Text begins here:
Addysg a hyfforddiant proffesiynol
BA (Anrh) Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol
FdA Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol*
Dywed sefydliadau llwyddiannus wrthym fod gweithlu wedi’i hyfforddi yn broffesiynol yn hanfodol ar gyfer eu dyfodol.
Mae addysg, hyfforddiant a datblygiad yn dyngedfennol i lwyddiant sefydliadau ac mae’r rheiny yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn dod yn fwfwy ymwybodol o bwysigrwydd buddsoddi yn eu hadnodd mwyaf gwerthfawr, sef eu gweithwyr.
Wrth astudio’r rhaglen, byddwch wrth graidd y broses ddeinamig hon. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae sefydliadau llwyddiannus wedi’u dynodi fel rhai hanfodol ar gyfer cyflogadwyedd graddedigion ac yn hanfodol ar gyfer hyfforddiant effeithiol ac addysg barhaus. Bydd y rhaglen yn sicrhau fod gennych y cymwyseddau i fod yn ymarferydd addysg a hyfforddiant ysbrydoledig, gan arwain eraill yn eu gwaith, tra’n datblygu eich hun fel gweithiwr proffesiynol medrus a myfyriol.
Mae’r cwrs yn edrych tu hwnt i hyfforddiant traddodiadol at addysg mewn synnwyr llawer ehangach, gan hynny yn annog dysgu gydol oes trwy ddatblygiad personol, academaidd a phroffesiynol.
Trwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir a phrofiadau ar leoliad, byddwch yn datblygu eich doniau entrepreneuraidd, arloesol a chreadigol.
Ffeithiau allweddol
- Mae’r rhaglen yn cynnwys cymhwyster addysgu cychwynnol achrededig – Cyflwyniad i Addysgu yn y Sector Gydol Oes
- Cynlluniwyd y cwrs yma mewn partneriaeth â sefydliadau sydd wedi dynodi angen am ystod eang o sgiliau graddedig ym maes addysg a hyfforddiant proffesiynol
- Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau mewn entrepreneuriaeth, arloesedd, creadigrwydd, cyfathrebu ac yn eich galluogi i gymhwyso modelau a theorïau sy’n ategu agwedd fodern at addysg a hyfforddiant
- Mae cyfleoedd lleoliad yn cynnwys y sectorau preifat a chyhoeddus, lleoliadau diwylliannol a threftadaeth ac addysgMae arferion cynllunio a myfyriol datblygiad personol yn rhannau allweddol o’r cwrs a fydd yn rhoi’r cyfle i chi asesu eich rheolaeth bersonol, academaidd a gyrfaol yn effeithiol
- Mae astudiaeth drafodedig yn darparu cyfleoedd dysgu personoledig
- Mae gan Brifysgol Glyndŵr brofiad sylweddol a hanes hir o gynnig cyrsiau addysg
Cynnwys y cwrs
BA (Anrh) Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn ymarferion a theor ï au addysg a hyfforddiant mewn lleoliad proffesiynol. Byddwch yn cwmpasu cynllunio, trefnu, cyflwyno ac asesu addysg a hyfforddiant i staff mewn ystod eang o weithleoedd trwy nifer o fodiwlau gan gynnwys y wobr Cyflwyniad i Addysgu yn y Sector Gydol Oes . Cefnogir y rhan yma o’r cwrs gan Gwirio Safonau’r DU (SVUK).
Mae’r meysydd y mae’r cwrs yn eu cwmpasu yn cynnwys:
- Arloesedd, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth
- Cyfathrebu proffesiynol / rhifedd / llythrennedd / cysyniadau TGCh
- Sgiliau astudio academaidd ac ymchwil weithredu
- Rheoli a Threfnu Digwyddiadau
- Amgylcheddau addysg a hyfforddiant effeithiol
- Datblygu’r unigolyn a chysyniadau hyfforddi a mentora
- Ymarfer cynhwysol
- Polisi ac atebolrwydd proffesiynol
* yn amodol ar gael ei ddilysu
Cyfleoedd gyrfa
Gydag agenda’r llywodraeth yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd, cynaliadwyedd a mantais gystadleuol yn yr economi fyd-eang, bydd y cwrs yma yn paratoi cyflogedigion ar gyfer ystod amrywiol o yrfaoedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus, lleoliadau diwylliannol a threftadaeth ac addysg.
Bydd y rhaglen yn eich paratoi’n llawn ar gyfer swyddi addysg a hyfforddiant, er enghraifft swyddog/rheolwr addysg a swyddog hyfforddiant / rheolwr cyffredinol, mentor, hyfforddwr busnes, naill ai fel cyflogedig neu fel rhywun sy’n gweithio ar ei liwt ei hun.
Mae yna hefyd gyfloedd i symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig ac ymchwil yn y maes yma. Mae llwybrau ym Mhrifysgol Glyndŵr yn cynnwys Tystysgrif Proffesiynol i Raddedigion mewn Addysg (PGCE) ac MA Addysg.
Hyd y cwrs
Llawn amser
3 blynedd
Gofynion Mynediad a gwneud cais
Mae’r rhaglen yn agored i gyfranogwyr sy’n cwrdd â’r meini prawf canlynol yn llwyddiannus ar gyfer mynediad:
- 240 pwynt UCAS neu gyfatebol a
- TGAU Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg – isafswm gradd ‘C’ neu isafswm Lefel 2 mewn Llythrennedd a Rhifedd (mynediad trwy’r llwybr Mynediad i Addysg Uwch), neu gyfatebol
Ar gyfer ymgeiswyr hŷn heb gymwysterau ffurfiol, bydd profiad gwaith mewn meysydd priodol yn cael eu hystyried ar sail unigol.
Yn yr un modd, bydd ceisiadau gan y rheiny sy’n dymuno cael mynediad i’r rhaglen gyda dysgu blaenorol a/neu brofiad perthnasol, yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â gweithdrefnau AP(E)L Prifysgol Glyndŵr.
Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y radd yma, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn gymwys i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
Côd UCAS: XN36
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|