
Darlledu a Newyddiaduraeth
Does dim byd tebyg i’r wefr o weithio yn y cyfryngau – mae’n gyffrous, yn rhoi boddhad mawr, yn llawn o amrywiaeth – ond ble mae eich dawn ar ei chryfaf?Newyddiaduraeth print, amlgyfrwng, yn gyflwynydd neu tu ôl i’r llenni yn cynhyrchu radio a theledu?
Mae’n hawdd gweld pam fod cynifer o bobl yn cael eu denu i yrfaoedd ym myd teledu, radio, print a’r cyfryngau ar-lein. Mae pob un o’r cyfryngau hyn yn datblygu’n gyflym ac ni chewch ddau ddiwrnod sydd yr un fath. Bydd ein cyrsiau Darlledu a Newyddiaduraeth yn eich paratoi am fywyd gwerth chweil ym myd y cyfryngau. Byddwn yn dangos i chi sut i gael gafael ar ddeunydd a llunio adroddiadau newyddion ac eitemau ar gyfer radio, teledu, papurau newydd, cylchgronau a gwefannau.
Cyflwyniad
Mae ffocws cryf ar y cyfryngau newydd, felly mae cynhyrchu fideos a deunydd sain ar gyfer y we yn rhannau allweddol o’r cwrs. Erbyn diwedd eich astudiaethau bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu gwych. Os ydych chi eisiau gweithio fel newyddiadurwr amlgyfrwng i’r wasg, mae’n bosibl mai ein Tystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth, wedi’i hachredu gan gorff y diwydiant sef y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ), yw’r union beth rydych yn chwilio amdano.
Diolch i bartneriaeth â NWN Media Cyf., mae cyfle ar y cwrs blwyddyn hwn i dreulio deuddydd bob wythnos ar bapur newydd blaenllaw yng Ngogledd Cymru neu Gaer.
Ffeithiau allweddol
- Adeilad newydd i’r Diwydiannau Creadigol yn llawn o’r offer technolegol diweddaraf ar gyfer newyddiadurwyr darlledu ac amlgyfrwng
- Addysgir gan ddarlithwyr sydd wrthi’n gweithio ym myd y cyfryngau ac sydd â blynyddoedd o brofiad ym maes darlledu, newyddiaduraeth, ysgrifennu copi a chysylltiadau cyhoeddus
- Mae Calon FM, gorsaf radio gymunedol, yn darlledu’n fyw oddi ar ein campws yn Wrecsam. Mae cyfleoedd i gymryd rhan tu ôl i’r llenni, cynhyrchu rhaglenni, creu deunydd sain a fideo ar gyfer gwefan Calon FM neu fod yn gyflwynydd
- Profiad ymarferol – cyfle i weithio ar brosiectau byw ym maes darlledu ac argraffu
- Cyfleoedd profiad gwaith rhagorol – mae cydweithio agos â’n Canolfan Gyrfaoedd yn rhoi mynediad i gyfoeth o leoliadau gwaith yn y cyfryngau
Cynnwys y cwrs
- dulliau ymchwil i newyddiadurwyr a darlledwyr
- newyddiaduraeth y llawr gyntaf
- sgiliau personol, proffesiynol ac academaidd
- y broses gomisiynu - gwerthu syniadau
- y busnes cyfryngau
- newyddiaduraeth amlgyfrwng
- darlledu cymhwysol
- y gyfraith a moeseg yn y cyfryngau
Cwestiynau a holir yn am
BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau’r Cyfryngau
Sut byddaf yn astudio?
Mae ymwneud â diwydiant a phrosiectau byw yn rhan allweddol o’ch astudiaethau mewn Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyfryngol. Rydym yn gweithio gyda chleientiaid lleol a chenedlaethol, gan eich helpu i ffurfio perthnasau wrth fynd ati i gael profiad gwaith.
Bydd cyfuniad o diwtorialau personol, gweithdai a darlithoedd yn rhoi profiad academaidd i chi sydd wedi’i wreiddio’n gadarn mewn menter a’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen wrth sefydlu gyrfa fel ymarferydd cyfryngau llwyddiannus.
Sut byddaf yn cael fy asesu?
Mae asesu yn seiliedig ar waith portffolio, traethodau ffurfiol, dadansoddi beirniadol ac ymchwil hunan-gyfeiriedig. Byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu mwy ar eich sgiliau academaidd a chydweithio’n agos gyda’r Ganolfan ar gyfer Dysgu Entrepreneuraidd a’n Canolfan Yrfaoedd ar gampws Plas Coch.
Pa gyfleusterau fydd ar gael?
Bydd Adeilad Diwydiannau Creadigol newydd Prifysgol Glyndŵr yn agor yn 2011. Mae’r ychwanegiad cyffrous yma at gampws Plas Coch yn cynnwys stiwdio deledu fodern, ystafelloedd golygu a mannau hyblyg ar gyfer cyfarfodydd a gweithdai creadigol.
Bydd y ganolfan yma yn meithrin cydweithrediad ymhlith ein myfyrwyr yn y Diwydiannau Creadigol – gan weld gwreichion creadigol yn tasgu a syniadau newydd yn tyfu gyda momentwm newydd wrth i’r myfyrwyr symud tuag at yrfaoedd llwyddiannus fel ymarferwyr
Modiwlau
Blwyddyn 1
Darlledu a Newyddiaduraeth
Newyddiaduraeth Llawr Isaf (HUM 412)
Yma mae myfyrwyr yn mynd ati i ddeall byd newyddiaduraeth. Bydd sesiynau gweithdy ymarferol yn eich helpu i archwilio a datblygu sgiliau casglu newyddion ac ysgrifennu ar draws gwahanol lwyfannau cyfryngol dan arweiniad newyddiadurwyr profiadol.
Dulliau Ymchwil ar gyfer Newyddiadurwyr a Darlledwyr (HUM 409)
Mae’r modiwl yma yn defnyddio ymarfer cymwysedig i archwilio dulliau ymchwil ar gyfer ystod o amgylcheddau cysylltiadau cyfryngol er mwyn cael dealltwriaeth ymarferol o brosesau a phwysau amgylchedd ymchwil cyfryngau byw.
Cysylltiadau Cyfryngol
Cyfathrebu a Rhethreg Iaith (HUM 473)
Bydd myfyrwyr yn edrych ar ddamcaniaeth semiotig a chyfathrebu trwy iaith a rhethreg gan ddadansoddi’r ffyrdd y mae testunau cyfryngol yn perswadio a rheoli darllenwyr, cynulleidfaoedd a gwylwyr. Mae’r modiwl hefyd yn ystyried dimensiynau cymdeithasol a diwylliannol Cysylltiadau Cyfryngol.
Sgiliau Cyflwyno a Darlledu (HUM475)
Trwy ganolbwyntio ar sgiliau allweddol ar gyfer allanoli a chyflwyno personol, mae myfyrwyr yn archwilio’r cymwyseddau personol a chyfathrebu hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cysylltiadau cyfryngol a chysylltiadau cyhoeddus. Mae’r gweithgareddau ymarferol yn cynnwys y defnydd o fideo, radio a chyflwyniadau.
Blwyddyn 2
Darlledu a Newyddiaduraeth
Newyddiaduraeth Aml-Gyfryngol (HUM 513)
Bydd myfyrwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol o gasglu a chynhyrchu newyddion ac yn eu cymhwyso ar draws ystod o lwyfannau cyfryngol. Mae’r sesiynau yn cynnwys y cyfle i sefydlu gwefan newyddion ar-lein yn ogystal â dysgu sgiliau newydd mewn newyddiaduraeth fideo a datblygu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr dan arweiniad newyddiadurwyr aml-gyfryngol profiadol.
Y Broses Gomisiynu (HUM 550)
Mae’r modiwl yma yn darparu pob myfyriwr gydag ymwybyddiaeth o’r sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol sydd eu hangen i weithredu fel ymarferydd cyfryngol – naill ai’n llawrydd neu’n gyflogedig – mewn set o ddiwydiannau heriol a chystadleuol.
Y Busnes Cyfryngau (HUM 551)
Yma, mae myfyrwyr yn cael mewnwelediad dwfn i weithrediadau a biwrocratiaeth y diwydiannau cyfryngol ar raddfa leol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu CV proffesiynol eu hunain ar gyfer lleoliadau gwaith ac ysgoloriaethau uwchraddedig o fewn y cyfryngau.
Cysylltiadau Cyfryngol
Cysylltiadau Cyfryngol Integredig (HUM 514)
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gael profiad ymarferol yn y diwydiant cyfathrebu mewn prosiect cydweithrediadol gyda chleient go-iawn. Mae’r prosiect aml-gyfryngol llwyr integredig yn profi eu sgiliau creadigol, cyfathrebu a threfnu.
Cyd-destunau Proffesiynol (HUM 515)
Mae angen i bob cyfathrebydd proffesiynol wybod am gyfraith y cyfryngau sylfaenol ac am y fframwaith moesegol a rheoliadol sy’n rheoli’r diwydiant. Mae’r modiwl yma yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i gyfraith y cyfryngau, cyfraith esblygol preifatrwydd a fframwaith proffesiynol y diwydiant.
Blwyddyn 3
Darlledu a Newyddiaduraeth
Ymarfer Darlledu Cymwysedig (HUM 609)
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o ysgrifennu a chreu cynnwys ar gyfer teledu, radio ac ar-lein gan gynnwys gweithio ar Deledu Glyndŵr a phrosiectau “byw” eraill. Bydd y modiwl yn datblygu arbenigedd uwch ac yn rhoi profiad ymarferol o ddarlledu radio a theledu ynghyd â chyfryngau rhyngweithiol ac ar-lein ar lefel broffesiynol.
Cyfraith y Cyfryngau (HUM 609)
Mae’r modiwl yma yn canolbwyntio ar fanylder cyfraith y cyfryngau gan archwilio’r gwaharddiadau a’r rheoliadau sy’n rheoli gohebiaeth o’r system cyfiawnder troseddol yn ogystal â rheolau amhleidioldeb llym cydsyniad darlledu.
Cysylltiadau Cyfryngol
Prosiect a Phortffolio Cyfryngol (HUM 677)
Bydd myfyrwyr yn creu portffolio terfynol i’w gyflwyno o fewn disgyblaethol gyfryngol o’u dewis hwy. Mae prosiectau myfyrwyr wedi cynnwys trefnu, cyhoeddusrwydd a hyrwyddo dawns haf myfyrwyr y brifysgol, cyhoeddusrwydd a chyfarwyddo creadigol cynhyrchiad llwyfan byw ac ymgyrch geiriau-hysbyseb Google ar gyfer cleient go-iawn.
Achos Astudiaeth (HUM 676)
Mae’r modiwl yma yn rhoi cyfle i ddatblygu ymchwil weithredol seiliedig-ar-ddadansoddi a beirniadol annibynnol i achos astudiaeth o un ymarfer cyfryngol arbenigol. Mae’n hyrwyddo’r defnydd a’r datblygiad o ymchwiliad ac ymchwil annibynnol ar lefel uwch.
Cwrdd â’r myfyriwr
cyfarwyddo a golygu sioe radio neu deledu i gynhyrchu cynllun cysylltiadau cyhoeddus. "
Simi Adejumo BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau'r Cyfryngau
Cyfleodd gyrfaol
- darlledu ar y radio a theledu
- newyddiadurwr y wasg, cylchgrawn neu ar-lein
- swyddfa cysylltiadau cyhoeddus
- swyddog cyfathrebu corfforaethol
- gweithiwr proffesiynol yn y cyfryngau digidol
Cyflogaeth ac Asesu
Cyflogadwyedd
Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i sicrhau fod ein graddedigion i gyd wedi eu paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Cliciwch yma i ddarllen mwy am lwyddiant ein cymorth cyflogadwyedd.
Asesu
Asesir ar gyfer y rhaglen hon trwy bortffolio, cyfarwyddiadau prosiect ac adroddiadau a chyfnodolion.
Gofynion mynediad ac ymgeisio
Gofynion mynediad ac ymgeisio
240 pwynt tariff UCAS yn lefel A TAG neu gyfatebol.
Côd UCAS: PP35
Rhan amser: cais uniongyrchol
Ffioedd a Hyd y Cwrs
Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd
Ffioedd
Llawn amser 2013/14 £7250
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Graddau pedair-blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen
Myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio cyrsiau hyn fel gradd pedair blynedd, gan gynnwys blwyddyn sylfaen. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer y radd baglor tair blynedd dylech ystyried y radd hon. Trwy ymgorffori blwyddyn sylfaen, gallwn ddod â chi i fyny i gyflymu'r ar gyfer gofynion radd tair blynedd lawn.
Os byddwch yn cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn sicr o gael lle ar y cwrs gradd llawn ac yn ymuno fel myfyriwr blwyddyn gyntaf. Gan nad yw'r flwyddyn sylfaen yn gymhwyster sy'n sefyll ar ei ben ei hun, ond yn rhan o raglen astudio ar gyfer gradd anrhydedd, myfyrwyr y DU yn gymwys i wneud cais am fenthyciad myfyrwyr. Bydd y grant ffïoedd llywodraeth ar gyfer myfyrwyr sy'n hanu o Gymru hefyd yn berthnasol.
Cod UCAS ar gyfer BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Cyfathrebu (4 blynedd gyda blwyddyn sylfaen *): PP3M
* Radd 4 blynedd, gan gynnwys blwyddyn sylfaen yn amodol ar gael ei ddilysu




