Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Datblygu Gêmau Cyfrifiadurol

BSc (Anrh) Datblygu Gêmau Cyfrifiadurol

Ni chewch yrfa fwy deinamig na gêmau cyfrifiadurol. Mae’r diwydiant wedi newid yn ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan arallgyfeirio a chynllunio llwyfannau newydd sydd wedi helpu i’w wneud yn un o’r sectorau mwyaf proffidiol yn y byd.

comp game welsh with pic

Nid yn unig y mae Gêmau Cyfrifiadurol yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y sector technoleg ddigidol, y mae hefyd yn eithriadol o amrywiol o ran llwybrau gyrfaol posibl. Os oes gennych ddiddordeb mewn gêmau cyfrifiadurol ac yr hoffech ymwneud â dylunio a chynhyrchu teitlau a thechnolegau gêmau’r dyfodol, yna mae’r cwrs hwn yn ddewis delfrydol i chi. Byddwch yn datblygu sgiliau dylunio a datblygu cryf ac yn dysgu sut i ymwneud ag arferion a methodolegau diwydiant gêmau go iawn.

welsh comp games with pic 2
Byddwch yn datblygu sgiliau cryf mewn datblygu naratif a chymeriadau gêmau, gan gynnwys dylunio a chynhyrchu asedau 3D fel modelau amgylcheddol a chymeriadau. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu naratifau a chymeriadau cryf i’r gêmau, yn dylunio ac yn animeiddio modelau 3D, yn defnyddio technolegau sain i ddod â’ch gêmau yn fyw ac yn dyfeisio cymwysiadau symudol a senarios ar gyfer nifer o chwaraewyr.

Byddwch hefyd yn dysgu sut i gymhwyso eich sgiliau i gynhyrchu ystod o gynnyrch digidol tu allan i’r diwydiant gêmau, gan roi sgiliau trosglwyddadwy i chi weithio mewn meysydd eraill yn y cyfryngau digidol a chreadigol yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn gyrfa yn y diwydiant gêmau.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg. I’r diben hwnnw, cewch eich addysgu i ddatblygu portffolio eang o waith personol a fydd yn eich helpu i addasu orau ar gyfer yr yrfa sydd gennuch mewn golwg. 

Ffeithiau allweddol

  • Stiwdio arbenigol i ddatblygu gêmau cyfrifiadurol sydd yn bwrpasol ar gyfer dylunio a chynhyrchu rhaglenni’r cyfryngau digidol a chymwysiadau datblygu gêmau
  • Mynediad i Adeilad Diwydiannau Creadigol o’r radd flaenaf newydd Prifysgol Glyndŵr a’i gyfleusterau wedi’u hachredu gan Apple, stiwdios cynhyrchu teledu a chyfryngau creadigol llwyr integredig
  • Mynediad i’r rhyngrwyd a chyfleusterau cyfrifiadurol rhwydweithiol ledled y campws
  • Mynediad i’n hystafell broffesiynol ôl-gynhyrchu sain ac i’n gorsaf radio
  • Cewch ddefnyddio technolegau caledwedd a meddalwedd amrywiol sy’n ymwneud â rhyngweithio pobl â chyfrifiaduron a gallwch ddatblygu rhyngwynebau deallus ar gyfer gêmau gyda phwyslais arbennig ar gynnyrch i bobl gydag anableddau corfforol neu anawsterau dysgu
  • Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio i’ch darparu gyda’r sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith cyflogedig yn y diwydiannau cyfryngau digidol a datblygu gêmau
  • Mae Cynllunio Datblygiad Personol wedi’i integreiddio trwy gydol y cwrs er mwyn datblygu’r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli effeithiol yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Datblygu Gêmau Cyfrifiadurol

Wrth wraidd y cwrs hwn mae egwyddorion datblygu technegol a dylunio. Yn eich blwyddyn gyntaf fe’ch cyflwynir i hanfodion rhaglennu cyfrifiadurol, sain ddigidol, rendro graffigol a’r modd y mae technoleg meddalwedd a chaledwedd gêmau blaengar yn gweithio. Yn ogystal, ceir elfen gref o ddylunio a chynhyrchu creadigol ble byddwch yn ymwneud â meddalwedd a chaledwedd safon diwydiant er mwyn datblygu syniadau a chysyniadau fel aelod o dîm ac fel unigolyn.

Yn nes ymlaen yn y cwrs, cewch gyfle i weithio gydag offer safon diwydiant er mwyn datblygu eich naratifau, cymeriadau a senarios gêmau eich hun. Wrth i’r cwrs fynd rhagddo byddwch yn ehangu eich gwybodaeth am raglennu ac yn mynd ati i weithio gydag aml-lwyfannau fel smartffônau a dyfeisiau symudol. Yn ogystal, byddwch yn cwmpasu prif feysydd fel datblygu gêmau ar gyfer nifer o chwaraewyr, dylunio systemau DA a modelu ac animeiddio 3D uwch ar gyfer gêmau. 

Byddwch yn datblygu sgiliau fydd yn amhrisiadwy mewn unrhyw amgylchedd gwaith neu fusnes yn y dyfodol, gan gynnwys hunanysgogiad, rheoli amser, datrys problemau a chymhwyso methodolegau rheoli, datblygiad personol a myfyrdod beirniadol. Yn ogystal, datblygir sgiliau beirniadol eraill gan gynnwys ymchwil, dadansoddi a chyflwyno wrth i chi ehangu eich gwybodaeth am feddalwedd arbenigol sy’n berthnasol i ddatblygu gêmau cyfrifiadurol. 

Cynnwys nodweddiadol y cwrs

  • modelu ac animeiddio 3D
  • naratifau a chymeriadu mewn gêmau
  • technoleg sain ar gyfer gêmau
  • datblygu gêmau symudol
  • dylunio a datblygu gêmau ar gyfer ifer o chwaraewyr

Gweler gwybodaeth am fodiwlau BSc (Anrh) Datblygu Gêmau Cyfrifiadurol

Cyfleoedd gyrfaol

Rhaglennydd gêmau, dylunydd lefel, cynhyrchydd, peiriannydd sain, artist/animeiddiwr technegol gêmau, ymgynghorydd. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn sawl maes cyfrifiadurol prif ffrwd, megis cymorth TG ac ymgynghoriaeth TG, cymwysiadau ar y Rhyngrwyd ac e-fasnach, yn ogystal â meysydd eraill y cyfryngau digidol  

Asesu

Cynlluniwyd yr asesu gyda golwg ar ddatblygu portffolio personol, ar ffurf gwaith cwrs tîm ac unigol gan ddangos cymhwyster wrth gyflenwi prosiectau a gwaith ymarferol. 

Hyd y cwrs

Llawn amser
Tair blynedd

Rhan-amser
Pum mlynedd

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion cyffredinol ar gyfer y radd anrhydedd yw 240 pwynt UCAS yn lefel A neu gyfwerth. Yn ogystal, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi pasio pum TGAU gyda graddau A, B neu C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Côd UCAS: G451
Dylai ymgeiswyr rhan-amser wneud cais uniongyrchol

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk