Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Dysg a Datblygiad Babanod a Phlant Bach

Cynnwys y cwrs

Pam dewis Dysg a Datblygiad Babanod a Phlant Bach?

Amcan y radd sylfaen yma yw cynnig llwybr arbenigol i weithwyr gofal plant proffesiynol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ym maes babanod a phlant bach. Plant o enedigaeth hyd at deirblwydd oed sy’n ffurfio asgwrn cefn darpariaeth gofal plant a chan hynny mae gofyn am gymhwyster sy’n mynd i’r afael â’u hanghenion yn uniongyrchol o ran dysgu, datblygu, polisi cyfredol a deddfwriaeth y Llywodraeth.   

Ma’r radd sylfaen yma yn mynd i’r afael â’r angen deddfwriaethol i arbenigwyr yn y maes yma trwy gynnig profiad dysgu hyblyg i weithwyr gofal plant proffesiynol sy’n gweithio mewn neu’n rheoli lleoliad gofal plant, gan ddarparu ar gyfer anghenion babanod a phlant bach. Y mae hefyd yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn swyddi ymgynghorol. 

Beth yw Gradd Sylfaen (FdA)?

Mae gradd sylfaen yn gydnabyddiaeth ac yn ddathliad o’r cyfoeth o brofiad a gwybodaeth y mae ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn ei ddod gyda nhw i astudiaethau academaidd. 

Mae gradd sylfaen wedi ei hanelu at ymarferwyr sydd mewn cyflogaeth ond yn dymuno astudio ar gyfer gradd tra’n gweithio. Mae’n anelu at gyfuno gwybodaeth a sgiliau ymarferol ymarferwyr profiadol gydag astudiaeth academaidd gyfredol yn y maes. 

Ar ôl cofrestru am y FdA mae gennych 5 mlynedd i gwblhau eich astudiaethau.

Os byddwch yn dewis rhoi’r gorau i astudio ar ôl blwyddyn byddwch yn cael cymhwyster lefel 4: Tystysgrif Addysg Uwch yn Nysg a Datblygiad Plant Bach.

Os byddwch yn cwblhau’r ddwy flynedd o astudio byddwch yn cael cymhwyster lefel 5: FdA Dysg a Datblygiad Plant Bach.

Ffeithiau Allweddol

  • Mae’r cwrs yn cyfuno dysg academaidd a seiliedig-ar-waith ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol ymarferwyr profiadol a chymwysedig.
  • Cynigir y radd sylfaen i chi fel rhaglen e-ddysgu wedi’i chefnogi yn llawn. Byddwch yn cael mynediad i’r cwrs trwy Rith-Amgylchedd Dysgu (VLE) y Brifysgol o adref. Mae hon yn wefan hunangynhwysol a hawdd ei defnyddio sy’n eich galluogi i gael gafael ar ddefnyddiau cwrs wedi’u hysgrifennu yn arbennig ac i gael gafael ar eich tiwtor a myfyrwyr eraill trwy ebost, fforymau (stafelloedd sgwrsio) a gweithio ar y cyd (mae pawb yn mynd ar-lein ar yr un pryd, ac yn sgwrsio mewn amser real).
  • Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth gan eich tiwtor ar y ffôn, a gwahoddiadau i ddyddiau cefnogi astudio yn y Brifysgol (anorfodol).
  • Nid oes arholiadau ar gyfer y cwrs yma.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae hwn yn faes astudio cyfamserol iawn gan fod polisi a deddfwriaeth cyfredol yn arwain at alw am arbenigwyr yn y maes yma. Amcan y radd sylfaen yw eich datblygu fel arbenigwyr yn nysg a datblygiad babanod a phlant ifanc. Byddai cwblhau’r radd sylfaen yma yn eich galluogi hefyd i symud ymlaen i lefel derfynol y radd anrhydedd.  

Gwybodaeth am y cwrs

FdA Dysg a Datblygiad Babanod a Phlant Bach

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs yma yn radd sylfaen arbenigol sydd wedi ei hanelu at gynyddu gwybodaeth ymarferwyr o blant o enedigaeth hyd at bum mlwydd oed. Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar yr ystod o enedigaeth hyd at deirblwydd oed, sy’n faes a esgeulisir yn aml gan y cyrsiau mwy cyffredinol mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Bydd yr FdA yn cymryd agweddau o arfer gorau o’r Cam Sylfaen a’r Cyfnod Sylfaen.

Byddwch yn astudio chwe modiwl ym mlwyddyn 1 a chwe modiwl yn mlwyddyn 2. Isod ceir arolwg byr o’r modiwlau sydd ar gynnig. Dylai’r modiwlau fod yn cwmpasu pynciau sydd yn gyfarwydd i chi, fodd bynnag byddwn yn edrych ar bob pwnc trwy ymchwil a deddfwriaeth cyfredol gan sicrhau eich bod yn flaenllaw wrth ystyried meysydd allweddol ar gyfer yr ystod oedran yma.

Modiwl 1 – Dysg a Datblygiad Personol
Mae’r modiwl yma yn eich cefnogi ar eich taith addysgol i ddatblygu’r sgiliau sydd arnoch eu hangen i astudio ar lefel radd.

Modiwl 2 – Datblygiad Plant
Mae’r modiwl yma yn edrych ar ddatblygiad cynnar plant ac yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer y modiwlau sy’n dilyn. Yn y modiwl yma byddwn yn astudio sylfeini damcaniaethol datblygiad plant; datblygiad cynenedigol; agweddau tyngedfennol ar ddatblygiad plant rhwng genedigaeth a blwydd oed (gan gynnwys datblygiad ymenyddol); datblygiad cyfannol a meysydd penodol o ddatblygiad h.y. iaith, sy’n dyngedfennol i ddealltwriaeth y plentyn o enedigaeth hyd at bum mlwydd oed.

Modiwl 3 – Cefnogi Pob Plentyn ac Ymarfer Cynhwysol
Mae’r modiwl yma yn edrych ar beth mae’n ei olygu i gefnogi plentyn rhwng genedigaeth a phum mlwydd oed. Mae’n ystyried y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi plant wrth iddynt ddatblygu a dysgu; y dulliau o arsylwi a chofnodi ‘taith ddysgu’ plentyn; cynllunio o ran gofynion y Cam Sylfaen neu’r Cyfnod Sylfaen. Mae’n edrych ar gynhwysiad o fewn lleoliad gofal plant; beth mae hyn yn ei olygu i ymarferwyr blynyddoedd cynnar a’r ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r maes allweddol yma. 

Modiwl 4 – Perthnasau Cadarnhaol
Bwriad y modiwl yma yw archwilio yr hyn y mae ‘perthnasau cadarnhaol’ yn ei olygu a sut y gallai hyn edrych o fewn lleoliad gofal plant. Trwy gydol y modiwl yma, cefnogir y myfyrwyr i archwilio eu gwerthoedd a’u credoau eu hunain ynghylch creu perthnasau gyda phlant a rhieni a’r modd y gallai’r rhain fod yn wahanol i werthoedd proffesiynol. Edrychir ar ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â gweithio gyda rhieni ac archwilir rôl y ‘person allweddol’.

Modiwl 5 – Datblygu’r Amgylchedd Gofal Plant
Mae’r modiwl yma yn edrych yn drylwyr ar y modd y defnyddir yr amgylchedd gofal plant i hybu dysg a datblygiad babanod a phlant bach. Mae’n archwilio’r hyn y mae deddfwriaeth ac ymchwil cyfredol yn ei ddweud wrthym am anghenion plant o enedigaeth i bum mlwydd oed gan gynnwys astudiaeth o arfer gorau parthed yr amgylchedd dan do ac awyr agored; gan gynnwys plant yn cynllunio’r amgylchedd a bod yn greadigol.

Modiwl 6 – Lles ac Iechyd Plant
Bwriad y modiwl yma yw archwilio anghenion deietegol a chorfforol babanod a phlant bach. Mae’n astudio yr hyn y mae ‘iechyd da’ yn ei olygu ac yn archwilio rôl yr ymarferydd blynyddoedd cynnar wrth gefnogi rhieni a phlant i wneud ‘dewisiadau iach’. Mae’r modiwl yma hefyd yn edrych mewn mwy o fanylder ar rôl datblygiad emosiynol a’r maes allweddol o ymlyniad.

Yn yr ail flwyddyn byddwch hefyd yn astudio’r modiwlau canlynol:

Modiwl 7 –  Arfer Myfyriol a Dulliau Ymchwil
Modiwl 8 –  Diogelu Plant
Modiwl 9 –  Archwilio Ymlyniad
Modiwl 10 –  Cwricwla ar gyfer Dysg a Datblygiad
Modiwl 11 –  Chwarae ac Archwilio
Modiwl 12 -  Darpariaeth i Gwrdd ag Anghenion Plant

Sut fyddaf yn astudio?

Cynigir y radd sylfaen i chi fel rhaglen e-ddysgu wedi’i chefnogi yn llawn. Byddwch yn cael mynediad i’r cwrs trwy Rith-Amgylchedd Dysgu (VLE) y Brifysgol o adref. Mae hon yn wefan hunangynhwysol hawdd ei defnyddio sy’n eich galluogi i gael gafael ar ddefnyddiau cwrs wedi’u hysgrifennu yn arbennig ac i gael gafael ar eich tiwtor a myfyrwyr eraill trwy ebost, fforymau (stafelloedd sgwrsio) a gweithio ar y cyd (mae pawb yn mynd ar-lein ar yr un pryd gan sgwrsio mewn amser real). Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth gan eich tiwtor ar y ffôn a gwahoddiadau i ddyddiau cefnogi astudio yn y brifysgol (anorfodol). 

Cynigir tri diwrnod cefnogi astudio gydol y flwyddyn. Cynhelir y rhain ar ddydd Sadwrn ym mis Hydref, mis Ionawr a mis Ebrill. 

Bydd y ddau fodiwl cyntaf (1 a 2) ar gael i’w hastudio ar-lein rhwng mis Hydref a’r Nadolig.
Bydd y ddau fodiwl nesaf (3 a 4) ar gael i’w hastudio ar-lein rhwng mis Ionawr a’r Pasg.
Bydd y ddau fodiwl olaf (5 a 6) ar gael i’w hastudio ar-lein rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf.

Asesu

Nid oes yna arholiadau ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer y cwrs yma. Mae’r asesiadau i gyd yn seiliedig ar eich astudiaethau academaidd neu yn sgil casglu gwybodaeth yn y gweithle. Maent ar sawl ffurf gan gynnwys tasgau ymarferol ac asesiadau mwy academaidd. Yn eich blwyddyn gyntaf, er enghraifft, gallwch ddisgwyl myfyrio ynghylch profiad personol, ysgrifennu traethodau byrion, datblygu gweithgareddau, ysgrifennu canllawiau, datblygu polisïau a gweithdrefnau a chynllunio taflenni ar gyfer rhieni a chydweithwyr ayb.
Byddwch yn cael llawer o gefnogaeth, yn enwedig wrth i chi ddechrau datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau asesiadau. Bydd atborth yn cael ei roi yn ystod ac ar ôl pob asesiad er mwyn eich helpu i gael amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu ymarferol ac academaidd. 

Gofynion mynediad

Er mwyn dechrau’r radd sylfaen bydd arnoch angen:

  • Lleiafswm o gymhwyster lefel 3 h.y. NVQ, BTEC ayb
  • O leiaf dwy flynedd o brofiad gyda neu’n goruchwylio ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant yn yr ystod oedran genedigaeth i bum mlwydd
  • Cyflogaeth gyfredol o weithio gyda neu’n goruchwylio ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant yn yr ystod oedran genedigaeth i bum mlwydd am o leiaf 10 awr yr wythnos
  • Cytundeb gan eich cyflogwr i gefnogi eich astudiaeth o ran cael gafael ar ddogfennau a phrofiadau dysgu. Gofynnir i’ch cyflogwr arwyddo Cytundeb Dysgu. (Heb fod yn berthnasol ym mhob amgylchiadau h.y. gofalwyr plant ayb.)
  • Uwch ddatgeliad CRB (mae CRB gan eich cyflogwr presennol yn dderbyniol)
  • Defnydd o gyfrifiadur a mynediad i’r rhyngrwyd adref
  • Cyfweliad boddhaol

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd
Rhan amser: 2-5 mlynedd

Manylion cyswllt:

Pe hoffech drafod y cwrs hwn ymhellach, gallwch gysylltu â’r Arweinydd Rhaglen, Liz Sheen trwy ebostio e.sheen@glyndŵr.ac.uk neu ffonio 01978 293154.

Neu cysylltwch â’r: Ddesg Gwybodaeth i Fyfyrwyr trwy ebostio sid@glyndwr.ac.uk neu ffonio 01978 293439

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk