Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cysylltiadau’r Cyfryngau

BA (Anrh) Cysylltiadau’r Cyfryngau ac Astudiaethau’r Sgrîn

BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau’r Cyfryngau

Mae cyflogwyr yn rhoi pwys mawr ar y gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn briodol.

Wrth astudio cwrs o’n portffolio Cysylltiadau’r Cyfryngau, byddwch yn ennill profiad ymarferol ochr yn ochr â hyfforddiant damcaniaethol. Mae ein cyrsiau yn cefnogi eich datblygiad fel awduron ac ymarferwyr ym myd y cyfryngau gan eich galluogi i fynd i’r afael â phrosiectau cynhyrchu fideo, cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu corfforaethol a mewnol, hysbysebu a hyrwyddo, yn ogystal â phrosiectau digidol, y we ac aml-gyfrwng.

Ffeithiau allweddol

  • Cewch weithio ar brosiectau cyfathrebu ymarferol – cynhyrchodd graddedigion diweddar ddeunydd i’r cyfryngau ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Dysgir gan ddarlithwyr sy’n weithgar iawn yn y diwydiant cyfryngau ac sydd â phrofiad mewn CC, ysgrifennu ar y we, ysgrifennu copi, newyddiaduraeth a darlledu
  • Canolfan newydd o’r radd flaenaf i’r Diwydiannau Creadigol
  • Datblygwch sgiliau hyblyg, trosglwyddadwy i holl waith y cyfryngau

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

  • iaith, rhethreg a chyfathrebu
  • sgiliau darlledu a chyflwyno
  • prosiect integredig cyfathrebu â’r cyfryngau
  • theori cyfathrebu a chyd-destunau proffesiynol
  • prosiect a phortffolio’r cyfryngau
  • astudiaeth achos

Cyfleoedd gyrfa

  • cysylltiadau cyhoeddus
  • marchnata
  • hysbysebu a hyrwyddiadau
  • cyfathrebu corfforaethol ac â gweithwyr
  • cynhyrchu fideo
  • cyfleoedd astudio pellach ar lefel ôl-raddedig ar gael

BA (Anrh) Cysylltiadau’r Cyfryngau ac Astudiaethau’r Sgrîn

Mae bywyd yn yr 21ain ganrif yn cael ei lywodraethu gan yr hyn a welwn ar y sgrîn – teledu, sgriniau sinema, gluniaduron, llyfrau nodiadau a gêmau fideo. Mae Astudiaethau’r Sgrîn yn cyfuno agweddau academaidd traddodiadol at astudiaethau ffilm a’r cyfryngau gyda’r ymchwil ddiweddaraf i’r modd yr ydym yn rhyngweithio ar-lein. Anogir myfyrwyr i ymwneud ag amrywiaeth o ddiwylliannau a thechnolegau sgrîn cyfredol.

Asesu

Asesir ar gyfer y rhaglen yma trwy bortffolio, cyfarwyddiadau prosiect ac adroddiadau a chyfnodolion.

Gofynion mynediad

240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth. Pwnc/pynciau dymunol: Saesneg (iaith neu lên), pynciau cysylltiedig ag Astudiaethau neu Gysylltiadau’r Cyfryngau. Gweler y . 

Côd UCAS

Llawn amser: pp93

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5/6 mlynedd


BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau’r Cyfryngau

Datblygwch sgiliau allweddol i ymchwilio, ysgrifennu a chynhyrchu deunydd ar gyfer y wasg, radio, teledu a’r cyfryngau ar-lein. Mae’r llwybr hwn yn ddau gyfuniad ymarferol, ac fe gewch gyfleoedd i gynhyrchu cynnwys sain a fideo ar gyfer ein gorsaf radio gymunedol ar y campws, sef Calon FM.

Asesu

Asesir ar gyfer y rhaglen yma trwy bortffolio, cyfarwyddiadau prosiect ac adroddiadau a chyfnodolion.

Gofynion mynediad

240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth. Pwnc/pynciau dymunol: Saesneg (iaith neu lên), pynciau cysylltiedig ag Astudiaethau neu Gysylltiadau’r Cyfryngau.

Côd UCAS

Llawn amser: PP35

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5/6 mlynedd

 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk