Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cyfiawnder Troseddol

BA (Anrh) Cyfiawnder Troseddol

Mae’r cwrs hwn yn eich annog i ddatblygu dealltwriaeth eang o gyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol trosedd. Y themâu allweddol yw: deall a chyd-destunoli trosedd, archwilio rôl asiantaethau allweddol, astudio maes datblygol asesu risg ac edrych ar ffyrdd o weithio yn adeiladol gyda throseddwyr. Yn ogystal byddwch yn datblygu dealltwriaeth o natur, cyd-destun a heriau ymddygiad troseddol.

Ffeithiau allweddol

  • Mae gan y darlithwyr yn y maes hwn brofiad helaeth o weithio yn y sector cyfiawnder troseddol ac maent wrthi’n ymchwilio ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, menywod a throsedd, a chamddefnyddio sylweddau
  • Cysylltiadau da gyda chyflogwyr ac asiantaethau cyfiawnder troseddol
  • Defnyddir dulliau arloesol a hyblyg gan gynnwys 50% o addysgu yn cael ei gyflenwi ar-lein

Cyfleoedd gyrfa

Mae yna ystod ragorol o gyfleoedd gyrfa ym maes cyfiawnder troseddol a chymuned. Mae graddedigion wedi symud ymlaen i yrfaoedd gyda’r heddlu a’r gwasanaethau prawf, cefnogi dioddefwyr, y gwasanaeth carchar, y gwasanaeth troseddau ieuenctid ac asiantaethau alcohol a chyffuriau, yn ogystal â swyddi yn y sector gwirfoddol.

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Cyfiawnder Troseddol

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddadansoddi mathau amrywiol o drosedd gan gynnwys trosedd domestig a throsedd cysylltiedig ag alcohol a chyffuriau. Byddwch yn edrych ar y seicoleg tu ôl i drosedd, achosion trosedd a’i effaith ar gymdeithas yn ogystal â beth ellir ei wneud i atal trosedd gan gynnwys ailsefydlu troseddwyr.

Byddwch hefyd yn archwilio cyfraith droseddol a’r system gyfiawnder. Tuag at ddiwedd y cwrs byddwch yn gallu dewis o ddetholiad o fodiwlau opsiynol yn cwmpasu cyffuriau, y system cyfiawnder ieuenctid, iechyd meddwl a throsedd, cadw trefn ar drosedd a materion iechyd meddwl sy’n arwain at drosedd.

Asesu

Mae yna amrywiaeth o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs yma, gan gynnwys traethodau, astudiaethau achos ac arholiadau. Bydd gofyn i chi wneud traethawd estynedig ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Gofynion mynediad

Gofynnir am 240 pwynt neu gyfwerth.

Côd UCAS

Llawn amser: M240
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk