Cyfrifiadura’r Cyfryngau Creadigol
BSc (Anrh) Cyfrifiadura’r Cyfryngau Creadigol
Mae cyfrifiadura y cyfryngau creadigol ar flaen y gad yn y technolegau creadigol.
Mae ein cyrsiau cyfrifiadura yn y cyfryngau creadigol wedi eu cynllunio i roi amgyffrediad i chi o gymwysiadau a rhaglenni creadigol, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o gynrychioliadau, technegau a chymwysiadau digidol gweledol a sain, yn ogystal â systemau rhyngweithiol.
Mae’r rhain yn gyrsiau aml-ddisgyblaeth sy’n cwmpasu pob agwedd ar dechnolegau amlgyfrwng cyfredol a rhai newydd, egwyddorion dylunio gwybodaeth ar gyfer cyfathrebu effeithiol a dulliau o ddatblygu a rheoli meddalwedd.
Mae’n pwysleisio datrys problemau yn greadigol a sgiliau rheoli prosiect, yn ogystal ag agweddau esthetig a thechnegol y cyfrwng.
Ffeithiau allweddol
- Byddwch yn datblygu sgiliau galwedigaethol sy’n berthnasol i’r diwydiant ac yn cael y profiad angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiannau cyfryngau digidol
- Cyfleusterau helaeth o ran cyfrifiaduron personol a rhai ar y rhwydwaithLabordy cyfrifiaduron arbenigol sy’n bwrpasol ar gyfer rhaglenni gêmau cyfrifiadur a datblygu systemau amlgyfrwng
- Mae’r cwrs hwn yn ymateb i fylchau sgiliau ac anghenion cydnabyddedig gan roi i chi’r ddealltwriaeth feirniadol, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael gwaith cyflogedig llwyddiannus
- Ceisir achrediad ar gyfer y radd anrhydedd gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) a fyddai’n golygu y byddech yn cael eich eithrio o ran 1 a rhan 2 o Arholiadau Proffesiynol y Gymdeithas
- Mae’r Brifysgol yn gartref i CAIR – sef canolfan ymchwil adnabyddus am ymchwil gymwysedig yn ymwneud â’r rhyngrwyd
Cynnwys nodweddiadol y cwrs
- awduro amlgyfrwng gan gynnwys creutrin a golygu graffeg
- golygu sainrhyngweithio
- dylunio gwefannau
- animeiddio cyfrifiadurol
- technolegau symudol
- awduro CD-rom a DVD
Cyfleoedd gyrfa
- dylunydd gwe
- gyrfaoedd mewn modelu 3D ac animeiddio
- cynhyrchu fideo a ffrydio amlgyfrwng
- datblygu cymwysiadau
- datblygu cymwysiadau symudol
- graffeg
- sain ddigidol
