|
|
DylunioDyma gyfle i archwilio dylunio a grym cyfathrebu, a hynny drwy ddylunio graffeg, darluniadau a chyfryngau digidol arloesol ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Ers sefydlu ein graddau dylunio ym 1994, mae ein hathroniaeth yn sylweddoli bod arloesedd a chreadigrwydd yn agweddau allweddol ar y ddarpariaeth Dylunio, er mwyn eich helpu i gyflawni eich dyheadau creadigol. Mae ein cyrsiau yn cynnwys amrywiaeth eang o sgiliau creadigol sy’n berthnasol i alwedigaethau ac wedi’u gogwyddo’n benodol i’ch arwain i gael swydd yn y diwydiannau creadigol a rhai cysylltiedig. Mae’r diwydiant dylunio yn hynod ddeinamig, gyda phrosesau, technegau a thechnolegau newydd yn dod i’r fei yn gyson.
Cewch y cyfle i ymchwilio i hyn drwy ein cyrsiau Cyfathrebu Dylunio; Dylunio a’r Cyfryngau Creadigol a Dylunio a Chelf Gymhwysol. Ein nod yw cynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn gallu cyfuno eu sgiliau cysyniadol a thechnegol mewn celf, dylunio a’r cyfryngau, ond sydd hefyd yn ymarferwyr dylunio sy’n rhannu cyd-weledigaeth h.y. yn gallu gweld pethau yn holistig, yn strategol, yn wrthrychol, yn gymdeithasol, yn economaidd yn ogystal ag yn greadigol. Mae’r galw mawr yn parhau am ddylunwyr sy’n gallu ymateb yn greadigol i broblemau cyfathrebu. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar iaith dylunio trwy archwilio a mynegi syniadau, yn ogystal â thrwy’r defnydd o brosesau ac arferion yn y byd deunyddiau. Mae ein cyrsiau yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu ac arferion proffesiynol ardderchog ac yn annog defnydd rhyngddisgyblaethol arloesol o gyfryngau a deunyddiau gwahanol. Ceir pwyslais cryf hefyd ar ddatblygu sgiliau rhyngbersonol trwy brosiectau a gwaith tîm cydweithredol. Ffeithiau allweddol
Cyfleoedd gyrfaMae ystod eang o gyfleoedd yn y diwydiant dylunio i’n graddedigion. Caiff graddedigion dylunio graffeg a dylunio amlgyfrwng rhyngweithiol eu paratoi’n dda i ddilyn gyrfa fel cynllunwyr, cyfarwyddwyr celf, rheolwyr stiwdio, datblygwyr amlgyfrwng, artistiaid cysyniad, datblygwyr rhyngweithiol, dylunwyr gwe, dylunwyr cyfathrebu symudol, technegwyr, a dylunwyr topograffeg. Os mai darlunio sy’n mynd â’ch bryd, mae’r cyfleoedd gyrfa yn cynnwys: gweithio cyffredinol ar eich liwt eich hun, asiantau artistiaid, cynllunwyr, artistiaid cysyniad, dylunwyr cymeriad, artistiaid amgylchedd cefndir, ysgrifenwyr creadigol, artistiaid llyfrau comig, dylunwyr a delweddwyr. Mae cyfleoedd astudio pellach hefyd ar gael ar lefel MA neu TAR/PGCE. Cynnwys y cwrsBA (Anrh) Cyfathrebu Dylunio Bydd ein gradd Cyfathrebu Dylunio yn eich paratoi drwy roi i chi’r holl sgiliau i fod yn ddylunydd y dyfodol. Mae ffocws cryf ar werthoedd craidd dylunio, sef pethau fel cynulleidfa a chyfrifoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd, ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymarferoldeb, moeseg, cael defnydd priodol o ddeunyddiau i gyd-fynd ag atebion cost-effeithiol, yn ogystal â gwerthoedd arloesol, esthetig a diwylliannol. Gallwch gynhyrchu gwaith mewn darlunio a dylunio graffeg gan gynnwys dylunio rhyngweithiol amlgyfrwng, dylunio gwe, brandio, hysbysebu, pecynnu, teipograffeg, dylunio storïol, anthropomorffaeth, datblygu cymeriad, darlunio cyffredinol, darlunio a lluniadu ffigyrau ar gyfer amrywiaeth o ddibenion, gan ddefnyddio’r holl feddalwedd ddiweddaraf sydd o safon y diwydiant dylunio. Cewch eich annog i ddatblygu eich arddull eich hun, a gweld sut y gellir defnyddio cynllun, lliw a deunyddiau i ddatrys problemau dylunio. Byddwch hefyd yn edrych ar yr holl dechnegau gwahanol sydd eu hangen arnoch i fynd i’r afael â chynllunio ar gyfer unrhyw fath o gynulleidfa neu gyfryngau, o lyfrau plant a hysbysebion, i nofelau graffeg a’r we fyd eang. Cewch gyfuno sgiliau arlunio traddodiadol â gwybodaeth o gyfryngau digidol i greu ffyrdd unigol pwerus o gyfathrebu eich syniadau darlunio a dylunio graffeg. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau ac ar y broses ddylunio sy’n rhan allweddol o waith y dylunydd. Byddwch yn deall effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y gwaith yr ydych yn ei gynhyrchu ac ychwanegu at eich sgiliau proffesiynol yn y diwydiant meddalwedd a rhaglenni cyfrifiadurol. Gofynion Mynediad240 pwynt UCAS mewn pynciau Lefel A perthnasol neu gyfatebol. Caiff eich portffolio ei adolygu yn y cyfweliad. Dylai ddangos eich sgiliau creadigol a gweledol, eich diddordebau a’ch gallu. Côd UCASLlawn amser: W201 HydLlawn amser: 3 blynedd Eich maes arbenigolDylunio graffeg Fe’ch anogir i ddatblygu eich potensial dylunio, sgiliau datrys problemau a datblygu galluoedd meddwl yn greadigol. Bydd y rhaglen yn eich galluogi i gael amser i ddatblygu eich arddull unigryw a’ch iaith weledol eich hun trwy greu portffolio o waith. Cynhyrchu’r portffolio creadigol yma fydd yn creu’r cyfleoedd gwaith cyntaf a’r cam cyntaf at gael eich cyflogi, gobeithio. Bydd myfyrwyr dylunio graffeg yn profi amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu trwy gydol eu hastudiaethau mewn dylunio graffeg. Bydd hyn yn cynnwys ymweld ag amgueddfeydd ac arddangosfeydd dylunio, mynychu cynadleddau megis y seminarau 4 Designers yn Llundain ac ymweld â chwmnïau dylunio ledled y DU. Mae ymweliadau Ewropeaidd hefyd wedi bod yn elfen o’r rhaglen hon, sy’n ei eich galluogi i weld y modd y mae dylunwyr graffeg yn gweithio tramor, gan gael safbwynt Ewropeaidd, a chyfleoedd gwaith trwy ymweld â stiwdios dylunio yno. Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn cystadlaethau dylunio cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhai o’n myfyrwyr wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu hymdrechion trwy ennill Gwobrau Pensel Felen gan y D&AD (Gwobrau Myfyrwyr Cyfarwyddyd Celf a Dylunio Prydain) a phrif wobrau gan y CSD (Cymdeithas Dylunwyr Siartredig). Mae myfyrwyr wedi cael grantiau gan NESTA i dalu am ddatblygiad syniadau busnes diddorol. Mae hyn yn ei dro yn tynnu sylw stiwdios dylunio/sgowtiaid dawn at ein myfyrwyr, i edrych ar eu gwaith gyda golwg ar eu cyflogi yn y dyfodol. Nod y llwybr dylunio graffeg yw procio eich dychymyg trwy heriau deallusol, sy’n rhan annatod o’r aseiniadau ymarferol. Mae’r rhain yn creu ymwybyddiaeth feirniadol o’r byd o’ch cwmpas ac yn hybu proses o feddwl yn feirniadol ac yn gysyniadol tra byddwch yn ymarfer sgiliau dylunio sylfaenol. Darlunio Mae’r elfen yma o’r cwrs ar gyfer y rheiny sydd eisiau mynd ar drywydd gyrfa yn y diwydiant dylunio, ym maes pwnc darlunio yn benodol. Mae’n edrych ar bob agwedd o’r diwydiant darlunio a rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu a sgiliau entrepreneuraidd, fel eich bod yn dra chymwys i fod yn rhan o ddiwydiant amrywiol sy’n newid yn gyflym. Byddwch yn gallu archwilio technegau darlunio, trwy gyfryngau traddodiadol a digidol, gyda phwyslais ar luniadu a meddwl yn gysyniadol er mwyn datblygu arddull ac iaith unigryw ar gyfer cyfathrebu, sy’n arwain at bortffolio o waith creadigol, unigryw a phroffesiynol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae maes darlunio wedi sefydlu cysylltiadau da gyda chwmnïau a thai cyhoeddi, sy’n gosod briffiau ac yn ymweld â’r rhaglen, i edrych ar eu gwaith gyda golwg ar eu cyflogi yn y dyfodol. Darlunio ar gyfer llyfrau plant Nid yn unig y mae’r elfen yma yn delio gyda thechnegau a sgiliau darlunio, y mae hefyd yn rhoi pwyslais ar ysgrifennu creadigol, adrodd straeon a delweddaeth naratif ar gyfer plant, gan hynny yn ehangu dealltwriaeth a gallu yn y ddau faes. Cryfhawyd hyn yn sgîl cysylltiadau gydag ysgolion cynradd lleol, ble gallwch astudio datblygiad ac anghenion plant. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd eisiau mynd ar drywydd gyrfa yn niwydiant cyhoeddi llyfrau plant. Mae’n archwilio pob agwedd o’r diwydiant, o 0 i’r arddegau, a rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu a sgiliau entrepreneuraidd, fel eich bod yn dra chymwys i fod yn rhan o’r diwydiant cyhoeddi llyfrau plant. Byddwch yn archwilio dilyniannu, datblygu cymeriadau, adrodd straeon trwy gyfryngau traddodiadol a digidol, gyda phwyslais ar luniadu. Mae’n datblygu iaith ac arddull unigryw ar gyfer mynegi testun a delwedd i gynulleidfa iau, sy’n arwain at bortffolio o waith creadigol, unigryw a phroffesiynol, sy’n ddigon hyblyg i ddenu diddordeb gan opsiynau gyrfaol eraill o fewn maes dylunio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae maes darlunio ar gyfer llyfrau plant wedi sefydlu cysylltiadau da gyda nifer o dai cyhoeddi, a fydd yn gosod briffiau i edrych ar eu gwaith gyda golwg ar eu cyflogi yn y dyfodol. Trefnir teithiau astudio megis ffeiriau llafur yn Bologna, Paris, Frankfurt a Llundain, yn ogystal â darlithwyr/siaradwyr gwadd, sy’n rhoi gwerthfawrogiad ehangach o’u maes pwnc ac yn hybu trafodaeth a meddwl ochrol. Darlunio ar gyfer nofelau graffig Nod yr elfen yma yw cwmpasu ystod eang o sgiliau creadigol sydd â gogwydd galwedigaethol a phenodol tuag at angen myfyrwyr am y wybodaeth, y profiad a’r sgiliau a fydd yn hybu agwedd hyderus at gyflogaeth arfaethedig fel darlunwyr yn niwydiant nofelau graffig a’r diwydiannau creadigol cysylltiedig. Mae ein hathroniaeth yn dynodi arloesedd a chreadigrwydd fel agweddau allweddol o ddarpariaeth dylunio wrth helpu myfyrwyr i gyflawni eu hamcanion creadigol. Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs yma mewn lle da i fynd ar drywydd gyrfa nid yn unig o fewn y diwydiannau nofelau graffig a darlunio, ond hefyd o fewn y diwydiannau gêmau cyfrifiadurol a dylunio. Dylunio Amlgyfryngol Rhyngweithiol Mae’r llwybr yma yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau dylunio rhyngweithiol ar gyfer y diwydiannau digidol, trwy edrych ar botensial gwe-ddylunio, cyfathrebu symudol, awduro CD-ROM a DVD a dylunio gêmau digidol. Gan ddefnyddio’r pecynnau meddalwedd diweddaraf, byddwch yn cael profiad damcaniaethol ac ymarferol trwy ddefnyddio animeiddio 2D/3D, sain, teipograffeg, ffotograffiaeth ddigidol a delwedd symudol. Fe’ch cyflwynir i’r fframwaith diwylliannol a beirniadol sy’n hysbysu meddwl cyfredol mewn rhyngweithgarwch. Cyflenwir hyn trwy ddarlithoedd, seminarau ac arddangosfeydd rheolaidd, yn ogystal â chwarae gêmau trwy gydol y rhaglen. Rhoddir pwyslais ar eich galluogi i gyrraedd eich potensial creadigol llawn a datblygu eich sgiliau dylunio proffesiynol a gwaith tîm, hunan-reolaeth, sgiliau cyfathrebu a chyflwyno. Mae yna gyfleoedd gyrfaol ym meysydd gwe-ddylunio, dylunio gosodwaith, teledu rhyngweithiol, cynhyrchu DVD a dylunio gêmau cyfrifiadurol. |
Am fwy o wybodaeth |