Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Datblygiad Cynaliadwy

BSc (Anrh) Datblygu Cynaliadwy

Y diwydiant datblygu cynaliadwy yw un o'r rhai mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae galw mawr am weithwyr proffesiynol yn y ddisgyblaeth hon i reoli prosiectau adeiladu cynaliadwy ledled y byd.

Mae cynllunwyr, adeiladwyr a rheolwyr wedi bod yn gweithio i gyrraedd targedau carbon isel ac effeithlonrwydd ynni ers nifer o flynyddoedd. Mae’r radd hon yn canolbwyntio ar yr arferion gorau ledled y maes amgylchedd adeiledig. Nod y cwrs yw paratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i ddiwallu anghenion cyflogwyr sydd angen ffordd integredig o fynd ati mewn datblygiadau newydd ac wrth adnewyddu ac ailddefnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes.

Ffeithiau allweddol

  • Mae’r radd hon wedi’i hachredu yn y DU ac Ewrop gan Gymdeithas Ewropeaidd y Peirianwyr Proffesiynol
  • Byddwch yn gymwys i ymuno â Chymdeithas y Peirianwyr Adeiladu (ABE) a Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) ar lefel myfyrwyr, ar argymhelliad tiwtor, ac mae aelodaeth fel arfer am ddim neu am bris gostyngol
  • Mae cyfle yn y radd i archwilio meysydd o ddiddordeb unigol i chi, er bod pwyslais arbennig ar ddulliau adeiladu modern sy'n defnyddio deunyddiau cynaliadwy ac effeithiau darparu ar economïau lleol

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Datblygu Cynaliadwy

Mae'r cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau:

  • datblygu’r amgylchedd adeiledig
  • y gyfraith
  • economeg
  • adeiladu
  • y farchnad eiddo
  • syrfeio a phrisio
  • materion ynni adnewyddadwy
  • cynaliadwyedd wrth ymarfer
  • mae astudiaethau rhyng-broffesiynol yn eich galluogi i ymarfer sgiliau gwaith tîm a chyfrifoldeb corfforaethol

Byddwch yn datblygu gwybodaeth dechnegol yn ogystal â datblygu’r sgiliau canlynol:

  • arwain tîm
  • dadansoddi ac ymchwiliadau
  • cyflwyniadau
  • datrys problemau
  • sgiliau arloesi a dylunio

Asesu

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys tasgau seiliedig-ar-waith dynwaredol, cyflwyniadau, dyluniadau, adroddiadau proffesiynol ac aseiniadau grŵp gyda thasgau tîm, rhai ohonynt yn amser reoledig. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yw 240 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfatebol. Croesewir ymgeiswyr gyda chymwysterau eraill a/neu brofiad perthnasol. Gallai y rheiny gyda chymwysterau proffesiynol neu gymwysterau lefel addysg uwch gael mynediad ar lefel uwch.

Rhan-amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan-amser: 5 mlynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk