Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Celfyddydau Cymwysedig

BA (Anrh) Dylunio: Celf Gymhwysol

Defnyddiwch eich dychymyg creadigol i ymchwilio a chynhyrchu cynlluniau a fydd yn ysbrydoli defnydd y dyfodol o gerameg, gwydr, metel, gemwaith a dylunio ystafelloedd.

Ers sefydlu ein graddau dylunio ym 1994, mae ein hathroniaeth yn sylweddoli bod arloesedd a chreadigrwydd yn agweddau allweddol ar y ddarpariaeth Dylunio er mwyn eich helpu i gyflawni eich dyheadau creadigol. Mae ein cyrsiau yn cynnwys amrywiaeth eang o sgiliau creadigol sy’n berthnasol i alwedigaethau, a sgiliau sydd wedi’u gogwyddo’n benodol i’ch arwain i gael swydd yn y diwydiannau creadigol a rhai cysylltiedig.

Mae’r diwydiant dylunio yn amgylchedd hynod sydd yn gyson angen syniadau newydd, a phrosesau, technegau a thechnolegau newydd yn dod i’r fei drwy’r adeg. Cewch y cyfle i ymchwilio i hyn drwy ein cyrsiau Cyfathrebu Dylunio; Dylunio: Cyfryngau Creadigol a Dylunio: Celf Gymhwysol.

Ein nod yw cynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn gallu cyfuno eu sgiliau cysyniadol a thechnegol mewn celf, dylunio a’r cyfryngau, ond sydd hefyd yn ymarferwyr dylunio sy’n rhannu cyd-weledigaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i ystyried cynlluniau dylunio yn holistig, yn strategol, yn wrthrychol, yn gymdeithasol, yn economaidd yn ogystal ag yn greadigol.

Mae’r galw mawr yn parhau am ddylunwyr sy’n gallu ymateb yn greadigol i broblemau celf a dylunio cymhwysol. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar iaith dylunio trwy archwilio a mynegi syniadau yn ogystal â thrwy’r defnydd o brosesau ac arferion yn y byd deunyddiau. Mae ein cyrsiau yn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu ac arferion proffesiynol ardderchog ac yn annog defnydd rhyngddisgyblaethol arloesol o gyfryngau a deunyddiau gwahanol. Ceir pwyslais cryf hefyd ar ddatblygu sgiliau rhyngbersonol trwy brosiectau a gwaith tîm cydweithredol.

Ffeithiau allweddol

  • Cwrs galwedigaethol cryf sydd â chysylltiadau rhagorol â’r diwydiant. Rydym wedi sefydlu cysylltiadau â diwydiannau yn lleol ac yn genedlaethol sy’n golygu y cewch gyfleoedd profiad gwaith arbennig
  • Mae’r tîm addysgu yn ymarferwyr sydd wrthi’n ymchwilio ac yn arddangos eu gwaith eu hunain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Cewch astudio mewn gweithdai pwrpasol yn ein hysgol gelf a dylunio arbennig ar Stryt y Rhaglaw, sy’n adeilad rhestredig Gradd II ar gyrion canol tref Wrecsam
  • Teithiau maes ac ymchwil i orielau celf a chasgliadau, arddangosfeydd, gwyliau a seminarau dylunio pwysig
  • Y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chynadleddau dylunio pwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Gweithio ar brosiectau a chomisiynau byr ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat
  • Cydweithio â dylunwyr eraill, trefnwyr digwyddiadau ac addysgwyr celf. Mae’r Brifysgol wedi sefydlu cysylltiadau â diwydiannau o bob maint, yn lleol ac yn genedlaethol. O ganlyniad, rydym yn croesawu artistiaid a dylunwyr gwadd i ddarlithio a dangos, yn ogystal â chynnal prosiectau cydweithredol a noddi diwydiannol, megis y rhai gan y Worshipful Company of Goldsmiths ac ein hwythnos Dyfodol Creadigol
  • Cyfleoedd i astudio dramor drwy’r Cynllun Erasmus. Mae gennym gysylltiadau â Ffrainc, Bwlgaria, y Ffindir, Sbaen, Academi Gelf Gwlad Pwyl yn Katowice a Phrifysgol Renmin yn Tsieina
  • Cewch arddangos eich gwaith mewn lleoliadau uchel-eu-proffil. Mae graddedigion y gorffennol wedi cael gwaith wedi’i arddangos yn Arddangosfa Dylunwyr Newydd yn y Ganolfan Dylunio Busnes, Llundain ac yn y ‘World of Glass’ yn Lerpwl

Cyfleoedd gyrfa

Mae ein graddedigion yn mynd i yrfaoedd mewn addysg, orielau, amgueddfeydd, gwaith adfer a manwerthu. Neu fe allech chi fynd yn hunangyflogedig fel artist, technegydd, dylunydd neu grefftwr. Mae cyfleoedd hefyd i chi wneud astudiaethau pellach ar lefel MA neu’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR/PGCE).

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Celfyddydau Cymwysedig

Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno i ddylunio a defnyddio cerameg, gwydr, gemwaith a gwaith metel i greu darnau addurniadol sy’n gwthio ffiniau ac sy’n defnyddio deunyddiau yn greadigol. Yn ystod eich gradd cewch eich tywys drwy’r gwahanol dechnegau er mwyn sicrhau eich bod yn deall deunyddiau a’r ffordd orau i gynllunio ar eu cyfer. Mae ffocws cryf ar werthoedd craidd dylunio, pethau fel cynulleidfa a chyfrifoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd, ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymarferoldeb, moeseg, cyfateb defnydd priodol o ddeunyddiau ag atebion cost-effeithiol, yn ogystal â gwerthoedd arloesol, esthetaidd a diwylliannol.

Asesu

Asesir gwaith cwrs ymarferol ar gyfer pob modiwl. Defnyddir asesu ffurfiannol fel ffordd o fonitro cynnydd ac yn hynny o beth fe all ddigwydd unrhyw adeg yn ystod modiwl. Ar ôl asesu ffurfiannol, mae’r myfyrwyr yn derbyn graddio band ond dim marc, sylwadau gwerthusol ar daflen atborth, a thiwtorial atborth ble y bo’n briodol. Ni cheir graddio terfynol nes yr asesu cyfansymiol ar ddiwedd y flwyddyn pan fydd gwaith yn cael ei osod eto, ei adolygu a’i gymedroli, a’i samplo gan yr arholydd allanol cyn i’r marciau gael eu cadarnhau yn derfynol.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yw 240 pwynt mewn pynciau lefel A perthnasol neu gyfwerth perthnasol.

Côd UCAS

Llawn amser: W201

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk