Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Hyfforddi Chwaraeon

BSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon

Amcan y radd hyfforddi yw datblygu cenhedlaeth o hyfforddwyr sy’n meddu ar y sgiliau hyfforddi i wella perfformiad yr athletwyr a’r timau y maent yn gweithio gyda nhw, tra ar yr un pryd yn datblygu’r sgiliau ymarferydd sy’n ofynnol i reoli’r amgylchedd chwaraeon.

Mae’r radd hon yn datblygu eich gallu i hyfforddi ar bob lefel; o lefel gymunedol i lefel elitaidd. Amlinellwyd y sgiliau y byddwch yn eu harchwilio a’u hymarfer yn ystod y cwrs gradd gan Sports Coach UK a Llywodraeth Cynulliad Cymru fel rhai sy’n hanfodol er mwyn cynyddu lefel ac ansawdd hyfforddwyr chwaraeon a byddant yn chwarae rhan dyngedfennol yn natblygiad pobl ifanc a’u cyfranogiad mewn chwaraeon.

Bydd y radd hyfforddi chwaraeon yn eich darparu i gyflawni yr hyn a welir fel rolau hanfodol o fewn cymunedau lleol a chyrff cenedlaethol, o ran hybu chwaraeon a ffordd o fyw iach a heini, gan hynny yn darparu cysylltiad gwerthfawr gydag ysgolion, colegau, clybiau a chymunedau.

Ffeithiau allweddol

  • Cyfleoedd i gael profiad hyfforddi a chymwysedig yn gweithio gydag unigolion a thimau mewn amrywiaeth o leoliadau perfformio yn amrywio o’r sylfaenol i’r elitaidd
  • Cyfleusterau chwaraeon rhagorol gan gynnwys cae astroturf sylfaen-dwˆ r rhyngwladol, cae pêl-droed ac arwyneb chwarae sylfaen-tywod maint llawn, neuadd chwaraeon a balconi, stiwdio ddawns a chyfleusterau profi gwyddor chwaraeon o ansawdd uchel gan gynnwys labordy perfformiad dynol
  • Mae yna gyfleusterau chwaraeon elitaidd o fewn cyrraedd i’r campws ar droed ac yn cynnwys canolfan dennis, trac athletau rhyngwladol a chlwb pêl-droed y dref
  • Mae yna wobrau hyfforddi ac ystod o gymwysterau proffesiynol y gallech eu cael yn ystod eich astudiaethau
  • Yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2009, pleidleisiodd ein myfyrwyr blwyddyn olaf 100% o foddhad gyda’u cwrs; gan ein gwneud y gorau yn y wlad*
  • Cyflenwir y cwrs gan diwtoriaid brwdfrydig a hyddysg sy’n addysgu o fewn amgylchedd addysg grymusol. Mae’r darlithoedd yn ymchwil weithredol, sy’n golygu fod y cwricwlwm yn gyfredol ac yn berthnasol
  • Mae cefnogaeth diwtorial ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Mae gan Brifysgol Glyndwˆ r raglen wobrwyo ysgoloriaethau a bwrsarïau chwaraeon ar gyfer athletwyr dawnus
  • Mae gennym Labordy Perfformiad Dynol sydd ag offer tra modern – gweler y wefan am fwy o wybodaeth

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

Yn ystod y cwrs byddwch yn cwmpasu dadansoddi, seicoleg chwaraeon a chymdeithaseg, goreuon chwaraeon hyfforddi, ffisioleg chwaraeon ac arferion a gweithdrefnau hyfforddi. Wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs byddwch yn gallu dewis modiwlau sy’n adlewyrchu eich diddordebau.

Cyfleoedd gyrfa

Mae’r radd yma wedi ei hanelu at fyfyrwyr sydd yn benodol eisiau mynd ar drywydd gyrfa o fewn maes hyfforddi chwaraeon, sy’n cynnwys gweithio i awdurdod lleol, corff llywodraethu chwaraeon neu o fewn y sector addysg. Yn dibynnu ar eich dewisiadau opsiwn, byddwch hefyd yn cael sgiliau i fynd ar drywydd gyrfa o fewn y lluoedd arfog fel hyfforddwr ymarfer corff, addysgwr hyfforddiant chwaraeon neu ddatblygiad chwaraeon (canolbwyntio ar hyfforddi). Gallech hefyd ddewis symud ymlaen i Dystysgrif Addysg Uwchraddedig neu gwrs meistr.

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon

Un nodwedd o’r cwrs yma fydd cymhwysiad ymarferol theori i amgylcheddau hyfforddi realistig a hefyd i ddatblygu cysylltiadau â’r diwydiant hyfforddi ar bob lefel o hyfforddwyr cymunedol i rai elitaidd ac addysgwyr hyfforddwyr. Yn ogystal â hyn, a chydnabod fod hyfforddi yn y bôn yn broses gymdeithasol sydd yn golygu rhyngweithio dynol, bydd y radd yn darparu cyfleoedd i astudio hyfforddi mewn amrywiaeth o gyd-destunau a lleoliadau cymdeithasol, yn ogystal ag mewn ystod eang o weithgareddau.

Bydd cynnwys y cwrs gradd yn gwneud defnydd o egwyddorion hyfforddi allweddol, gan gynnwys archwilio arfer hyfforddi a phroses hyfforddi. Yn ogystal, bydd egwyddorion gwyddor chwaraeon yn cysylltu seicoleg a ffisioleg gyda hyfforddi a pherfformio, tra bydd agweddau cymdeithasegol chwaraeon a hyfforddi chwaraeon a dadansoddi perfformiad

Asesu

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu i brofi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth. Mae hyn yn cynnwys traethodau, portffolios, sesiynau hyfforddi ymarferol, adroddiadau, cyflwyniadau, trafodaethau ar-lein a gwerthuso astudiaethau achos. Byddwch yn cael eich asesu ar eich gallu i ddadansoddi gweithgareddau hyfforddi, defnyddio meddalwedd fideo arbenigol, ymgymryd â gwaith labordy a chynnal ymchwil annibynnol. Bydd disgwyl i chi gwblhau traethawd estynedig fel rhan o’ch asesiad olaf. 

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion academaidd ar gyfer y radd Hyfforddi Chwaraeon ar gyfer o leiaf 260 pwynt. Byddai peth cefndir gwyddonol ac/neu brofiad o hyfforddi yn fanteisiol. Cyn i chi gael cynnig lle diamod bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed. 

Côd UCAS

Llawn amser: C610
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 6 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk