Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Diploma mewn Seicoleg

Diploma mewn Seicoleg (Cwrs Trosi)

Seicoleg yw gwyddor y meddwl, a dywedir mai’r meddwl dynol yw’r peiriant mwyaf cymhleth ar y Ddaear. Mae’r diploma hon yn agor y drws i archwiliad eang o ffynhonnell pob meddwl ac ymddygiad.

Seicoleg yw astudiaeth ymddygiad a meddwl dynol yn ogystal â’r meddyliau, teimladau a chymhelliad sy’n hanfodol i’r ymddygiad hwnnw. Mae’n bwnc sy’n uniongyrchol berthnasol  i fywyd pawb.

Bwriedir y cwrs yma ar gyfer pobl sydd eisoes yn meddu ar radd gyda rhyw elfen o seicoleg ynddi, ond nad ydynt eto yn gymwys i fod yn aelodau o Gymdeithas Seicoleg Prydain.

Ffeithiau allweddol

  • Mae’r cwrs yma yn darparu astudiaeth gynhwysfawr o seicoleg gyfredol a hyfforddiant yn sylfaen wyddonol seicoleg. Fe’i darperir gan staff profiadol a brwdfrydig
  • Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o themâu a mathau o seicoleg
  • Achredir y cwrs yma gan Gymdeithas Seicoleg Prydain (BPS) a bydd yn eich darparu gyda chymhwyster i fod yn aelod o’r BPS
  • Addysgir y diploma trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, dosbarthiadau ymarferol, gwaith prosiect ac ymarferion cyfrifiadurol (e.e. mewn ystadegau a dulliau  ymchwil)
  • Trwy gydol y cwrs byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy cyflwyno llafar ac ysgrifenedig, cyfathrebu rhyngbersonol, arweinyddiaeth, gwaith tîm a rheolaeth amser, sy’n hanfodol i lawer o gyrsiau
  • Bydd siaradwyr gwadd arbenigol ac ymweliadau allanol yn elfen o’r cwrs
  • Mae’r cyfleusterau a ddefnyddir ar y cwrs yn cynnwys labordy seicometrig, labordai addysgu gyda chyfleusterau cyfrifiadura modern, labordy perfformio chwaraeon uwch-dechnegol, ciwbiclau arbrofol a labordy dynwaredu
  • Mae yna ddiwylliant ymchwil ffyniannus sy’n cwmpasu ystod eang o feysydd seicoleg gan gynnwys seicoleg iechyd, seicoleg gymdeithasol, a gwahaniaethau unigol

Cynnwys y cwrs

Diploma mewn Seicoleg (Cwrs Trosi)

Trwy gydol y cwrs byddwch yn cael dealltwriaeth well o ryngweithio cymdeithasol, datblygiad unigol a’r modd y mae’r ymennydd yn dehongli gwybodaeth yr ydym yn delio â hi o ddydd i ddydd. Os ydych erioed wedi cwestiynu ymddygiad pobl neu eu hadweithiau neu wedi meddwl tybed sut mae’r ymennydd dynol yn gweithio, yna byddai astudio’r radd yma yn ddelfrydol ar gyfer eich meddwl chwilfrydig ac yn eich helpu i gael y ddealltwriaeth yma.

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

Pwysleisir natur wyddonol seicoleg trwy gydol y cwrs gyda modiwlau penodol yn ymwneud â: seicoleg gymdeithasol, seicoleg ddatblygiadol, gwahaniaethau unigol, seicoleg ddirnadol, a seicobioleg. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ystadegol ac ymchwil trwy brofion ymarferol rheolaidd mewn labordai ac yn rhan olaf y cwrs byddwch yn cwblhau prosiect olaf sylweddol ar bwnc o’ch dewis chi.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae diploma mewn seicoleg yn ei gwneud yn bosib symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys:

  • Seicoleg addysgol
  • Seicoleg alwedigaethol
  • Seicoleg iechyd
  • Seicoleg cwnsela

Fel arall, fe allech fynd ymlaen i wneud hyfforddiant uwchraddedig, ymchwil neu addysgu.

Asesu

Fe’ch asesir trwy gyfuniad o waith cwrs (traethodau, portffolios ac adroddiadau ymarferol), cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd gofyn i chi wneud traethawd hir fel rhan o’ch asesiad blwyddyn olaf.

Hyd y cwrs

Rhan-amser
Dwy flynedd

Gofynion mynediad a gwneud cais

Er mwyn cael mynediad i’r rhaglen bydd angen i fyfyrwyr gael gradd gyntaf (2:2) neu uwch mewn pwnc sydd ag elfen o gynnwys seicolegol a chael eu cyfweld.

Dylai’r ymgeiswyr wneud cais uniongyrchol.

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk