Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth

FdEng Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth

Mae’r economi fyd-eang yn dibynnu ar ddiwydiant sy’n llawn systemau rheoli: systemau sy’n lleihau’r angen am weithredu gan bobl.

Mae diwydiant angen peirianwyr all greu offer a systemau diwydiannol, a’u cynnal, datrys eu problemau a’u hatgyweirio. Mae’r cwrs awtomatiaeth yn mynd â chi drwy sgiliau craidd rheolaeth ac offeryniaeth, yna ymlaen i ddiagnosteg, rhwydweithiau data diwydiannol a diagnosteg beirianyddol.

Ffeithiau allweddol

  • Cwrs eang sy’n cwmpasu ystod helaeth o bynciau
  • Bydd y cynnwys diwydiannol arbenigol yn sicrhau eich bod yn ased i unrhyw gyflogwr ac yn eich galluogi i fynd i unrhyw un o sawl maes awtomatiaeth, offeryniaeth a rheolaeth
  • Byddwch yn gymwys i ymuno â’r Sefydliad Rheoli a Mesur (IMC) neu’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) fel aelod myfyriwr
  • Dim arholiadau. Cewch eich asesu yn gyfan gwbl drwy waith cwrs

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

  • sgiliau a gwybodaeth craidd ynghylch rheolaeth, offeryniaeth, mesur a phrofi a chymhwyso a phrofi
  • busnes a rheolaeth
  • iechyd a diogelwch
  • ymchwilio seiliedig ar waith
  • hyfforddiant diwydiannol
  • systemau PLC
  • rhwydweithiau data diwydiannol
  • offeryniaeth, rheoli, diagnosteg a systemau dylunio peirianyddol
  • sgiliau proffesiynol a rheoli prosiect
  • prosiect yn seiliedig ar waith

Cynnwys y cwrs

FdEng Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth

Mae Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth yn cynnwys ystod eang o bynciau a gyrfaoedd peirianneg. Byddwch yn dysgu am yr holl dechnolegau perthnasol a datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer peirianwyr a thechnegwyr arbenigol a chymwys. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys cynnal a chadw, calibro, dylunio, manylebu, gosod, datrys problemau ac atgyweirio systemau peirianneg.

Cyfleoedd gyrfa

Fel peiriannydd neu dechnegydd Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth gallwch ddisgwyl cyflog a buddion uwch na’r cyfartaledd. Mae peirianwyr o’r fath yn brin a byddwch yn denu sylw sylweddol gan gyflogwyr, gan y bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth iawn yn y maes.

Asesu

Asesir y radd yma yn gyfan gwbl gan waith cwrs.

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yn 120 pwynt o leiaf; fel arall fe ellid derbyn Tystysgrif Genedlaethol neu Gwrs Mynediad. Mae’n bosibl y cewch eich derbyn heb gymwysterau ffurfiol os gallwch ddangos fod gennych brofiad addas. Bydd disgwyl i chi fod yn gweithio mewn diwydiant perthnasol a chael cefnogaeth eich cyflogwr i astudio’r cwrs yma. Gweler y FdEng Automation, Instrumentation & Control modules.

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk