Astudiaethau Cymraeg
BA (Anrh) Cymraeg Proffesiynol*
FdA Cymraeg Proffesiynol*
Yn sgil gofynion gwlad ddwyieithog, mae mwy a mwy o fusnesau yn galw am sgiliau ieithyddol Cymraeg uwch a chyfieithu Saesneg/Cymraeg.
Mae Cymru yn wlad ddwyieithog sydd, yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, wedi gweld twf arwyddocaol yn y defnydd o Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol a masnachol. Mae hyn wedi hybu cynnydd sylweddol yn yr angen am sgiliau cyfathrebu a chyfieithu o ansawdd uchel.
Rydym wedi creu ein rhaglenni astudiaethau Cymraeg gyda busnesau mewn golwg. Mae mwy a mwy o gwmnïau yn cydnabod yr angen i gyfathrebu gyda’u cwsmeriaid – a’u staff – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gan hynny mae sgiliau cyfieithu a chyfathrebu effeithiol yn hanfodol i ffyniant economi Cymru.
Ffeithiau allweddol
- Cyflenwir y cwrs ar-lein yn bennaf
- Gweithdai a addysgir yn Ystafell William Morgan, ystafell bwrpasol ar gyfer addysgu’r Gymraeg, gyda chyfleusterau digidol rhyngwladol-flaenllaw
- Defnydd o gyfleusterau TG rhagorol, llyfrgell â stoc dda a chyfleusterau cefnogi myfyrwyr
- Cwrs wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â’r diwydiant cysylltiadau Cymreig
- Cwrs ymarferol sy’n eich galluogi i ymarfer eich sgiliau mewn prosiectau go iawn
- Darlithoedd gwadd gan bobl broffesiynol sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cyflenwir y cyrsiau i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg
“Mae’r cwrs yn cynnwys elfennau yn ymwneud ag iaith, gramadeg ac egwyddorion ac arddulliau cyfieithu. Mae hyn wedi rhoi hyder i mi siarad Cymraeg o ddydd i ddydd yn y gymuned unwaith yn rhagor.”
Sarah-Lou Gaffney, graddedig FdA Cyfieithu Cymraeg
Cynnwys nodweddiadol y cwrs
Mae’r cyrsiau hyn yn rhannu modiwlau craidd cyffredin megis:
- sgiliau Cymraeg uwch
- egwyddorion cyfieithu
- datblygiad personol a phroffesiynol
- tafodieitheg
- cyfieithu technegol
Cyfleoedd gyrfa
Datblygwyd y cwrs yma i gwrdd â gofynion cyflogwyr. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfieithu yn ogystal ag amrywiaeth eang o gymwyseddau, sgiliau generig a phenodol, nodweddion a galluoedd sydd yn werthfawr iawn yn y gweithle dwyieithog, gan gynnwys technoleg gwybodaeth, gwerthuso, dadansoddi, a chyfathrebu ysgrifenedig Cymraeg mewn amryw o ddiwygiau ac arddulliau
