Text begins here:
Marchnata
BA (Anhr) Marchnata Busnes
FdA Rheolaeth Busnes gyda Marchnata
Dewch i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu a chraffter busnes. Cewch gyfuno creadigrwydd â dadansoddi a rhesymeg.
Mae marchnata yn ganolog i fyd busnes, ac mae wedi dod yn fwyfwy pwysig yn y sectorau cyhoeddus a’r sectorau elusen. Mae datblygu perthynas ragweithiol â chwsmeriaid a marchnadoedd yn allweddol i lwyddiant mewn unrhyw sefydliad.
Ffeithiau allweddol
- Mae gan y Brifysgol gysylltiadau rhagorol â chyrff proffesiynol a busnesau lleol
- Mae’r pynciau astudio yn cynnwys rhai busnes cyffredinol yn ogystal â gwybodaeth marchnata arbenigol
- Mae blwyddyn gyntaf gyffredin yn golygu y cewch ddewis teitl arbenigol terfynol eich gradd ar ddiwedd y flwyddyn honno
- Mae cynllunio datblygiad personol wedi’i integreiddio trwy’r cwrs cyfan. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn datblygu’r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheolaeth effeithiol – yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa.
Cynnwys nodweddiadol y cwrs
Mae’r pynciau astudio yn cynnwys economeg, rheoli adnoddau dynol a chyfrifeg yn ogystal ag amrywiaeth o opsiynau marchnata arbenigol.
Cyfleoedd gyrfa
Drwy astudio marchnata byddwch yn datblygu ystod o sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer amgylchedd cystadleuol y byd busnes sydd ohoni. Mae trin pobl a chyfathrebu llwyddiannus yn sgiliau rheoli pwysig ac fe gaiff y rhain eu datblygu ar y cwrs hwn, ynghyd â rhychwant o dechnegau datrys problemau a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys: marchnata, ymchwil i’r farchnad, rheoli brand, rheoli cynnyrch, cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu.
Cynnwys y cwrs
BA (Anhr) Marchnata Busnes
Yn ogystal ag astudio pynciau sy’n gysylltiedig â marchnata, byddwch yn astudio rhychwant o bynciau sydd yn sylfaenol i arferion busnes da. Byddwch yn hogi eich sgiliau TG a chyfathrebu, a dod i ddeall yr amgylchedd busnes a’i reolaeth, ac yn ymdrin â meysydd marchnata mwy arbenigol megis sicrhau gwerth i gwsmeriaid, rheoli’r berthynas â chwsmeriaid a marchnata rhyngwladol. Cewch hefyd y cyfle i ddewis modiwlau sydd o ddiddordeb penodol i chi, yn ogystal ag astudio prosiect ymchwil marchnata ym mlwyddyn olaf y radd.
Asesu
Mae asesu yn gyfuniad o aseinaidau ac arholiadau. Mae aseiniadau yn cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau, trafodaethau ar-lein, prosiectau ymchwil, dadansoddi ac adroddiadau cwmni.
Gofynion mynediad
240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth.
Côd UCAS
Llawn amser: NN1M
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd
FdA Rheolaeth Busnes gyda Marchnata
Byddwch yn astudio pynciau sy’n gysylltiedig â marchnata, gan drin a thrafod ystod o bynciau sydd yn sylfaenol i arferion busnes da gan gynnwys marchnata, cynllunio busnes, cyllid a rheoli adnoddau dynol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o amgylchedd busnes a’r gyfraith. Yn nes ymlaen yn y cwrs byddwch yn astudio meysydd marchnata mwy arbenigol megis cynllunio marchnata a sicrhau gwerth i gwsmeriaid.
Asesu
Mae asesu yn gyfuniad o aseinaidau ac arholiadau. Mae aseiniadau yn cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau, trafodaethau ar-lein, prosiectau ymchwil, dadansoddi ac adroddiadau cwmni.
Gofynion mynediad
120 pwynt o leiafswm o 1 lefel A. Mae’n bosibl y bydd profiad seiliedig ar waith perthnasol yn cael ei ystyried hefyd.
Côd UCAS
Llawn amser: N2N5
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd
Rhan amser: 1 flynedd atodol ar ôl cwblhau'r HNC
O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau.
Cysylltwch â ni
Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).
Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr Rhif ffôn: 01978 293439 Ebost: sid@glyndwr.ac.uk
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|