Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Gwyddor chwaraeon ac ymarfer yw cymhwyso egwyddorion gwyddonol at chwaraeon ac ymarfer corff.  Mae’r cynnydd mewn diddordeb yn y maes yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn aruthrol.

Mae’r cwrs yma yn cwmpasu cymhwyso gwyddoniaeth nid yn unig i chwaraeon ond i’r farchnad ymarfer corff newydd yn ogystal. Byddwch yn archwilio materion yn ymwneud ag optimeiddio perfformiad chwaraeon, hybu iechyd, argymell ymarfer corff, lles a ffitrwydd.

Trwy ymgymryd â’r radd hon byddwch yn datblygu eich sgiliau i weithio mewn amgylchedd labordy, gan ddefnyddio ein cyfleusterau tra modern i gynnal arbrofion sy’n amrywio o brofion ffitrwydd sylfaenol ar gyfer plant ysgol i brofi athletwyr elitaidd yn ein siambr wres.

Ffeithiau allweddol

  • Cefnogaeth ragorol i fyfyrwyr. Rhestrwyd ni yn orau yn y DU am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf, yn ogystal â chyntaf am adborth myfyrwyr ac ail am addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2011
  • Mae gennym dîm deinamig o ansawdd uchel o ddarlithwyr gyda phrofiad ymchwil rhyngwladol
  • Cyfleusterau chwaraeon gwych gan gynnwys cae astroturf sylfaen-dwˆ r rhyngwladol, arwyneb chwarae sylfaen-tywod, cae pêl-droed, neuadd chwaraeon gyda balconi, stiwdio ddawns a chyfleusterau profi gwyddor chwaraeon
  • Mae dysgu cymwysedig yn hanfodol i’n gweledigaeth
  • Mae hyn yn golygu y byddwn yn sicrhau nad yw eich addysg wedi’i chyfyngu i ddarlithfeydd ac ystafelloedd seminar;
  • yn hytrach rydym yn dewis cyflwyno myfyrwyr i waith mwy ymarferol a chymwysedig
  • Staff cyfeillgar, agos-atoch – byddwch yn enw, nid yn rhif!
  • Mae gan y Brifysgol ysgoloriaethau a bwrsarïau ar gyfer athletwyr dawnus
  • Mae gennym Labordy Perfformiad Dynol gydag offer tra modern – gweler y wefan am fwy o wybodaeth

Cyfleoedd gyrfa

Mae graddedigion Gwyddor Chwaraeon ac ymarfer wedi mynd i ystod o yrfaoedd ym meysydd iechyd, ffitrwydd a’r diwydiant hamdden, datblygu chwaraeon, addysg, y lluoedd arfog, a’r heddlu. Dyma ddim ond rhai o’r swyddi y mae ein graddedigion yn eu cael: Ffisiolegydd Cardiaidd, Cynorthwy-ydd Ffisiotherapi, Hyfforddwr Ffitrwydd, Ymgynghorydd Ffordd o Fyw a Gweithiwr Ymarfer Proffesiynol.

Mae graddedigion eraill wedi mynd i swyddi megis Interniaeth Cryfder a Chyflyru gydag Undeb Rygbi Pêl-droed Cymru, Swyddog Datblygu Rygbi Undeb Cymru neu ddarlithwyr mewn Addysg Bellach.

Mae nifer o fyfyrwyr wedi dechrau ar eu busnesau eu hunain, yn aml mewn hyfforddiant personol, cryfder a chyflyru a hyfforddi. Nid yn unig y mae’r radd yn eich darparu gydag ystod o sgiliau gyrfaol, y mae hefyd yn cefnogi dilyniant i PhD, gradd Meistr neu ymgymryd â Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg. Gan fod Gêmau Olympaidd 2012 yn agosáu, mae’r rhagolygon ar gyfer y rheiny sydd â chymwysterau chwaraeon yn well nag erioed.

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Ar ddechrau’r cwrs, fe’ch cyflwynir i sylfaen seicoleg chwaraeon cymwysedig, dadansoddi perfformiad yn ogystal ag anatomi dynol a ffisioleg cysylltiedig â chwaraeon a hyfforddi chwaraeon. Mae meysydd eraill a gwmpasir yn cynnwys asesu ac ymyrryd ffisiolegol, sgiliau ymchwil mewn chwaraeon ac ymarfer ac iechyd. Wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs gradd byddwch yn gallu dewis modiwlau dewisol sy’n adlewyrchu eich diddordebau gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, dadansoddi gêmau, dadansoddi techneg, gweithgareddau corfforol, cefnogaeth gwyddor chwaraeon, ymarfer ac iechyd hyfforddiant personol.

Asesu

Fe’ch asesir trwy ystod o ddulliau i brofi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth, gan gynnwys traethodau, adroddiadau labordy, dadansoddi fideo, asesu ymarferol, cyflwyniadau, portffolios, trafodaethau ar-lein, achosion astudiaeth a gwaith seminar. Ar ben hynny byddwch yn cael y cyfle i weithio gydag ystod o bersonél o athletwyr rhyngwladol i grwpiau oedolion yn y gymuned. Trwy gydol y cwrs byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil fel y gallwch ymgymryd â thraethawd ymchwil estynedig yn y flwyddyn olaf.

Gofynion mynediad

Bydd angen 260 pwynt UCAS yn lefel A neu gyfwerth arnoch, gyda chefndir gwyddonol o fantais ond heb fod yn hanfodol.

Cyn i chi gael cynnig lle diamod bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed. 

Côd UCAS

Llawn amser: C606
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 6 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk