Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol

BA (Anrh) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

Mae’r Brifysgol wedi datblygu enw rhagorol ers 1946 am ddarparu ystod eang o raglenni addysg, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer athrawon yn y sector ôl-orfodol.

Mae ein gradd BA (Anrh) Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol yn gwrs atodol os oes gennych Dystysgrif mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol). Mae’n rhaglen ddelfrydol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus os ydych chi’n gweithio yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Gallwch astudio’r materion diweddaraf mewn addysgu a rhoi hwb ychwanegol i’ch sgiliau addysgu ymarferol. Yn sgil ymgyrch y llywodraeth i godi safonau addysgu ar draws y sector addysg, gan gynnwys ôl-orfodol, mae ein gradd yn ychwanegu at y credydau fydd gennych drwy eich Tystysgrif mewn Addysg.

Ffeithiau allweddol

  • Dewisiadau astudio hyblyg - rydym yn darparu’r cwrs mewn amrywiaeth o ffyrdd i gyd-fynd â’ch hoff ddull chi
  • Cysylltiadau cryf â cholegau addysg bellach a sefydliadau hyfforddiant yn lleol
  • Amrywiaeth o ddulliau asesu a fydd yn hogi eich sgiliau dysgu ymhellach, gan gynnwys cyflwyniadau, aseiniadau ysgrifenedig, astudiaethau achos a gwerthuso beirniadol ac adfyfyriol

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

Mae’r BA (Anrh) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn cynnwys yr holl wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch ar gyfer addysgu ôl-orfodol. Bydd y pynciau a astudiwch yn cynnwys strategaethau mentora, strategaethau arsylwi yn y dosbarth, dysgu cynhwysol, addysg alwedigaethol ac athroniaeth addysg. Mae hefyd yn llwybr i chi ymgymryd ag ymchwil ychwanegol a gweithgarwch ysgolheigaidd yn eich gweithle hun.

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

Ceir cymysgedd o gynnwys craidd – dulliau ymchwilio a thraethawd hir – a chynnwys sy’n ddewisol.

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar gyfer y radd yma gan gynnwys cyflwyniadau, aseiniadau ysgrifenedig, astudiaethau achos a gwerthuso beirniadol a myfyrio. Trwy gydol y cwrs mae’r strategaethau asesu yn canolbwyntio ar arferion gweithiol ôl-orfodol ac fe fyddwch, ble bynnag y bo modd, yn cael eich annog i gynhyrchu eich tystiolaeth aseiniad o’ch cyd-destun gwaith eich hun. Bydd traethawd estynedig yn ofynnol fel rhan olaf yr asesu ar gyfer y cwrs. 

Gofynion mynediad

Mae gofyn i chi fod â Thystysgrif mewn Addysg (PcET). Disgwylir hefyd eich bod wedi addysgu am yr hyn sy’n cyfateb i o leiaf tair blynedd o addysgu llawn-amser yn y sector addysg ôl-orfodol. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol y cyfnod hwn, neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: oddeutu 2 flynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk