Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Celfyddyd Gain

BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain

Mynegwch eich meddyliau drwy gelf sy’n gwthio ffiniau syniadau newydd ac arloesi.

Celfyddyd Gain with pic

Gallech ddweud mai celf ar ei ffurf buraf yw celfyddyd gain ond mae un peth yn sicr - mae’n bendant yn un o’r rhai mwyaf heriol (a gwerth chweil) i’w meistroli. Ymunwch â’n gradd Celfyddyd Gain ac fe gewch eich tywys trwy ystod eang o feysydd - lluniadu, paentio, cerflunwaith, gwneud printiadau, gosodiadau, fideo a chyfryngau digidol a rhai sy’n seiliedig ar lens.

Gallwch ddewis arbenigo yn unrhyw un o’r rhain neu ehangu eich sgiliau ym mhob un ohonynt wrth i chi symud drwy’r radd.

Ffeithiau allweddol

  • Cyfleusterau Eithriadol – dewch i astudio mewn gweithdai sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer celfyddyd gain, a hynny yn ein hysgol gelf mewn adeilad rhestredig Gradd II ar gyrion canol tref Wrecsam
  • Cyfleoedd i chi arddangos eich gwaith yn Oriel Sycharth, sef oriel gelf gyfoes ar ein campws yn Wrecsam
  • Cysylltiadau cryf â diwydiant. Gall myfyrwyr y flwyddyn olaf arddangos eu gwaith mewn orielau celf rhanbarthol a chenedlaethol
  • Ymchwiliwch i’r hyblygrwydd a’r manteision rhyngddisgyblaethol a gynigir gan gelfyddyd gain – dysgwch am brosesau a syniadau dylunio, darlunio ac animeiddio a sut maent yn cyd-fynd â chelfyddyd gain
  • Cyfle i astudio dramor drwy’r Cynllun Erasmus
  • Artistiaid gwadd uchel eu proffil, gyda chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol; mae Estelle Thompson, ein Hathro Ymchwil gwadd mewn Celfyddyd Gain yn arlunydd cyfoes o fri rhyngwladol. Cewch gyfle i ddysgu oddi wrthi hi ac artistiaid eraill enwog sy’n ymweld
  • Mae lle mewn stiwdio o ansawdd uchel yn galluogi myfyrwyr i roi cynnig ar eu syniadau a dysgu drwy broses o osod, ailosod ac ailgyflunio eu gwaith

Cyfleoedd gyrfa

Cewch fynd ar drywydd gwaith mewn amrywiaeth o ddiwydiannau sy’n gysylltiedig â chelf. Mae cyfleoedd yn cynnwys sefydlu eich busnes eich hun; rhedeg oriel gelf; gweithio fel athro celf neu fel swyddog celf arbenigol yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol. Mae cyfleoedd hefyd i wneud astudiaethau pellach ar lefel ôl-raddedig. Bydd sgiliau trosglwyddadwy cyfathrebu a chyflwyno ardderchog yn golygu y byddwch yn ddeniadol i gyflogwyr o ddiwydiannau eraill.

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain

Mae pwyslais cryf ar dynnu llun, ar ddod yn feirniadol o’ch gwaith eich hun fel ffordd o’i wella, ac ar ddewis y deunyddiau iawn er mwyn gwneud y defnydd gorau bosibl o effaith eich prosesau meddwl a mynegiant creadigol wrth ddod â’ch syniadau yn fyw. Byddwch yn dysgu sut i addasu atebion creadigol i sefyllfaoedd newydd, sut i ganfod a datrys problemau yn ogystal â sut i reoli eich amser yn effeithiol. Fel rhan o’r cwrs byddwch yn datblygu sgiliau busnes, entrepreneuraidd a rheoli prosiect.

Safbwynt myfyriwr

"Mae astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi fy helpu i dyfu a datblygu yn sylweddol fel artist. Rwyf wedi gallu cymryd mantais o'r cyfleusterau helaeth sydd ar gael gyda chefnogaeth y staff, ac mae'r gymuned gelfyddydol sydd wedi cael ei datblygu yma yn ardderchog." 

Leanne Gilliam. Myfyrwraig, BA (Anrh) Celfyddyd Gain

Asesu

Mae asesu yn barhaus ac yn ymwneud â phob agwedd ar y cwrs. Cynhelir asesiadau ffurfiannol ar ddiwedd aseiniadau a modiwlau. Bydd eich gwaith yn cael ei adolygu o fewn amgylchedd gwaith cefnogol a rhoddir atborth yn rheolaidd gan eich galluogi i ddysgu yn sgil y broses asesu cyn cwblhau’r modiwl. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 240 pwynt UCAS. Disgwylir i chi hefyd gynhyrchu portffolio o waith celf yn arddangos eich diddordebau a’ch galluoedd.

Côd UCAS

Llawn amser: W000
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk