Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Astudiaethau’r Sgrîn

BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Sgrîn

Pam dewis Astudiaethau’r Sgrîn?

Os ydych yn cynllunio gyrfa sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau neu os oes gennych chi ddiddordeb yn yr amgylchedd wedi’i drwytho yn y cyfryngau yr ydym yn byw ynddo, ni fu erioed mor bwysig bod â dealltwriaeth ddeallus o fyd y cyfryngau. Mae’r cwrs gradd yma yn cwmpasu ystod amrywiol o bynciau cyfryngol, o hanes propaganda gwleidyddol i ffilmiau Hollywood ôl-fodernaidd, o greu realiti mewn newyddion teledu cyfredol i gynrychiolaeth rhyw (gender) a rhywioldeb mewn hysbysebion cylchgronau. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio nid yn unig i’ch helpu chi i ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau academaidd ac agweddau damcaniaethol, ond hefyd i feithrin sgiliau allweddol dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. 

Nodweddion arbennig

  • Ystod hynod o ddiddorol a llawn her o bynciau yn amrywio o destunau print, teledu a ffilm traddodiadol i brofiadau ar-lein yn y bydysawd digidol.
  • Ystyriaeth helaeth o’r ‘sgrîn fawr’ gyda phwyslais arbennig ar genres Hollywood a’r diwydiant ffilm cyfredol.
  • Mae gan fyfyrwyr fynediad i’r BFI Mediatheque yn Llyfrgell Wrecsam ar ei newydd wedd yng nghanol y dref. Mae’r adran yn cynnig dros 1500 o raglenni teledu a ffilmiau cyfan o Archif Genedlaethol y BFI (Sefydliad Ffilm Prydain) ac Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru.

Cyfleoedd gyrfaol

Fel graddedig Astudiaethau’r Sgrîn bydd gennych y wybodaeth academaidd a’r nodweddion personol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt gan gynnwys sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol, gallu ymchwilio, doniau cyfathrebu a rhyngbersonol clir, hunan-ysgogiad ac arbenigedd mewn defnyddio technoleg gwybodaeth fodern. Mae llawer o raddedigon yn penderfynu parhau â’u hastudiaethau i lefel uwchraddedig tra bod eraill yn cymryd mantais o gyfleoedd gyrfaol mewn newyddiaduraeth, darlledu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, llywodraeth leol a chanolog neu reolaeth.

Gwybodaeth am y cwrs

BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Sgrîn
BA (Anrh) Saesneg ac Astudiaethau’r Sgrîn

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs yn edrych ar rôl y diwydiannau cyfryngol a diwylliannol, yn y gorffennol ac yn y gymdeithas sydd ohoni. O ganlyniad, mae’r modiwlau yn gwneud defnydd o ystod eang o agweddau rhyngddisgyblaethol at y cyfryngau a chymdeithas gyda phwyslais arbennig ar agweddau ar astudiaethau ffilm, gwyddorau cymdeithasol, hanes, beirniadaeth lenyddol a chyd-destunau gwleidyddol ac economaidd.

Asesu

Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth eang o arddulliau a diwygiau gan gynnwys aseiniadau gwaith cwrs, arholiadau heb eu gweld, portffolios a chyfnodolion, astudiaethau achos, cyflwyniadau, adroddiadau ac ymarferion wedi’u hamseru. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio un o rannau olaf eich asesiad.

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion academaidd am o leiaf 240 pwynt yn lefel A.

Côd UCAS

Llawn amser: P300
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 3 mlynedd

Mae’r codau ar gyfer y cyfuniadau fel a ganlyn:

BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Sgrîn: P900
BA (Anrh) Saesneg ac Astudiaethau’r Sgrîn: PQ33

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk