Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cymorth Dysgu ac Addysgu

FdA Cefnogaeth Dysgu: Dysgu ac Addysgu

FdA Cymorth Dysgu: Anghenion Addysg Arbennig

Mae’r graddau sylfaen hyn yn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i unigolion sydd â phrofiad o waith cefnogi mewn lleoliadau addysgol ledled y sector, er enghraifft y rheiny sydd yn: gynorthwywyr cymorth dysgu neu addysgu/ystafell ddosbarth, ymarferwyr blynyddoedd cynnar neu nyrsys meithrin, staff cefnogi a phobl sy’n gweithio mewn lleoliad addysgol ac yn darparu cymorth dysgu mewn cymorth llythrennedd, rhifedd ac ymddygiad i bobl neu oedolion ifanc gydag anghenion addysgol arbennig.

Ffeithiau allweddol

  • Mae’r cyrsiau yn seiliedig ar ddysgu seiliedig-ar-waith yn ogystal ag astudiaeth academaidd ac wedi’u cynllunio gan ddarlithwyr Prifysgol Glyndŵr, tiwtoriaid addysg bellach, cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a staff ac athrawon sy’n gwasanaethu o ystod o leoliadau yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • Bydd y cyrsiau yn eich helpu i gael sgiliau gwerthfawr ar gyfer y sector cefnogi addysg
  • Byddwch yn datblygu eich sgiliau gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarferol i allu cynllunio, rheoli a myfyrio ynghylch eich dysg eich hun a rheoli cynnydd sy’n briodol i’ch rôl yn y gweithle. Byddwch yn monitro a gwerthuso cynnydd yn eich dysg eich hun ac yn gallu cysylltu eich dysg â’r Safonau Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (HLTA)
  • Byddwch hefyd yn datblygu eich gallu i gyfathrebu yn briodol ac yn effeithiol mewn amryw o ffyrdd, gan ddefnyddio ystod o wahanol gyfryngau, cysylltu damcaniaeth ac arfer, ymgymryd ag ymchwil a gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm 

Mae yna ddau lwybr o fewn y radd sylfaen: llwybr dysgu ac addysgu cyffredinol neu lwybr anghenion addysgol arbennig. Bydd rhai o’r modiwlau yn gyffredin i’r ddau lwybr tra bod eraill yn fodiwlau arbenigol ar gyfer y llwybr hwnnw.

Cynnwys y cwrs

FdA Cymorth Dysgu: Dysgu ac Addysgu - modiwlau

FdA Cymorth Dysgu: AAA - modiwlau

Cyfarfod y fyfyrwraig - Kate Edwards

Cyfarfod y fyfyrwraig - Jess Vaughan

Cyfleoedd gyrfaol

Gyda’r graddau sylfaen hyn gallwch ehangu eich dealltwriaeth o’ch rôl yn y system addysgol, cynyddu eich dealltwriaeth o addysg plant a’r system addysg. Gall y cwrs agor drysau i amrywiaeth o lwybrau i yrfa mewn addysg a’ch paratoi ar gyfer asesiad wedi’i seilio ar statws HLTA.

Gofynion mynediad

Bydd arnoch angen:

  • Lleiafswm o ddwy flynedd o brofiad gwaith priodol fel cynorthwy-ydd cefnogi
  • Gweithio ar hyn o bryd mewn ysgol, meithrinfa, neu leoliad addysg, yn gyflogedig neu’n wirfoddol, am oddeutu 150 awr y flwyddyn
  • Datganiad gan y prifathro/athrawes / rheolwr/wraig y ganolfan yn cadarnhau eich datganiad ac yn dynodi person penodedig i weithredu fel hyfforddwr/wraig cefnogi
  • Gwiriad CRB/ISA manwl cyfredol.

Gofynion mynediad ychwanegol

Fel arfer bydd angen y canlynol ar ymgeiswyr:

  • Lleiafswm o GCSE/NVQ2 neu gyfatebol mewn Saesneg
  • Cwblhau NVQ3/CACHE/BTEC perthnasol neu gwrs cyfatebol yn llwyddiannus

Gall ymgeisydd gael ei dderbyn i gwrs heb gymwysterau academaidd ffurfiol cyn belled ag y gall ef/hi ddarparu tystiolaeth eglur iawn o’u haddasrwydd o ran ysgogiad a’r gallu i lwyddo. Bydd hyn yn cael ei amlygu trwy argymhelliad ysgrifenedig y prifathro/athrawes / rheolwr/wraig y lleoliad.

Gofynnir i’r ymgeiswyr i gyd fynychu cyfweliad. Ar adeg y cyfweliad bydd angen iddynt gwblhau tasg ysgrifenedig i gadarnhau eu sgiliau personol mewn llythrennedd. 

Mae gan y Brifysgol systemau a phrosesau mewn grym i ddarparu cefnogaeth i fyfyrwyr heb brofiad astudio mewn addysg uwch. Mae ganddi, er enghraifft, fodiwl ar gyfer datblygu sgiliau academaidd a TGCh i gynyddu eich hyder mewn ysgrifennu, ymchwilio ac arfer myfyriol.

Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cyrsiau hyn bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Criminal Records Bureau a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed.

Asesu

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu gan gynnwys portffolios myfyrwyr, gwaith prosiect, aseiniadau ysgrifenedig, paratoadau a thasgau unigolion a grwpiau bychain. Nid oes arholiadau ysgrifenedig ffurfiol.  

Hyd

Rhan-amser
2 flynedd

Dwy sesiwn a addysgir yr wythnos.

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk