Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Aciwbigo

BSc (Anrh) Aciwbigo

Mae Meddygaeth Dsieineaidd yn system o iacháu sy’n seiliedig ar y ddealltwriaeth Dsieineaidd o’r gyfatebiaeth rhwng natur (Tao) a bodau dynol.

Mae’r cwrs gradd Acwbigo yn cyflwyno damcaniaethau Meddygaeth Dsieineaidd gan gynnwys egwyddorion Yin a Yang, macrocosm a microcosm, Qi, diagnosteg a’r modd y maent yn cael eu cymhwyso i ymarfer.

Mae’r athroniaeth yma yn seiliedig ar gyfaniaeth, a phrif nod y driniaeth yw galluogi’r cleient i adfer cydbwysedd newydd a dychwelyd i gyflwr o iechyd a lles.

Ffeithiau allweddol

  • Mae’r graddau yn cwmpasu ystod o sgiliau therapiwtig mewn meddygaeth gyflenwol
  • Achredir y cwrs gradd Meddygaeth Gyflenwol mewn Ymarfer gan Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol ac achredir y cwrs gradd Meddygaeth Dsieinaidd (Acwbigo) gan y Gymdeithas Meddygaeth Dsieineaidd Draddodiadol
  • Mae gan Brifysgol Glyndŵr glinig ar y campws ble byddwch yn gallu cael yr holl brofiad sydd arnoch ei angen i fod yn glinigydd cymwys a phroffesiynol
  • Bydd astudio’r cwrs gradd Therapïau Cyflenwol mewn Ymarfer yn eich galluogi i fod yn gymwys ar gyfer Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol (FHT) fel aelod dan hyfforddiant ac yn yr un modd bydd y cwrs gradd Meddygaeth Dsieineaidd (Acwbigo) yn eich galluogi i ymuno â’r Gymdeithas Meddygaeth Dsieineaidd Draddodiadol (ATCM) fel aelod dan hyfforddiant. Unwaith y byddwch yn gymwys, byddwch yn gallu hysbysu’r corff perthnasol o’r newid yn eich statws o fod yn fyfyriwr i fod yn ymarferydd
  • Mae’r pwyslais arnoch chi yn cael profiad ymarferol yn ein clinig yn ogystal â dysgu sgiliau busnes allweddol i’ch galluogi i sefydlu eich busnes eich hunain pe baech yn dewis dilyn y llwybr gyrfaol yma

Cyfleoedd gyrfa

Mae’r cyfleoedd gyrfa yn cynnwys:

  • hunangyflogaeth yn y sector preifat
  • gweithio mewn canolfan therapi neu ganolfan ailhyfforddi chwaraeon
  • addysgu
  • astudio PhD neu radd Meistr
  • Mae llawer o’n graddedigion meddygaeth gyflenwol yn sefydlu eu busnesau eu hunain

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Aciwbigo

Byddwch yn dysgu’r sgiliau diagnostig sydd eu hangen i ymarfer Meddygaeth Dsieineaidd, yn ogystal â dysgu am faeth a’r corff dynol fel y byddwch yn gallu diagnosio yn hyderus a gwybod pan fydd angen cyfeirio at arbenigwyr eraill o fewn y sector iechyd. Yn ogystal â dysgu sut i gyflawni aciwbigo byddwch hefyd yn dysgu am Tui Na.

Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolios proffesiynol, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Mae traethawd estynedig yn ffurfio rhan olaf yr asesu.

Gofynion mynediad

Gofynion academaidd y rhaglen hon yw 240 pwynt UCAS mewn pynciau lefel A perthnasol neu gyfwerth. Croesewir ceisiadau gan unrhyw un sy’n dangos y gallu a’r profiad i ddelio gyda gofynion y rhaglen. Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cwrs gradd yma bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.

Côd UCAS

Llawn amser: B341
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 blynedd

Cwestiynau a holir yn aml

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk