Astudiaethau Iechyd a Gofal
Diploma Addysg Uwch mewn Astudiaethau Iechyd a Gofal
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Astudiaethau Iechyd a Gofal
Os ydych yn gynorthwy-ydd iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r cyrsiau hyn yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg i’ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol os ydych eisoes yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a’ch bod yn dymuno cynyddu eich cymwysterau i’ch helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa neu fynd i faes arbenigol. Maent yn hyblyg, gan eich galluogi i astudio mewn maes sy’n berthnasol i’ch gwaith neu ddatblygu’n bersonol ar yr un pryd â gweithio.
Ffeithiau allweddol
- Mae’r cwrs yn eich galluogi i ddangos eich bod wedi cyrraedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’ch maes ymarfer
- I gyflogwyr, bydd y cyswllt â’r Safonau Cenedlaethol yn eu galluogi i greu gweithlu cymwys sy’n ateb anghenion iechyd / gofal cymdeithasol sy’n
cyson newid - Gallwch astudio ar eich cyflymder eich hun drwy drefnu cyfleoedd dysgu bychain
- Mae’n bosibl y bydd addysgu ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Llandrillo a Choleg Menai
Cyfleoedd gyrfa
Bydd astudio’r cwrs hwn yn eich helpu i fynd yn eich blaen yn eich swydd bresennol neu gallai fynd â chi i addysg broffesiynol neu i swyddi clinigol, rheoli neu addysg arbenigol yn eich maes ymarfer eich hun. Gallwch ddefnyddio’r cyrsiau hyn i ddatblygu i rôl Ymarferydd Cynorthwyol.
