Text begins here:
Iechyd a Diogelwch
BSc (Anrh) Rheolaeth Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd Galwedigaethol
FdSc Rheolaeth Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd Galwedigaethol
Gallai 70 y cant o ddamweiniau yn y gweithle eu hatal pe byddai cyflogwyr yn gweithredu mesurau rheoli diogelwch priodol. Gallech chi fod yn gyfrifol am roi’r mesurau rhwystro hyn ar waith.
Mae deddfwriaeth sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ddiwydiant sylweddoli effaith aruthrol y materion hyn a’u pwysigrwydd yn y gweithle. Mae’r cyrsiau hyn yn archwilio ffyrdd o reoli risg yn effeithiol ac yn cynnig dealltwriaeth eang o faterion iechyd a diogelwch.
Ffeithiau allweddol
- Mae’r ddwy radd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol sy’n golygu eu bod yn bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer Aelodaeth Siartredig
- Derbynnir y cyrsiau gan Sefydliad Rhyngwladol Rheoli Risg a Diogelwch ar gyfer aelodaeth lawn
- Mae 100% o raddedigion Iechyd Galwedigaethol wedi dod o hyd i waith lefel graddedigion o fewn 6 mis ar ôl graddio
Cynnwys nodweddiadol y cwrs:
Mae’r meysydd a drafodir yn cynnwys y gyfraith, cyfathrebu, gwyddoniaeth a rheoli fel y maent yn berthnasol i iechyd a diogelwch.
Cyfleoedd gyrfa
Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa yn agored i weithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch ym mhob maes diwydiant ac iechyd galwedigaethol. Mae ein portffolio o gyrsiau yn eich galluogi i symud o dystysgrifau NEBOSH at radd sylfaen ac ymlaen at radd anrhydedd os dymunwch. Mae’r cyrsiau yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gweithio yn y maes hwn ac yn dymuno cynyddu eu gwybodaeth neu bobl sy’n dechrau ar yrfa ym maes iechyd a diogelwch.
Cynnwys y cwrs
BSc (Anrh) Iechyd, Diogelwch a Rheoli’r Amgylchedd Galwedigaethol
Mae’r cwrs yn ymdrin yn llawn â meysydd y gyfraith, cyfathrebu, gwyddoniaeth, rheoli a seicoleg fel y bo’n berthnasol i iechyd a diogelwch. Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys rheoli iechyd a diogelwch, deddfwriaeth, seicoleg alwedigaethol, rheoli prosiect, diogelwch tân, hylendid ac iechyd a rheoli risg. Mae modiwlau opsiynol i chi ddewis ohonynt yn cynnwys rheoli’r amgylchedd, iechyd a diogelwch yn y byd adeiladu a systemau rheoli integredig.
Asesu
Mae yna ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolios proffesiynol, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Mae traethawd estynedig yn ffurfio rhan olaf yr asesu ar gyfer y radd anrhydedd.
Gofynion mynediad
Gofynnir i chi fod wedi cael un o’r cymwysterau canlynol: Rheolaeth Iechyd a Diogelwch Cyffredinol; Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol; Rheolaeth Iechyd a Diogelwch wrth Adeiladu; Tystysgrif Adeiladu Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol.
Rhan-amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan-amser: 4 mlynedd
FdSc Iechyd, Diogelwch a Rheoli’r Amgylchedd Galwedigaethol
Mae’r meysydd a gaiff sylw yn ystod y cwrs yn cynnwys cyfraith iechyd a diogelwch, gwyddor deunyddiau, rheoli iechyd a diogelwch, defnyddiau peryglus yn y gwaith a chyfathrebu iechyd a diogelwch. Byddwch hefyd yn astudio seicoleg alwedigaethol, diogelwch tân, diogelwch safle adeiladu, safon a rheoli’r amgylchedd a hylendid galwedigaethol.
Asesu
Mae yna ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolios proffesiynol, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol.
Gofynion mynediad
Gofynnir i chi fod wedi cael un o’r cymwysterau canlynol: Rheolaeth Iechyd a Diogelwch Cyffredinol; Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol; Rheolaeth Iechyd a Diogelwch wrth Adeiladu; Tystysgrif Adeiladu Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|