Astudiaethau Adeiladu
BSc (Anrh) Astudiaethau Adeiladu (Rheoli Adeiladu)
Mae cadwraeth a rheoli ein hamgylchedd a’n treftadaeth adeiledig wrth wraidd y cwrs hwn. Ond rydym yn canolbwyntio ar y dyfodol – mae’r heriau sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn hanfodol i lwyddiant unrhyw strategaeth i frwydro yn erbyn cynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn technegau adeiladu traddodiadol a modern, yn ogystal ag ehangu eich gwybodaeth am y gyfraith, cynaliadwyedd, economeg, rheoli busnes a phatholeg diffygion a dirywiad.
Mae’r galw am adeiladau newydd yn gyson sefydlog, ac adeiladau presennol hefyd angen gofal a sylw i gynnal eu potensial. Mae’r amgylchedd adeiledig hefyd angen addasu i ofynion deddfwriaethol neu rai’r perchennog a’r preswylydd, yn ogystal â bodloni meini prawf perfformiad ac ymarferoldeb economaidd.
Ffeithiau allweddol
- Grwpiau tiwtorial bychan eu maint yn golygu fod myfyrwyr yn cael llawer o gefnogaeth gan diwtoriaid
- Mae’r cyrsiau wedi’u hachredu’n llawn gan ddau gorff proffesiynol - Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) a Chymdeithas y Peirianwyr Adeiladu (ABE), gan roi mynediad i gymwysterau trosglwyddadwy yn Ewrop a Statws Siartredig yn y DU. Mae llwyddo i gael gradd anrhydedd yn sicrhau eithriad llawn o arholiadau proffesiynol yr ABE a’r CIOB
- Pwyntiau mynediad a llwybrau dilyniant hyblyg
- Mynediad uwch i’r rheiny sydd â chymwysterau proffesiynol neu academaidd perthnasol
- Cyfleoedd ar gyfer ymweliadau i Ewrop a thramor
Dyma elfennau allweddol y cwrs:
- cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni
- y gyfraith
- rheoli iechyd a diogelwch
- tirfesur ymarferol
- adeiladu
- economeg
- sgiliau rheoli proffesiynol a gwybodaeth fusnes
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn:
- dylunio â chymorth cyfrifiadur
- arwain tîm
- dadansoddi ac ymchwilio
- cyflwyno
- datrys problemau
- arloesi a sgiliau rheoli prosiect
Cyfleoedd gyrfa
- mae’r diwydiant adeiladu yn parhau i fod yn un o sectorau mwyaf yr economi
- mae cyfleoedd ar gael yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Er enghraifft, mewn llywodraeth leol a chanolog, cymdeithasau tai, contractio adeiladu, datblygu eiddo a phractis proffesiynol
- mae rheoli adeiladu yn gysylltiedig agos â gyrfaoedd mewn rheoli cynnal a chadw a datblygu cynaliadwy
