Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Modiwlau a strwythur y cwrs

Ym mhob blwyddyn o’r cwrs gradd byddwch yn cwblhau 120 credyd, sydd fel rheol yn cynnwys chwe modiwl.

Blwyddyn 1

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn dechrau astudio tair prif thema’r cwrs: cynaliadwyedd, ecoleg a sgiliau dadansoddi amgylcheddol. Byddwch yn dysgu dulliau ymarferol ar gyfer astudio amgylchedd maes ac yn y labordy, ac yn astudio’r bywydeg a’r cemeg sy’n ategu gwyddor amgylcheddol.

Blwyddyn 2

Yn y flwyddyn yma byddwch yn datblygu mwy ar eich sgiliau dadansoddi labordy ac yn cymhwyso’r egwyddorion a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf i enghreifftiau go iawn. Bydd eich astudiaethau ecoleg, er enghraifft, yn arwain at ymchwilio i amrywiaeth o ecosystemau arfordirol a daearol, gan gynnwys elfen gref o astudiaeth maes. Byddwch hefyd yn dechrau astudio Systemau Gwybodaeth Daeryddol (GIS).

Blwyddyn 3

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn astudio bywydeg cadwraeth ac fe allech ddewis cwblhau modiwl o waith cadwraeth ymarferol. Fel arall, gallwch ganolbwyntio ar gadwraeth a rheolaeth yr amgylchedd trefol. Byddwch yn parhau i ymchwilio i ddatblygiad cynaliadwy, ac yn ymgymryd â phrosiect unigol.

Addysgu ac Asesu

Addysgir modiwlau mewn darlithoedd, sesiynau labordy, tripiau maes a thiwtorialau. Fel rheol bydd gan y modiwlau un neu ddwy sesiwn 2-awr bob wythnos. Mae’r grwpiau yn fach, felly ceir digonedd o gefnogaeth gan y staff addysgu.

Asesir pob modiwl yn unigol, rhai gyda chyfuniad o arholiadau a gwaith cwrs, a rhai gyda gwaith cwrs yn unig. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys adroddiadau labordy, ymchwiliadau a chyflwyniadau gwaith maes.

Cyfleusterau

Addysgir y cwrs ar gampws Plas Coch, Wrecsam, ble gallwn wneud defnydd o labordai addysgu ac adnoddau’r grwpiau ymchwil o fewn yr adran Gwyddor Defnyddiau a Dadansoddi. Mae ein lleoliad hefyd yn ei gwneud yn bosib i ni gymryd mantais o safleoedd maes yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig, ac mae gwaith maes yn elfen bwysig o’r cwrs.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae graddedigion o’n graddau wedi mynd ymlaen i amryw o yrfaoedd. Cyflogir rhai gan awdurdodau lleol mewn gwaith cadwraeth natur neu’r adran gynllunio. Mae eraill yn gweithio mewn diwydiannau sydd angen cydsynio â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, neu gydag ymgynghoriaethau amgylcheddol. Mae rhai yn mynd ymlaen i gael mwy o gymwysterau, naill ai mewn pwnc amgylcheddol, neu er mwyn addysgu. Mae gan y brifysgol wasanaeth gyrfaoedd (link ?) sydd ar gael i fyfyrwyr trwy gydol eu hamser yma ac ar ôl graddio.

Cyrsiau israddedig
  • Modiwlau a strwythur y cwrs

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk