Text begins here:
Astudiaethau Tai
BSc (Anrh) Astudiaethau Tai
FdSc Tai a Cymunedau Cynaliadwy
FdSc Tai â Chymorth
FdSc Adnewyddu a Chynaliadwyedd
Mae tai o ansawdd da yn hanfodol i iechyd a lles unigolion a chymunedau.
Wrth astudio tai byddwch yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol: Sut caiff tai eu darparu yn y Deyrnas Unedig? Beth allwn ni ei ddysgu o wledydd eraill? Sut gallwn ni helpu pobl i gael tai? Pa ffactorau sydd ar waith wrth ddatblygu tai newydd a gwella tai presennol?
Ffeithiau allweddol
- Mae BSc (Anrh) Astudiaethau Tai yn gwrs gradd ychwanegol, gall myfyrwyr fynd yn eu blaenau yn syth o’r radd sylfaen FdSc i'r radd BSc anrhydedd
- Mae pwyslais cryf ar ddysgu sy’n seiliedig ar waith. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddefnyddio a chymhwyso eu hastudiaethau academaidd i sefyllfaoedd ymarferol
- Mae gan ein tiwtoriaid gysylltiadau agos â’r diwydiant a chyrff proffesiynol, a datblygwyd y cyrsiau mewn ymgynghoriad â chyflogwyr
- Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys ymweliadau â safleoedd, astudiaethau achos “bywyd go-iawn" a gwaith gr ˆw p
- Bydd yr holl fyfyrwyr sy’n ymgofrestru ar gyrsiau tai yn dod yn aelodau myfyrwyr o Sefydliad Siartredig Tai
- Mae’r FdSc Astudiaethau Tai wedi'i achredu gan Sefydliad Siartredig Tai (CIH) ac mae'n cynnwys gofynion APEX. O ganlyniad, bydd yr holl fyfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais am aelodaeth broffesiynol lawn o'r CIH
- Daeth 95% o raddedigion Astudiaethau Tai o hyd i waith ar lefel graddedigion o fewn 6 mis ar ôl graddio**
Cyfleoedd gyrfa
- cyfleoedd yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol
- gweithio mewn rheoli tai
- cyngor ar dai
- datblygu tai
- cymorth tai
- atal digartrefedd
- cyfranogiad tenantiaid
- adnewyddu a gorfodi
Cynnwys nodweddiadol y cwrs:
Mae'r cyrsiau yn dwyn ynghyd elfennau o gymdeithaseg, economeg, gwleidyddiaeth, y gyfraith, rheoli busnes, cyllid a dylunio a datblygu. Bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, cyflwyno, rheoli prosiect, trefnu, meddwl yn feirniadol, ymwybyddiaeth strategol, hunanadfyfyrio, dadansoddi a datrys problemau.
Mae'r cyrsiau yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys: sgiliau gwaith grŵp, cyflwyniadau ac ysgrifennu adroddiadau. Mae’r cwrs hefyd yn annog myfyrwyr i fynd ati i adfyfyrio.
Cynnwys y cwrs
BSc (Anrh) Astudiaethau Tai
Byddwch yn datblygu eich sgiliau rhyng-broffesiynol, yn dysgu sut i reoli prosiect yn llwyddiannus ac yn gwerthfawrogi'r berthynas rhwng tai ac adfywio cynaliadwy. Byddwch hefyd yn gallu dewis opsiynau o amrywiaeth o fodiwlau megis mentora ar gyfer ymarfer tai a gwerthuso adeilad. Byddwch yn llunio traethawd hir ar faes o ddiddordeb i chi er mwyn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth fanwl ynghylch rhyw agwedd ar dai sy'n berthnasol i’ch sefydliad neu fudiad chi, ac a allai fod o fudd iddo.
Cyfarfod y fyfyrwraig - Tracy Hague
Asesu
Mae asesu ar gyfer y cwrs yn cynnwys portffolios, tasgau gweithle dynwaredol megis adroddiadau, papurau briffio, cyngor i gleientiaid a chyflwyno defnyddiau. Mae yna hefyd seminarau a gweithgareddau tîm.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau’r FdSc Astudiaethau Tai yn llwyddiannus.
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 4 blynedd
FdSc Astudiaethau Tai a Chymunedau Cynaliadwy
Datblygwyd y rhaglen hon i ddiwallu anghenion ymarferwyr sy’n gweithio mewn rôl sy’n gysylltiedig â rheoli a darparu tai fforddiadwy a datblygu cymunedol cynaliadwy. Mae’r rolau yn debygol o fod yn rhai eang a gallant gynnwys rheolwyr cymdogaeth, swyddogion rheoli tai, gweithwyr rhoi cyngor ar dai, swyddogion digartrefedd, swyddogion cyfranogiad tenantiaid a strategwyr tai a galluogwyr tai.
Gofynion mynediad
120 o bwyntiau UCAS. Ystyrir eich profiad proffesiynol.
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd.
FdSc Tai â Chymorth
Datblygwyd y rhaglen hon i ddiwallu anghenion ymarferwyr sy’n rhoi cefnogaeth yn ymwneud â thai i bobl sy’n agored i niwed. Gall eu rolau priodol fod yn un gweithredol neu strategol, wedi’i gomisiynu neu’n gytundebol, ac wedi’i leoli yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Prif nod y rhaglen yw darparu gwybodaeth ynghylch cyd-destun y cafodd tai a’r cymorth ar eu cyfer eu cynllunio, eu datblygu a’u cyflwyno er mwyn i’r dysgwyr ddadansoddi ac adfyfyrio ar sut y mae hyn yn effeithio ar arferion tai â chymorth yn gyffredinol ac yn eu rôl benodol hwy.
Gofynion mynediad
120 Pwynt UCAS. Bydd eich profiad proffesiynol yn cael ei ystyried.
Côd UCAS
Rhan-amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan-amser: 2 flynedd
FdSc Adnewyddu a Chynaliadwyedd
Datblygwyd y rhaglen hon i ddiwallu anghenion ymarferwyr sy’n ymwneud â datblygiad ffisegol tir, adeiladau ac isadeiledd cysylltiedig.
Prif nod y rhaglen yw sicrhau bod gan ymarferwyr y wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau i osod agweddau ar adfywio ffisegol o fewn adfywio economaidd a chymdeithasol, cynhwysiad cymdeithasol ac economaidd, ffyniant, addysg, tai, iechyd, datblygu cymunedol a'r amgylchedd.
Gofynion mynediad
120 Pwynt UCAS. Bydd eich profiad proffesiynol yn cael ei ystyried.
Rhan-amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan-amser: 2 flynedd.
O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau.
|