Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Newyddiaduraeth

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth

Pam dewis Newyddiaduraeth?

NWN Media

Mae’r cwrs yma yn bartneriaeth arloesol gyda’r grŵp papurau newydd rhanbarthol NWN Media sy’n cyfuno deuddydd yr wythnos o brofiad bywyd go iawn yn ystafelloedd newyddion papurau NWN Media gyda theori academaidd wedi’i darparu gan arbenigwyr y diwydiant ym Mhrifysgol Glyndŵr.

NCTJ

Byddwch yn cael cyfle i sefyll cyfres gyfan o arholiadau rhagarweiniol y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr gan gynnwys cyfraith y cyfryngau, ysgrifennu newyddion a materion cyhoeddus.   

Nodweddion arbennig

  • Mae Prifysgol Glyndŵr a NWN Media wedi llwyddo i gael achrediad diwydiant ar gyfer y cwrs gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr.
  • Bydd rhaglen strwythuredig o ymweliadau llys, cyngor a chyrff cyhoeddus o fewn y lleoliadau ystafell newyddion yn ychwanegu at y theori a gyflenwir ym Mhrifysgol Glyndŵr yn y modiwlau materion cyhoeddus, cyfraith y cyfryngau ac  ysgrifennu newyddion.
  • Byddwch yn gallu cael gafael ar gyfleusterau argaffu, darlledu ac ar-lein i’ch darparu gyda sgiliau aml-gyfryngol.
  • Mae ystod o siaradwyr diwydiant a pherthnasol yn rhoi cipolwg i chi ar y materion sy’n effeithio ar ddiwydiant y cyfryngau.
  • Nid yn unig y byddwch yn cael gwybodaeth ddigonol i’ch galluogi i weithio fel newyddiadurwr/wraig, byddwch hefyd yn cael eich annog i ddatblygu arloesedd, creadigrwydd a hyblygrwydd mewn amgylchedd aml-gyfrynol cyflym. 

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i’ch darparu gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r cymwysterau diwydiant sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa ym mhob agwedd ar newyddiaduraeth gan ganolbwyntio yn benodol ar newyddion print, ar-lein ac aml-gyfryngol.

Gwybodaeth am y cwrs

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth Print

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs yma yn eich galluogi i feithrin sgiliau a thechnegol a fydd yn eich galluogi i fod yn newyddiadurwyr/wraig medrus. Trwy’r cwrs byddwch yn astudio cyfraith y cyfryngau a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer newyddiadurwyr a materion cyhoeddus a sut mae democratiaeth yn gweithio. Byddwch yn cael cyfle i greu portffolio newyddion wrth i chi ddechrau ymarfer eich sgiliau newyddiadurol trwy elfennau ymarferol y cwrs.

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth Print - Cwestiynau a holir yn aml

Cyfarfod y myfyriwr - Kate Forrester

Asesu

Mae pob modiwl yn gwneud defnydd helaeth o waith cwrs a dysgu seiliedig-ar-waith a fydd yn cael eu cyfuno mewn portffolio o waith fel asesiad cyfansymiol. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys traethodau, adroddiadau, profion yn y dosbarth a gwaith ymarferol o leoliadau ystafell newyddion.

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle hefyd i sefyll arholiadau Diploma’r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr ac asesiadau gan gynnwys cyfraith y cyfryngau, materion cyhoeddus, ysgrifennu newyddion amlgyfryngol a newyddiaduraeth fideo ar-lein.

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i chi allu dangos fod y gallu a’r potensial gennych i lwyddo mewn gyrfa newyddiadurol trwy gael o leiaf 50% ym mhrawf cymhwyster y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr. 

Côd UCAS

Rhan-amser: gwnewch gais yn uniongyrchol

Hyd

Rhan-amser: Medi - Gorffennaf. Mae’r cwrs yn cynnwys deuddydd ar leoliad gwaith.

Ffioedd

Mae cost cymwysterau’r NCTJ yn gynwysedig yn ffi’r cwrs (£1,135 ar gyfer mynediad yn 2010/11). Bydd hyn yn cynnwys cyfraith y cyfryngau, materion cyhoeddus, gohebu, portffolio amlgyfryngol a newyddiaduraeth fideo ar-lein ynghyd â phedwar arholiad llaw-fer. Bydd yn rhaid talu am ailsefyll arholiadau neu am arholiadau llaw-fer ychwanegol eich hun.

Cronfa Amrywiaeth Newyddiadurol
Cronfa Amrywiaeth Newyddiadurol

Mae yna fwrsarïau ar gael trwy’r Gronfa Amrywiaeth Newyddiadurol i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig a chymdeithasol amrywiol sy’n dymuno hyfforddi fel newyddiadurwyr. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i  www.journalismdiversityfund.com

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth am y cwrs yma, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen Janet Jones trwy ebostio j.m.jones@glyndwr.ac.uk. Bydd yn gallu rhoi gwybodaeth bellach i chi am y Dystysgrif AU mewn Newyddiaduraeth Brint, gan gynnwys atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin y gallai darpar fyfyrwyr eu holi am y cwrs.

Mae Janet Jones yn newyddiadurwraig brofiadol a ymunodd â Phrifysgol Glyndŵr o’r Express & Star, papur newydd rhanbarthol mwyaf y DU, ble bu’n ddarlithydd yn ysgol newyddiaduraeth y cwmni. Mae’n brif arholydd a chadeirydd bwrdd arholi materion cyhoeddus yr NCTJ.

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk