Head divider

Egluro cyrsiau

Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod o raglenni israddedig Prifysgol Cymru ac EdExcel sy'n arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn fyd-eang.

Mae'r ystod o raglenni sydd ar gael yn golygu eich bod yn gallu dewis rhaglen o'r lefel, hyd a dwyster i chi.

Mae yna amryw o bwyntiau mynediad a gadael sy'n eich galluogi i symud ymlaen ar gyflymdra sy'n addas i chi.

Cyrsiau / rhaglenni

Weithiau, cyfeirir at raglenni gradd Prifysgol Glyndŵr fel “cyrsiau” er mwyn gwneud yn siŵr fod gwahanol grwpiau o bobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth.

Cyrsiau israddedig

Graddau anrhydedd

Fel arfer mae’r rhaglenni hyn yn golygu astudio yn llawn amser am dair blynedd neu astudio yn rhan-amser am bum mlynedd. Pe baech yn methu neu’n dewis peidio â chwblhau’r cwrs gradd, mae’n bosibl y gallwch adael gyda dyfarniad arall.

Dyfernir Diploma mewn Addysg Uwch i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau dau draean o’r cwrs gradd yn foddhaol.

Mae Tystysgrif mewn Addysg Uwch ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau traean o’r cwrs gradd yn foddhaol.

Graddau sylfaen

Mae graddau sylfaen dwy flynedd yn cynnwys elfennau helaeth o brofiad seiliedig ar waith. Maent yn sector-benodol ac wedi’u cynllunio’n arbennig i’ch darparu gyda’r sgiliau technegol ac academaidd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  

Mae graddau sylfaen wedi’u cynllunio gyda symud ymlaen i raddau anrhydedd mewn golwg.

Pe hoffech barhau â’ch astudiaethau ar ôl i chi gwblhau eich gradd sylfaen, mae modd symud ymlaen i drydedd flwyddyn cwrs gradd anrhydedd perthnasol.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi astudio cwrs pontio i wneud hynny.

Pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen*

Astudiwch un “flwyddyn cicdanio”, yna ymunwch â’r radd dair-blynedd yn awtomatig.

Mae’r dewis yma yn ddelfrydol os nad ydych yn cwrdd â’r gofynion mynediad ar gyfer gradd anrhydedd ‘draddodiadol’. Mae nifer o’n cyrsiau ar gael gyda “blwyddyn cicdanio”, wedi’u rhestru er enghraifft fel BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau’r Cyfryngau (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen*). Fel hyn, rydych yn cwblhau rhaglen blwyddyn o astudio a gynlluniwyd i’ch paratoi ar gyfer gofynion gradd israddedig – os byddwch yn cwblhau blwyddyn o raglen astudio yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r rhaglen israddedig yr ydych wedi gwneud cais ar ei chyfer. (DS: Ni ddylid drysu’r opsiwn yma gyda Gradd Sylfaen, sy’n gymwysterau dwy flynedd a gynlluniwyd a’u cyflenwi gan gyflogwyr.) 

Graddau MEng

Rydym yn cynnig opsiwn pedair blynedd, yr MEng, a fydd yn eich galluogi i raddio ar lefel meistr. Mae’r cymhwyster yma hefyd yn gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir gan ddiwydiant sy’n cwrdd â’r safonau academaidd ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig. Mae lleoliad diwydiannol yn rhan integredig o astudiaeth MEng, sy’n ddefnyddiol ar gyfer datblygiad gyrfaol arfaethedig. Bydd cofrestru ar y cwrs MEng hefyd yn golygu y gallwch wneud cais am bedair blynedd o gymorth benthyciad myfyriwr fel myfyriwr israddedig. Mae’r cyrsiau yn cynnwys: Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Technoleg Ceir Rasio ac Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy.

Graddau Dwy-Flynedd*

Mae gennym ddau gwrs newydd sy’n cynnig graddau dros gyfnod o ddwy flynedd: BSc Entrepreneuriaeth* a BSc (Anrh) Dylunio Aps*. Cyflenwir y cyrsiau hyn dros dri semester deg-wythnos. Mae’r cyrsiau yn canolbwyntio ar sgiliau hanfodol yn y semsterau cynnar, a fydd yn eich galluogi chi wedyn i ddefnyddio’r sgiliau hynny ar gyfer prosiect mewn semestrau hwyrach.

*Mae teitlai graddau a modiwlau yn amodol ar gael eu dilysu

Cymwysterau israddedig

BA: Baglor yn y Celfyddydau
BSc: Baglor mewn Gwyddoniaeth
BEng: Baglor mewn Peirianneg
BN: Baglor mewn Nyrsio
FdA: Gradd sylfaen (Celfyddydau)
FdSc: Gradd sylfaen (Gwyddoniaeth)
FdEng: Gradd sylfaen (Peirianneg)

HND & HNC

Diplomâu Cenedlaethol Uwch

Fel arfer mae’r Diplomâu Cenedlaethol Uwch (neu “HNDs”) yn rhaglenni llawn amser sy’n cymryd dwy flynedd i’w cwblhau.

Fel arfer mae cwblhau HND yn llwyddiannus yn eich galluogi i fynd ymlaen i ail flwyddyn rhaglen radd anrhydedd.

Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch

Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (“HNCs”) yn rhaglenni rhan-amser, sy’n cwmpasu llai o fodiwlau na’r HND.

Fel arfer, cwblhëir y rhain mewn dwy flynedd a byddant yn golygu treulio diwrnod neu ddwy noson yr wythnos yn y Brifysgol yn ystod y tymor.

Cyrsiau israddedig

Graddau meistr

Mae’r rhaglenni uwchraddedig hyn yn cael eu hastudio trwy raglen o seminarau, darlithoedd a gwaith prosiect.

Buasent fel arfer yn cynnwys prosiect/traethawd ymchwil hir sylweddol mewn maes o’ch dewis personol chi wedi’i drafod gyda’ch tiwtor.

Doethur mewn Athroniaeth a Meistr mewn Athroniaeth

Gradd ymchwil oruchwyliedig uwchraddedig yw PhD sydd fel arfer yn cymryd tair blynedd yn llawn amser i’w chwblhau.

Mae MPhil yr un fath ond yn cymryd dwy flynedd.

Gellir astudio’r ddau yn rhan amser. Mae’r ymchwil yn cael ei hysgrifennu fel traethawd hir sylweddol, ac yn gorfod dangos tystiolaeth o wreiddioldeb a barn feirniadol a bod ar flaen y gad yn eich dewis bwnc.

Ceir enghreifftiau o brosiectau ymchwil ar ein gwefan; neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Ymholiadau a Derbyn ar 01978 293439.

Postgraduate qualifications

PhD: Doethur mewn Athroniaeth
MPhil: Meistr mewn Athroniaeth
MA: Meistr yn y Celfyddydau
MSc: Meistr mewn Gwyddoniaeth
MRes: Meistr mewn Ymchwil
MBA: Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes
PGCE: Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg
DMin: Doethur mewn Gweinidogaeth

 

Dulliau asesu

Mae yna sawl ffordd wahanol o asesu eich gwaith tra’r ydych ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Bydd y rhain yn dibynnu ar y cwrs penodol yr ydych yn ei ddewis, ond maent yn cynnwys amryw o’r dulliau canlynol: 

  • Aseiniadau seiliedig ar waith
  • Profion ymarferol
  • Arholiadau
  • Prosiectau
  • Traethodau estynedig

Bydd y mathau o asesiad y byddwch yn eu cael wedi’u cynllunio i adlewyrchu’r gwaith yr ydych yn ei wneud, a byddwch yn gallu trafod unrhyw bryderon sydd gennych gyda’ch tiwtoriaid trwy gydol y cwrs.

cychwyn ym Medi 2013