwyir y cyrsiau hyn gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Byddwch yn gymwys am fwrsariaeth heb brawf modd a thelir am eich ffioedd dysgu

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Sylfaen Gyffredin yn llwyddiannus, byddwch wedi’ch darparu â’r sgiliau nyrsio craidd sy’n ofynnol er mwyn eich galluogi i symud ymlaen i ganghennau arbenigol Oedolion neu Iechyd Meddwl. Bydd eich astudiaethau yn dod i ben ar ôl llunio traethawd hir sy’n eich helpu i ddwyn ynghyd yr holl ddysgu a wnaed gennych yn ystod y cwrs. Caiff y cwrs ei drefnu dros gyfnod o 156 wythnos, sy’n cynnwys 126 o wythnosau o sesiynau dysgu, er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud o leiaf 2,300 awr o theori a 2,300 awr o ymarfer.

Cyfleoedd gyrfa

Mae gan ein graddedigion record ragorol o gael cyflogaeth yn y sector iechyd o ganlyniad i gael y cymhwyster hwn. Yn dilyn cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, byddwch yn gymwys i ymgymryd â swyddi yn y GIG yn ogystal â’r sectorau preifat a gwirfoddol fel Nyrs Gofrestredig. Dyma’r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd gan gynnwys swyddi cyffredinol ac arbenigol.

Cynnwys y cwrs

BN (Anhr) Nyrsio (cyn-gofrestru) – arbenigedd Nyrsio Oedolion

Cewch eich herio a’ch ysgogi trwy’r adeg mewn lleoliadau clinigol amrywiol, gan ddatblygu sgiliau darparu gofal a rheoli gofal wrth edrych ar ôl oedolion a phobl hyˆ n sydd angen gofal nyrsio. Ynghyd â’ch gwybodaeth glinigol, byddwch yn dysgu am bolisïau iechyd a chymdeithasol, rheoli newid, sgiliau ymchwil nyrsio a materion proffesiynol a safonau. Byddwch yn parhau i ddatblygu eich gwybodaeth academaidd mewn biowyddoniaeth gymhwysol o fewn fframwaith model bioseicogymdeithasol iechyd.

Asesu

Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu gan gynnwys traethodau ffurfiol, cyflwyniadau poster, arholiadau, a dysgu seiliedig-ar-ymholi. Asesir myfyrwyr yn y lleoliad arfer clinigol trwy bortffolio myfyrwyr. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio rhan olaf eich asesu. 

Gofynion mynediad

Yn unol â gofynion y CNB, ni ddylai’r rheiny sy’n ymuno â rhaglen addysg Nyrsio Cyn-cofrestru fod yn iau na 17 a 6 mis ar ddiwrnod cyntaf y rhaglen (Safon 1 – Oed Mynediad, Safon Hyfedredd ar gyfer addysg Nyrsio Cyn-cofrestru, CNb 2004).

Fel arfer bydd arnoch angen 300 pwynt UCAS er mwyn bod yn gymwys ar gyfer mynediad. Os oes gennych gymwysterau ansafonol megis NVQ Lefel 3 mewn maes nad yw’n gysylltiedig â gofal, cymhwyster Mynediad i AU neu gymhwyster academaidd seiliedig ar alwedigaeth, fe’ch asesir ar sail unigol. Gwahoddir pob ymgeisydd addas i Brifysgol Glyndŵr am gyfweliad.

Gradd C neu uwch mewn TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Mathemateg, Cymraeg neu Saesneg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadur. Mae iechyd, gwyddoniaeth a’r gwyddorau cymdeithasol yn dda i baratoi ar gyfer y cwrs. Derbynnir hefyd y cwrs Mynediad i Addysg Uwch mewn Nyrsio, Iechyd, Gwyddoniaeth neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae gwiriad CRB yn ofynnol ar gyfer y ddau gwrs hwn. Mae’n rhaid i chi hefyd gael cliriad iechyd gan yr adran Iechyd Galwedigaethol. Cewch eich cyfweld, a gofynnir am ddau eirda ac mae’n rhaid i un ohonynt fod yn ymwneud â’ch rhinweddau personol a’ch cymeriad.

Bydd ceisiadau a dderbynnir erbyn y 15fed o Ionawr yn cael eu hystyried, ac os byddant ar y rhestr fer, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu cyfweld ddiwedd Chwefror neu ddechrau Mawrth. Bydd y ceisiadau yn cau ar yr 16eg  o Ionawr. 

Côd UCAS

Llawn amser: B700

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

 

Fe gewch brofiad rhagorol wrth i chi ymwneud â lleoliadau clinigol trwy holl faes nyrsio iechyd meddwl, gan ddatblygu eich sgiliau mewn cyfathrebu therapiwtig yn y GIG a’r sectorau annibynnol. Bydd llawer o ofynion o’ch blaen ond cewch hefyd gryn foddhad wrth i chi helpu cleientiaid i fynd i’r afael â’u sialensau. Ynghyd â’ch gwybodaeth glinigol, byddwch yn astudio polisi cymdeithasol, y gyfraith a moeseg fel y bo’n berthnasol i’r maes gofal iechyd meddwl, yn ogystal â pharhau i dyfu fel ymarferydd sy’n datblygu sydd â gwerthfawrogiad beirniadol o ymchwil.

Asesu

Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu gan gynnwys traethodau ffurfiol, cyflwyniadau poster, arholiadau, a dysgu seiliedig-ar-ymholi. Asesir myfyrwyr yn y lleoliad arfer clinigol trwy bortffolio myfyrwyr. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio rhan olaf eich asesu. 

Gofynion mynediad

Yn unol â gofynion y CNB, ni ddylai’r rheiny sy’n ymuno â rhaglen addysg Nyrsio Cyn-cofrestru fod yn iau na 17 a 6 mis ar ddiwrnod cyntaf y rhaglen (Safon 1 – Oed Mynediad, Safon Hyfedredd ar gyfer addysg Nyrsio Cyn-cofrestru, CNb 2004).

Fel arfer bydd arnoch angen 300 pwynt UCAS er mwyn bod yn gymwys ar gyfer mynediad. Os oes gennych gymwysterau ansafonol megis NVQ Lefel 3 mewn maes nad yw’n gysylltiedig â gofal, cymhwyster Mynediad i AU neu gymhwyster academaidd seiliedig ar alwedigaeth, fe’ch asesir ar sail unigol. Gwahoddir pob ymgeisydd addas i Brifysgol Glyndŵr am gyfweliad. 

Mae pob cynnig yn amodol ar gael y graddau/pwyntiau gofynnol ynghyd â chanlyniad boddhaol yn sgil gwiriad gan y (Uwch Ddatgeliad). Mae gofyn am hyn gan y gallech weithio gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed yn ystod eich astudiaethau. Mae’n rhaid i chi hefyd gael cliriad iechyd gan yr Adran Iechyd Galwedigaethol. Mae’r tîm derbyniadau hefyd yn cadw’r hawl i ofyn am eirdaon ychwanegol ble y bo hynny’n briodol. Byddwch yn cael cyfweliad personol, sy’n ffurfio rhan o’r broses ddethol. 

Gradd C neu uwch mewn TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Mathemateg, Cymraeg neu Saesneg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfrifiadur. Mae iechyd, gwyddoniaeth a’r gwyddorau cymdeithasol yn dda i baratoi ar gyfer y cwrs. Derbynnir hefyd y cwrs Mynediad i Addysg Uwch mewn Nyrsio, Iechyd, Gwyddoniaeth neu’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae gwiriad CRB yn ofynnol ar gyfer y ddau gwrs hwn, gweler tudalen 207. Mae’n rhaid i chi hefyd gael cliriad iechyd gan yr adran Iechyd Galwedigaethol. Cewch eich cyfweld, a gofynnir am ddau eirda ac mae’n rhaid i un ohonynt fod yn ymwneud â’ch rhinweddau personol a’ch cymeriad.

Bydd ceisiadau a dderbynnir erbyn y 15fed o Ionawr yn cael eu hystyried, ac os byddant ar y rhestr fer, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu cyfweld ddiwedd Chwefror neu ddechrau Mawrth. Bydd y ceisiadau yn cau ar yr 16eg  o Ionawr.

Côd UCAS

Llawn amser: B700

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd


BN (Anhr) Nyrsio (cyn-gofrestru) – arbenigedd Nyrsio Iechyd Meddwl

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk