Text begins here:
Gwaith Cymdeithasol
BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol: Statws Cymwysedig
Mae gweithio mewn gwaith cymdeithasol yn yrfa eithriadol o heriol ond gwerth chweil. Mae pob diwrnod yn wahanol a byddwch yn datblygu sgiliau gwrando, gofalu ac arsylwi rhagorol.
Mae graddedigion BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol hefyd yn ennill dyfarniad proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol. Mae’r cwrs yn cwmpasu pwysigrwydd a gwerth gwaith cymdeithasol, ei ddatblygiad mewn cyd-destun polisi cymdeithasol a’r fframweithiau cyfreithiol sy’n ymwneud â’r maes hwn.
Mae’n rhoi’r cyfle i chi archwilio gweithio gyda grwpiau defnyddwyr gwasanaethau gwahanol ac o fewn amgylchiadau ymarfer amrywiol. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau allweddol gan gynnwys cyfathrebu uwch, asesu, dulliau ymyriad, rheoli ac ymchwil gwerthusol.
Ffeithiau allweddol
- Mae gan Brifysgol Glyndwˆ r draddodiad hir o dros 25 mlynedd o gyflenwi gwaith cymdeithasol
- Mae’r Brifysgol wedi’i hachredu i ddarparu’r radd hon gan Gyngor Gofal Cymru. I gael eich derbyn ar y cwrs hwn, mae’n rhaid i chi fod yn gymwys i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol sy’n fyfyriwr gyda’r cyngor gofal cymdeithasol perthnasol ar gyfer eich gwlad. Byddwch yn cael cyfle i gwblhau Trwydded Yrru Cyfrifiaduron Ewropeaidd (ECDL) ac mae’n rhaid i chi basio hwn er mwyn graddio
- Mae gan y tiwtoriaid sy’n dysgu ar y cwrs amrywiaeth o brofiad mewn ymarfer a diddordebau ymchwil eang
- Gallwch gael tiwtorialau, yr asesu ac ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg pe dymunwch
Cyfleoedd gyrfa
Byddwch yn cael statws gweithiwr cymdeithasol cymwysedig ar ôl graddio. Mae’r rhagolygon gyrfaol o fewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn rhagorol gan fod yna brinder o weithwyr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac mae yna gyfleoedd da ar gyfer dilyniant gyrfa.
Cynnwys y cwrs
BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol: Statws Cymwysedig
Bydd y cwrs yn mynd â chi trwy astudiaeth fanwl o brosesau a dulliau gwaith cymdeithasol. Yn sylfaen i hyn bydd astudio cyd-destunau damcaniaethol, polisïau a chyfreithiol. Byddwch yn gwneud tri chyfnod o ymarfer er mwyn eich paratoi ar gyfer elfen ‘addasrwydd i ymarfer’ y cwrs.
Asesu
Mae yna amrywiaeth o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs yma gan gynnwys cyflwyniadau, papurau seminar ac aseiniadau ysgrifenedig traddodiadol. Mae yna hefyd un arholiad ar gyfer cyfraith gwaith cymdeithasol. Bydd gofyn i chi wneud traethawd estynedig fel rhan o’ch asesiad terfynol.
Gofynion mynediad
Y gofynion mynediad ar gyfer y radd hon yw 260 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfatebol, yn ddymunol mewn maes pwnc perthnasol fel Cymdeithaseg neu Seicoleg. Mae profiad ymarferol perthnasol hefyd yn hanfodol cyn gwneud cais ar gyfer y cwrs yma. Cyn i chi gael gynnig lle diamod ar y cwrs gradd yma bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed. Gweler y wybodaeth am ofynion mynediad cyffredinol.
Bydd ceisiadau a dderbynnir erbyn y 15fed o Ionawr yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad ar ôl y dyddiad hwn a bwriedir cynnal cyfweliadau ddiwedd Chwefror/dechrau Mawrth. Bydd ceisiadau a wneir ar ôl dyddiad cau UCAS ar Ionawr y 15fed yn cael eu hystyried yn ôl dyddiad y cais cyn belled ag y bod llefydd yn dal ar gael, ac ar ôl hynny bydd y cwrs wedi cau i geisiadau.
Noder: nid ydym yn derbyn ceisiadau gohiriedig ar gyfer Gwaith Cymdeithasol. Os byddwch yn gwneud cais am fynediad gohiriedig, fe’ch gwrthodir gyda’r cyngor i wneud cais arall y flwyddyn nesaf.
Llawn amser: L500
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd
O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|