Astudiaethau Anifeiliaid
BSc (Anrh) Astudiaethau Anifeiliaid
Beth am yrfa mewn amgylchedd amrywiol a gwerth chweil? Amcangyfrifir fod y diwydiant gofal anifeiliaid yn werth oddeutu £1 biliwn i Gynnyrch Domestig Gros y Deyrnas Unedig. Mae yna dros 13,000 o fusnesau yn cyflogi 47,500 o staff yn y DU. Gyda’r sgiliau cywir fe allech fod yn rhan o’r diwydiant cynyddol yma.
A ydych yn chwilio am yrfa foddhaus a llwyddiannus? Yna beth am baratoi ar gyfer swydd ym maes gofal anifeiliaid, ble gallech gael eich hun yn gweithio yn unrhyw le yn y byd gyda rhywogaethau gwahanol yn amrywio o fwncïod i bryfaid.
Bydd ein gradd sylfaen astudiaethau anifeiliaid yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi i roi’r driniaeth orau bosibl i anifeiliaid.
Mae yna alw cynyddol am arbenigwyr cymwys a medrus. Byddwn yn eich cyflwyno i fywyd yn y diwydiant gofal anifeiliaid, ac i’r materion a’r trafodaethau cyfredol yn ymwneud â lles ac anifeiliaid.
Ffeithiau allweddol
- Astudiwch yn ein campws yn Llaneurgain, wedi’i osod yng nghefn gwlad gogoneddus Gogledd Cymru – amgylchedd delfrydol ar gyfer astudiaethau anifeiliaid
- Mynediad i uned anifeiliaid ble ceir cannoedd o wahanol rywogaethau o anifeiliaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid egsotig
- Cewch brofiad ymarferol o weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid mewn cyfleuster newydd sbon ar gyfer anifeiliaid a fferm anifeiliaid prin
- Cewch ddatblygu gwybodaeth fanwl am ymddygiad anifeiliaid, hwsmonaeth, a hyfforddi
- Amgylcheddau astudio trefol a gwledig – rhannwch eich amser rhwng Sir y Fflint a’n campws yn Wrecsam, ar gyrion y dref fwyaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
- Cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant. Cyfleoedd i sicrhau lleoliadau gwaith a fydd yn hybu eich rhagolygon gyrfaol. Cewch brofiad mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ymarferol, o waith mewn sw i hyfforddi cŵn cymorth
- Staff sy’n weithredol mewn diwydiant ac sydd â sgiliau academaidd arbenigol a sgiliau ymarferol, ynghyd â phrofiad o weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid domestig a gwyllt
- Ewch ymlaen i wneud gradd BSc (Anrh) lawn mewn Astudiaethau Anifeiliaid ar ôl cwblhau’r radd sylfaen (mae angen blwyddyn arall o astudio ar gyfer hyn, yn amodol ar gael ei ddilysu)
Cynnwys nodweddiadol y cwrs:
- profiad gwaith yn y sector anifeiliaid
- hwsmonaeth anifeiliaid caeth a chynllunio llociau
- etholeg ac anthroswoleg
- iechyd anifeiliaid
- deiet a bwydo anifeiliaid
- dysgu a hyfforddi anifeiliaid
- cadwraeth
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant gofal anifeiliaid yn eang. Gallech fod yn gweithio mewn cyrff lles anifeiliaid, cadwraeth, swau a pharciau bywyd gwyllt, milfeddygfeydd, cwmnïau bwyd anifeiliaid a chwmnïau milfeddygol neu fferyllyddol. Mae yna gyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach ar gael, megis symud ymlaen i flwyddyn olaf gradd anrhydedd gysylltiedig. Gallai hyn arwain at yrfa mewn addysg neu ymchwil.
