
Cymorth Technoleg Gwybodaeth
FdSc Cymorth Technoleg Gwybodaeth
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn cefnogi’r systemau technoleg gwybodaeth yr ydym yn dibynnu arnynt yn ein bywydau gwaith.
Mae cefnogi’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn swyddogaeth hanfodol yn y rhan fwyaf o gwmnïau a sefydliadau. Ac mae yna alw mawr am dechnegwyr medrus sy’n gallu gwneud hyn yn dda.
Os ydych yn dymuno datblygu gyrfa mewn cymorth technegol yn y diwydiant technoleg gwybodaeth, yna mae’r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i chi gyfuno astudiaethau technegol a phroffesiynol â dysg ymarferol, gan ganolbwyntio ar gefnogi desg gymorth/canolfan alwadau, gweinyddu rhwydwaith a chywiro diffygion.
Dyma’r cwrs delfrydol os nad oes gennych gefndir blaenorol neu addysg ffurfiol mewn cyfrifiadura, neu os hoffech ailhyfforddi neu ddiweddaru eich sgiliau cyfrifiadurol.
Ffeithiau allweddol
- Cyfleusterau helaeth o ran cyfrifiaduron personol a rhai ar y rhwydwaith
- Labordy cyfrifiaduron arbenigol sy’n bwrpasol ar gyfer rhaglenni gêmau cyfrifiadur a datblygu systemau amlgyfrwng
- Mae’r cwrs hwn yn ymateb i fylchau sgiliau cydnabyddedig
- Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith cyflogedig
- Mae cynllunio datblygiad personol wedi’i integreiddio trwy gydol y cwrs er mwyn datblygu’r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli effeithiol yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa
Cynnwys y cwrs
FdSc Cymorth Technoleg Gwybodaeth
Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio i’ch paratoi i fod ar lefel mynediad i swyddi cymorth technegol yn y diwydiant technoleg gwybodaeth. Byddwch yn cael cymhwyster cydnabyddedig ffurfiol ym maes cyfrifiadura, ond os dymunwch fynd â’ch astudiaethau ymhellach fe allai hyn fod yn gam cyntaf tuag at rai o gymwysterau proffesiynol mawr eu parch gan Microsoft a Cisco
Cynnwys nodweddiadol y cwrs
- bydd elfen dechnegol craidd y cwrs yn datblygu sgiliau ymarferol wrth osod, datrys problemau a gweithredu meddalwedd a chaledwedd
- gwneud tasgau cynnal a chadw ar gyfrifiaduron a rhwydweithiau
- gweithio gyda nodiaduron, gliniaduron, a PDAs
- gweithio gyda chymwysiadau ar y Rhyngrwyd
Cyfleoedd gyrfa
- Technegydd TG
- Arbenigwr Cymorth i Ddefnyddwyr
- Gweinyddwr Rhwydwaith
- Dadansoddydd Cymorth Technegol
- Dadansoddydd Cymorth i Ddefnyddwyr
- Rheoli Desg Gymorth
Cyflogadwyedd
Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymroddedig i sicrhau fod ein graddedigion i gyd wedi eu paratoi'n dda ar gyfer byd gwaith. Cliciwch yma i ddarllen mwy am lwyddiant ein cymorth cyflogadwyedd.
Asesu
Asesir trwy waith cwrs unigol a thîm ynghyd ag arddangos gallu i ddarparu gwaith ymarferol a phrosiectau.
Hyd y cwrs
Llawn amser
2 blynedd
Gofynion mynediad
Y gofynion cyffredinol ar gyfer y radd sylfaen yw 140 pwynt tariff UCAS yn lefel A TAG neu gyfatebol. Gweler y direct.
Côd UCAS
Llawn amser: G561




