Darlunio ar gyfer Nofelau Graffeg
BA (Anrh) Dylunio: Darlunio ar gyfer Nofelau Graffeg
Pam dewis Darlunio ar gyfer Nofelau Graffeg?
Mae’r cwrs newydd ac unigryw yma yn llawer mwy na “darlunio ar gyfer llyfrau comig”. Mae’n eich galluogi i arbenigo o fewn darlunio gan ddatblygu delweddau a chymeriadau gan ganiatáu i chi gael profiad ymarferol a gwybodaeth a thechnegau manwl sy’n briodol i’r maes hwn.
Mae’r cwrs gradd yma wedi’i gynllunio i gwmpasu ystod eang o sgiliau creadigol sydd â gogwydd galwedigaethol gan eich darparu gyda’r profiad a’r technegau a fydd yn hyrwyddo agwedd hyderus at gyflogaeth arfaethedig fel darlunwyr yn y diwydiant nofelau graffeg, cyhoeddi traddodiadol ac e-gyhoeddi, papurau newydd, cylchgronau a meysydd diwydiannau creadigol megis animeiddio a ffilm.
Yn sgil y cwrs yma byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn dylunio cymeriadau, dylunio graffeg yn gweithio gyda gweddlun, lliw, teipograffeg, llu o becynnau meddalwedd digidol ac ysgrifennu creadigol. Gellir rhoi’r sgiliau yma ar waith mewn amrywiaeth o rolau yn y diwydiannau creadigol.
Nodweddion arbennig
- Mae yna gyfleoedd i weithio gydag ystod o gyfryngau a defnyddiau gan ddefnyddio technegau creadigol traddodiadol a digidol.
- Dyma’r unig radd yn y DU sy’n arbenigo yn yr agwedd yma ar ysgrifennu a darlunio.
- Mae gan y cwrs gysylltiadau cryf o fewn y diwydiant nofelau graffeg/llyfrau comig.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae gan y radd yma ffocws galwedigaethol cryf ac yn anelu i sicrhau y bydd gennych chi ystod o sgiliau galwedigaethol berthnasol ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau. Mae’n cymryd i ystyriaeth y ffaith fod darpar anghenion y diwydiannau creadigol yn debygol o fod yn wahanol iawn ac yn anelu i’ch paratoi ar gyfer senarios gwaith sy’n dod i’r amlwg. Mae yna ystod cyffrous o gyfleoedd gyrfaol ar gael i chi, gan gynnwys cyfleoedd i weithio fel ymarferwyr proffesiynol annibynnol neu ar eich liwt eich hun.


