Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ffilm, ffotograffiaeth, celf ddigidol ar gyfer gêmau cyfrifiadurol a mwy

Cyfle i archwilio’r defnydd o gyfryngau creadigol a dod â’ch syniadau dylunio yn fyw drwy ffilm a ffotograffiaeth, animeiddio, celf ddigidol ar gyfer gêmau cyfrifiadur neu gyfuniad o’r meysydd hyn.

Dylunio a’r Cyfryngau Creadigol

Ers sefydlu ein graddau dylunio ym 1994, mae ein hathroniaeth yn sylweddoli y bydd arloesedd a chreadigrwydd yn agweddau allweddol ar y ddarpariaeth Dylunio yn eich helpu i gyflawni eich dyheadau creadigol. Mae ein cyrsiau yn cynnwys amrywiaeth eang o sgiliau creadigol sy’n berthnasol i alwedigaethau a sgiliau sydd wedi’u gogwyddo’n benodol i’ch arwain i gael swydd yn y diwydiannau creadigol a rhai cysylltiedig.

Mae’r diwydiant dylunio yn amgylchedd hynod ddeinamig sydd â phrosesau, technegau a thechnolegau newydd yn dod i’r fei yn gyson. Drwy ein cwrs Dylunio a’r Cyfryngau Creadigol cewch y cyfle i ymchwilio i’r rhain drwy ffilm, animeiddio, ffotograffiaeth a chelf ddigidol ar gyfer gêmau cyfrifiadurol.

creative welsh

Ein nod yw cynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn gallu cyfuno eu sgiliau cysyniadol a thechnegol mewn celf, dylunio a’r cyfryngau, ond sydd hefyd yn ymarferwyr dylunio sy’n rhannu cyd-weledigaeth, h.y. yn gallu gweld pethau yn holistig, yn strategol, yn wrthrychol, yn gymdeithasol, yn economaidd yn ogystal ag yn greadigol.

Mae’r galw mawr yn parhau am ddylunwyr sy’n gallu ymateb yn greadigol i broblemau cyfathrebu a’r cyfryngau. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar iaith dylunio trwy archwilio a mynegi syniadau a thrwy’r defnydd o ddeunyddiau, prosesau ac arferion. Mae’r cwrs yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu ac arferion proffesiynol ardderchog ac yn annog defnydd rhyngddisgyblaethol arloesol o gyfryngau a deunyddiau gwahanol. Ceir pwyslais cryf hefyd ar ddatblygu sgiliau rhyngbersonol trwy brosiectau a gwaith tîm cydweithredol.

Ffeithiau allweddol

  • Rhaglen alwedigaethol gref sydd â chysylltiadau rhagorol â’r diwydiant. Rydym wedi sefydlu cysylltiadau â diwydiannau yn lleol ac yn genedlaethol sy’n golygu y cewch gyfleoedd arbennig o ran profiad gwaith ar brosiectau neu gomisiynau sy’n gysylltiedig â chleientiaid
  • Cyfleoedd profiad gwaith gyda chwmnïau ffilm ac animeiddio yn ogystal â chwmnïau dylunio a chynhyrchu gêmau cyfrifiadurol
  • Mae’r tîm addysgu yn ymarferwyr sydd wrthi’n ymchwilio ac yn arddangos eu gwaith eu hunain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Cyfleusterau gwych sydd â’r meddalwedd dylunio diweddaraf yn y diwydiant, wedi’u lleoli yn ein hysgol gelf a dylunio pwrpasol ar Stryt y Rhaglaw, sy’n adeilad rhestredig Gradd II ar gyrion canol tref Wrecsam
  • Hyfforddiant meddalwedd wedi’i ardystio gan Apple. Cyfle i chi ddod yn ddefnyddiwr medrus ar ystod eang o feddalwedd safonol y diwydiant
  • Ymweliadau a theithiau dramor i achlysuron pwysig, fel g ˆw yl Animeiddio Ryngwladol Annecy yn Ffrainc, orielau, arddangosfeydd a seminarau a fydd yn codi’ch ymwybyddiaeth o gyfleoedd posibl
  • Bydd ymweliadau diwydiannol i gwmnïau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu yn cynorthwyo i ddatblygu eich dyheadau gyrfa
  • Y cyfle i gystadlu mewn cystadlaethau dylunio pwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA), yr Young Creative Network (YCN), British Design and Art Direction Awards (D & AD) a G ˆw yl Animeiddio Bradford,
    Gŵyl Delweddau Symudol Ffresh ac eraill
  • Cydweithio â myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae’r Brifysgol wedi sefydlu cysylltiadau â diwydiannau o bob maint, yn lleol ac yn genedlaethol. O ganlyniad, rydym yn gwahodd artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr ffilmiau i ddarlithio a dangos, yn ogystal â chynnal prosiectau cydweithredol a noddi diwydiannol fel ein hwythnos Dyfodol Creadigol
  • Cyfleoedd i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid masnachol, mudiadau elusennol a chymunedol, ac addysg
  • Cyfleoedd i astudio dramor drwy’r Cynllun Erasmus. Mae gennym gysylltiadau â Ffrainc, y Ffindir, Prifysgol Mataro yn Sbaen, Academi Gelf Gwlad Pwyl yn Katowice a Phrifysgol Renmin yn Tsieina
  • Cewch arddangos eich gwaith mewn lleoliadau uchel-eu-proffil. Mae graddedigion y gorffennol wedi cael gwaith wedi’i arddangos yn Arddangosfa Dylunwyr Newydd yn y Ganolfan Dylunio Busnes, ac Young Blood yn Llundain

Cyfleoedd gyrfa

Bydd eich gradd yn eich paratoi ar gyfer gwaith ar ffilmiau cyfres, ffilmiau nodwedd, teledu, hysbysebion a fideos cerddoriaeth; pob maes
animeiddio, gwneud modelau, dylunio set; cyfryngau digidol - celf gweadwaith, peintio digidol, gwaith cyfuno, goleuadau, rigio ac ôl-gynhyrchu; ysgrifennu sgriptiau a gweithio mewn stiwdios recordio sain.

Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys bod yn ddylunwyr, gwneuthurwyr modelau, cynorthwywyr animeiddio, animeiddwyr ar eich liwt eich hun, artistiaid syniadau, dylunwyr cymeriadau, datblygwyr rhyngweithiol, artistiaid amgylchedd a chefndir, artistiaid gêmau, delweddwyr ar eich liwt eich hun, gwneuthurwyr ffilm annibynnol, cyfarwyddwyr, ffotograffwyr a thechnegwyr. Mae cyfleoedd cyflogaeth i’w cael mewn cwmnïau bach neu fawr, neu wrth fynd yn llawrydd neu sefydlu eich busnes eich hun.

O ran y farchnad adloniant rhyngweithiol, y DU yw’r drydedd fwyaf yn y byd, ac mae’n farchnad sy’n werth dros £2 biliwn bob blwyddyn. Yn y wlad hon yn wir y mae’r nifer mwyaf o gwmnïau datblygu a chyhoeddi gêmau yn Ewrop. Mae graddedigion o’n cyrsiau dylunio wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau megis y BBC, Channel 4, S4C, Disney, Molinare, McKinnon a Saunders, Passion Pictures ac EA Games, gan fod â rolau blaenllaw yn artistiaid/dylunwyr VFX ac yn gweithio ar deitlau fel cyfres gêmau Harry Potter. Mae cyfleoedd astudio pellach hefyd ar gael ar lefel MA neu TAR/PGCE.

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Dylunio: y Cyfryngau Creadigol

Mae’r cwrs deinamig hwn yn eich galluogi – yn unigol neu ar y cyd ag eraill – i archwilio’n greadigol elfennau allweddol ffotograffiaeth, ffilm, animeiddio, celf gêmau cyfrifiadurol a chynhyrchu delweddau ar gyfer y sgrîn sy’n seiliedig ar gyfryngau digidol.

Ffilm a Ffotograffiaeth - mae’r rhain yn cynnwys prosesau syniadau, dylunio, delweddu digidol, technegau camera ar gyfer delweddau llonydd a symudol, goleuo ar gyfer stiwdio ac ar leoliad, technegau golygu ac ôl-gynhyrchu. Mae cyfleoedd i chi edrych ar themâu cyfoes trwy greu syniadau ar gyfer delweddau llonydd a symudol, sy’n cynnwys gwaith lleoliad a gwaith stiwdio ar gyfer drama, rhaglenni dogfen, hysbysebu, y cyfryngau cerddoriaeth, tirwedd, symudiad, delweddau cyfrifiadurol a phynciau cysylltiedig eraill.

Animeiddio – pob techneg animeiddio; lluniau 2D traddodiadol, pypedau 3D symud-stop, animeiddio cyfrifiadurol 3D yn ogystal â dulliau mwy arbrofol a rhai sy’n cyfuno 2D a 3D. Celf ddigidol ar gyfer gêmau cyfrifiadurol - creu cymeriadau arloesol, amgylcheddau chwarae a delweddau wedi’u creu gan gyfrifiadur.

Mae ffocws cryf ar werthoedd craidd dylunio, pethau fel cynulleidfa a chyfrifoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd, ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymarferoldeb, moeseg, cael defnydd priodol o ddeunyddiau i gyd-fynd ag atebion cost-effeithiol, yn ogystal â gwerthoedd arloesol, esthetig a diwylliannol. Mae’r defnydd o dechnolegau digidol yn annatod o fewn yr holl feysydd hyn, a bydd cysylltiadau dylunio a chreadigol ar hyd sbectrwm eang o gyfryngau creadigol yn cael eu dwyn ynghyd. Fel mewn unrhyw ddiwydiant deinamig, mae swyddogaethau mewn swyddi yn rhai hylif a chewch eich annog i wneud sawl tasg ar yr un pryd er mwyn bod yn hyblyg, gallu addasu a bod yn amlswyddogaethol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyswllt datblygu mewn busnesau bach a chanolig eu maint (SMEs) gan fod sgiliau y gellir eu trosglwyddo ar draws sawl disgyblaeth dylunio yn ddymunol iawn.

Drwy gydol y cwrs, cewch y cyfle i ddysgu amrywiaeth o dechnegau a gwybodaeth, gan gynnwys adrodd stori, storifyrddio, datblygu cymeriad, delweddu digidol, technegau camera ar gyfer delweddau llonydd a rhai sy’n symud, goleuo ar gyfer gwaith stiwdio a lleoliad, golygu ac ôl-gynhyrchu. Caiff eich hyblygrwydd a’ch dawn entrepreneuraidd le a chyfle i dyfu a datblygu wrth i chi greu portffolio cryf o waith ac arbenigedd. 

Gofynion mynediad

240 pwynt UCAS mewn pynciau Lefel A perthnasol neu gyfatebol. Caiff eich portffolio ei adolygu yn y cyfweliad. Dylai ddangos eich sgiliau creadigol a gweledol, eich diddordebau a’ch gallu.

Côd UCAS

Llawn amser: W212

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

Eich maes arbenigol

Animeiddio

Archwiliwch bob prif agwedd o’r broses o greu animeiddiad gan ddefnyddio ystod o dechnegau o’r sgript i’r sgrîn gan gynnwys 2D darluniedig, 3D mudiant stop a 3D animeiddiad cyfrifiadurol a chyfryngau cymysg seiliedig-ar-sgrîn. Mae gennym gysylltiadau cryf gyda chyrff proffesiynol a diwydiant megis Skillset, NAHEMI ac amryw o gymdeithasau animeiddio. Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu ac entrepreneuraidd fel eich bod wedi’ch cyfarparu’n dda ar gyfer diwydiant amrywiol sy’n newid yn gyflym.

Mae yna gyfleoedd nid yn unig i weithio yn y diwydiant animeiddio, ond hefyd mewn meysydd cysylltiedig megis gwaith celf cysyniadol, gêmau cyfrifiadurol, fideos cerdd, graffeg teledu ac effeithiau byw. Mae llawer o gynfyfyrwyr wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau cenedlaethol megis Gwobrau Dylunio’r RSA, D&AD a Gŵyl Ffresh, Delweddau Symudol Myfyrwyr Cymru. Mae’r llwybr animeiddio wedi sefydlu cysylltiadau diwydiannol ac allanol helaeth gan alluogi myfyrwyr i gydlynu gyda diwydiant a chaffael profiad proffesiynol. Mae cynfyfyrwyr wedi codi i fod yn gyfarwyddwr eu cwmnïau eu hunain, tra bod eraill wedi gweithio ar ffilmiau nodwedd megis Space Jam, Prince of Egypt, A Bug’s Life a The Corpse Bride.

Trefnir teithiau astudio i wyliau animeiddio megis Gŵyl Animeiddio Bradford, Stoke Your Fires a’r Ŵyl Animeiddio Ryngwladol yn Annecy. Mae yna hefyd ymweliad diwydiannol pedwar niwrnod â chwmnïau cynhyrchu animeiddio o fri yn Llundain. Mae siaradwyr/darlithwyr gwadd yn elfen bwysig o’n hwythnos Dyfodol Creadigol. Ategir hyn gan ddangosiadau rheolaidd o ffilmiau a seminarau. Mae yna gyfleoedd i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid go iawn a chymryd rhan mewn cystadlaethau dylunio ac animeiddio.

Ffilm a ffotograffiaeth

Mae prif elfennau yn cynnwys prosesau cysyniadol, dylunio, delweddu digidol, techneg camera ar gyfer delweddau llonydd a symudol. Goleuo ar gyfer stiwdio a lleoliad, golygu a thechnegau ôl-gynhyrchu. O fewn yr aseiniadau a osodir, gallwch archwilio themâu cyfredol trwy gynhyrchu syniadau ar gyfer y delweddau llonydd a symudol sy’n cynnwys gwaith stiwdio ac ar leoliad ar gyfer dramâu, rhaglenni dogfen, hysbysebu, cyfryngau cerddorol a phynciau cysylltiedig eraill.

Mae technoleg wedi cael effaith fawr ar yr holl feysydd hyn ac yn meithrin perthnasau creadigol a dylunio rhyng-ddibynnol. Adlewyrchir y gwaith tîm yma yn y rhaglen.

Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu a lleoli eich rôl yn y diwydiannau ffilm a ffotograffig, naill ai fel darparydd delweddaeth lens creadigol, fel datblygwr cyfryngau, fel darparydd cynnwys, neu yn y diwydiannau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.

Fel yn y diwydiant deinamig, nid yw llinellau terfyn swyddogaeth y gwaith yn ddiwyro ac anogir myfyrwyr i ymgymryd ag aml-dasgau er mwyn bod yn hyblyg, yn  amlswyddogaethol ac yn barod i newid. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ddatblygu mentrau bychain a chanolig ble mae sgiliau y gellir eu trosglwyddo ar draws mwy nag un disgyblaeth dylunio yn ddymunol iawn. Mae yna gysylltiadau cryf gyda diwydiant sy’n galluogi myfyrwyr i weithio ar brosiectau sy’n ymwneud â chleientiaid. Mae’r atborth o’r cysylltiadau hyn yn cael eu gwerthuso trwy’r amser a’u hymgorffori yn y rhaglen.

Trefnir teithiau astudio i wyliau, arddangosfeydd ac orielau ac ymweliad diwydiannol dwyflynyddol estynedig â chanolfannau dylunio ac ôl-gynhyrchu yn Llundain. Mae llawer o gynfyfyrwyr wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau cenedlaethol sy’n benodol i ddiwydiannau lens a chyfryngau ac wedi gweithio ar nifer o gomisiynau ar gyfer diwydiant.

Mae yna gyfleoedd i gynhyrchu gwaith ar gyfer cleientiaid masnachol, cyrff cymunedol ac elusennol ac addysg. Gellir cynhyrchu gwaith hefyd ar y cyd â myfyrwyr dylunio eraill er mwyn darparu profiad o waith tîm i adlewyrchu ymarfer diwydiannol arferol. Anogir myfyrwyr i gyflwynu eu gwaith i gynulleidfa ehangach trwy wyliau a chystadlaethau.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr, sgiliau cyfathrebu a sgiliau entrepreneuraidd fel eu bod wedi’u cyfarparu’n dda ar gyfer a llunio diwydiant amrywiol sy’n newid yn gyflym.

Celf Ddigidol ar gyfer Gêmau Cyfrifiadurol

Mae ein hathroniaeth yn dynodi’r problemau dylunio niferus sy’n bodoli mewn datblygiad gêmau arfaethedig ac yn ymateb trwy hyrwyddo datrys problemau llawn dychymyg. Mae datblygiad eiddo deallusol mewn celfyddyd gêmau wrth wraidd ein rhaglen – o ddylunio hyd at gynhyrchu. Trosglwyddir sgiliau dylunio traddodiadol a thechnegau cyfryngau naturiol megis bywluniadau, storifyrddio, dylunio cymeriadau ac amgylchedd gan ddefnyddio meddalwedd safonol diwydiant 2D a 3D i greu celf cysyniadol digidol, modelau ac animeiddio.

Ceir pwyslais cryf ar adeiladu tîm ac mae’r rhaglen yma yn mwynhau cysylltiadau cydweithrediadol gyda chwrs gêmau mwy cyffredinol. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd eisiau arbenigo mewn cynhyrchu celfyddyd gêmau i gydweithio’n agos gyda myfyrwyr sy’n mwynhau rhaglennu er mwyn cynhyrchu gêmau a demos y gellir eu chwarae.

Mae’r rhaglen wedi ei chyfeirio’n benodol tuag at angen myfyrwyr am y wybodaeth, y profiad a’r sgiliau a fydd yn hyrwyddo agwedd hyderus tuag at ddarpar gyflogaeth fel asrtistiaid cysyniadol digidol, modelwyr ac animeiddwyr ar gyfer y farchnad gêmau cyfrifiadurol a diwydiannau creadigol cysylltiedig.

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau eu rhaglen radd yn llwyddiannus yn graddio gyda phortffolio digidol o Gelf Gêmau 2D a 3D megis dylunio cysyniadol, celf, animeiddio ac asedau a ddatblygwyd i hybu naratif , naws, cyflymdra, tôn a chymeriadu’r gêm.

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk